5 April 2022

Available for over a year

Post Prynhawn - Beryl y Nyrs

Ar Post Prynhawn dydd Llun mi gafodd Nia Cerys sgwrs efo Beryl Roberts, nyrs arbennig sy newydd ymddeol yn 55 oed. Cychwynnodd ei gyrfa yn ysbyty Clatterbridge ac mae hi wedi gweithio gyda chleifion Canser ers hynny yn Ysbyty Gwynedd, Ysbyty Glan Clwyd ac yn Wrecsam. Dyma i chi flas ar y sgwrs ...

Cleifion - Patients

Triniaethau - Treatments

Y gweddill - The rest

Datblygu - To develop

Pennaeth - Head

Sgileffeithiau - Side-effects

A phob lwc i Beryl ar ei hymddeoliad ynde?

Beti a Beks

Beks - Rebekah James oedd gwestai Beti George wythnos diwetha. Roedd Beks yn arfer cyflwyno rhaglenni ar Radio Cymru ond erbyn hyn mae hi'n byw yn Hong Kong. Dyma i chi ran o'r sgwrs efo Beti ble mae Becks yn esbonio pam gwnaeth hi werthu ei thŷ, a'i char a rhoi'r gorau i'w gyrfa efo'r BBC ugain mlynedd yn ôl....

Cyflwyno - To present

Rhoi'r gorau i - To give up

Cwympo - Syrthio

Anhygoel - Incredible

Delfrydol - Ideal

Yn llythrennol - Literally

Enfawr - Huge

Ysgariad - Divorce

Go gyhoeddus - In the public eye

...ac mae Beks yn dathlu ei phenblwydd yn 50 eleni a dw i'n siŵr bydd yna dipyn o ddathlu draw yn Hong Kong.

Aled Hughes - Edina a Lin

Y Gymraeg sydd yn cysylltu Edina Potts-Clement o Hwngary a Lin Dodd o Tsieina ac mae'r ddwy erbyn hyn yn gweithio yn yr un ysgol - Ysgol Gymraeg Caerffili. Gofynnodd Aled Hughes i'r ddwy ohonyn nhw ar ei raglen bore Mawrth pam wnaethon nhw ddysgu Cymraeg

Addysg Cyfrwng Cymraeg - Welsh medium education

Cymraeg yw iaith y dyfodol - clywch clywch Lin.

Bore Cothi - Rich Pooley

Heledd Cynwal oedd yn cadw sedd Shan Cothi yn gynnes fore Iau a buodd hi'n sgwrsio efo Richard Pooley sy'n byw yn Shotton yn Sir y Fflint, ond sy'n dod o Gaerdydd yn wreiddiol ac sydd wedi bod yn dysgu Cymraeg ers 8 mlynedd. Mae Richard wedi dechrau Clwb Siarad Shotton i roi cyfle i ddysgwyr ac i siaradwyr y Gymraeg yr ardal ddefnyddio'r iaith

Ymdrech - Attempt

Cylchdaith - Circuit

Addas - Appropriate

Profiadau - Experiences

Cefnogol - Supportive

Syniadau gwych yn fan'na gan Richard Pooley am sut i roi cyfleoedd i bobl ardal Shotton ddefnyddio eu Cymraeg.

Ar Blat - Owain Wyn Evans

Buodd Beca Lyne-Pirkis yn siarad efo Owain Wyn Evans, y cyflwynydd tywydd, ac os dach chi'n cofio llwyddodd Owain i chwarae'r drymiau am 24 awr er mwyn codi arian i Plant Mewn Angen y llynedd. Dyma Owain yn sôn am sut oedd drymio wedi bod o help iddo fo mewn cyfnodau anodd pan oedd o'n ifanc...

Cyfnodau - Periods of time

Hoyw - Gay

Ffonau symudol - Mobile phones

Estron - Foreign

Owain Wyn Evans y cyflwynydd tywydd oedd hwnna'n sgwrsio efo Beca Lyne-Pirkis.

Byd Iolo

Aeth Iolo Williams ar daith i Allerdale yng ngogledd yr Alban - rhyw awr a hanner i'r gogledd o Inverness ac mi aeth o â ni, gwrandawyr Radio Cymru, ar y daith efo fo.....

Gwarchodfa - Nature reserve

Erwau - Acres

Hir dymor - Long term

Ail-wylltio - Rewilding

Ysgubor - Barn

Baw - Excrement

Ucheldir - Highlands

Tylluan - Owl

Nythu - To nest

Hela - To hunt