26 April 2022

Available for over a year

Bore Cothi - Ciwcymbyr

Mae na ddywediad Saesneg 'cool as a cucumber' yn does? Ond beth sydd y tu ôl i'r dywediad hwn tybed? Alison Huw fuodd yn sgwrsio am hyn efo Shan Cothi...

Sail wyddonol - A scientific basis

Oeri'r gwaed - Cools the blood

Ar drothwy - The onset of

Cynnwys - To include

Dyfrllyd - Watery

Unigryw - Unique

Si - A rumour

Rhesymol - Reasonable

Rhwydd - Hawdd

Cnwd - Crop

Dyna ni felly - ewch ati i blannu'ch ciwcymbers!

Eden

Cafodd y band Eden ei ffurfio yn 1996 ac ar ôl cyfnod o beidio perfformio mi ddaethon nhw'n ôl at ei gilydd yng ngwyl fawr Caerdydd, Tafwyl, yn 2016. Cafodd hyn ei ddisgrifio fel 'comeback' y ganrif ar Golwg 360! Roedd Rachael Solomon yn aelod o'r band a hi oedd gwestai Iwan Griffiths fore Sul. Dyma hi'n sôn am y profiad o berfformio yn Tafwyl...

Man a man - Might as well

Ymateb - Response

Symudiadau - Movements

Cynulleidfa - Audience

Synnu - To be surprised

Cysylltu - To connect

Www, caneuon newydd gan Eden - rhywbeth i edrych ymlaen ato ynde?

Aled Hughes Siarcod

Ar raglen Aled Hughes clywon ni Lowri O'Neill, myfyrwraig bywydeg ym Mhrifysgol Abertawe, yn sôn am ei phrofiadau yn nofio efo siarcod yn Hawaii. Oedd hi mewn cawell? Oedd yna reolau am sut i ymddwyn wrth nofio efo nhw? Dyna oedd rhai o gwestiynau Aled i Lowri...

Bywydeg - Biology

Cawell - Cage

Ymddwyn - To behave

Bwystfil - Monster

O hyd - Length

Yn y bôn - Basically

Cystadleuaeth syllu - Staring competition

Ymddangos - To appear to

Ysglyfaethod gweithredol - Predator

Yn ôl pob golwg - Apparently

Merch ddewr iawn ydy Lowri O'Neill ynde?

Bore Cothi - deg uchaf adar

Dan ni'n aros efo byd natur rŵan ond efo rhywbeth dipyn llai peryglus na siarcod sef yr adar sy'n dod i'n gerddi yng Nghymru. Gofynnodd yr RSPB i bobl nodi pa adar oedden nhw'n eu gweld yn eu gerddi ac mi wnaeth Daniel Jenkins Jones rannu deg ucha yr arolwg ar raglen Shan Cothi...

Arolwg - Survey

Crybwyll - To mention

Ymdrech - Attempt

Ji-binc - Chaffinch

Pioden - Magpie

Nico - Goldfinch

Ysguthan - Woodpigeon

Drudwy - Starling

Titw Tomos las - Blue tit

Aderyn y to - House Sparrow

Aderyn y to yn ennill unwaith eto, chwarae teg ynde?

Dros Ginio - Mererid a Hanna

Mam a merch oedd gwesteion Dau cyn Dau Dewi Llwyd bnawn Llun diwetha a'r ddwy yn byw yn ardal Caerfyrddin, sef y prifardd Mererid Hopwood a'i merch, y cyflwynydd radio a theledu Hanna Hopwood. Nid yng Nghymru cafodd Hanna ei geni a dyma Mererid yn dweud rhagor am hynny...

Prifardd - National crowned/chaired poet

Cyflwynydd - Presenter

Tystysgrif geni - Birth certificate

Yn benderfynol - Determined

Sylweddoli - To realize

Y cyfnod Llundeinig - The London period

...a dyna beth da bod y teulu wedi symud i Gymru ynde, fel ein bod ni'n medru gwrando ar Hanna'n cyflwyno Gwneud Bywyd yn Haws ar Radio Cymru.

Y Ffatri Ddillad

Roedd ffatri ddillad Laura Ashley yn gyflogwr pwysig yng ngogledd Powys gan roi gwaith i tua wyth cant o bobl yr ardal ar un adeg. Buodd Eddie Bebb o Lanidloes yn gweithio i'r cwmni am 37 o flynyddoedd a chafodd Sian Sutton sgwrs efo am ddyddiau cynnar a llewyrchus Laura Ashley...

Cyflogwr - Employer

Llewyrchus - Prosperous

Hwb - A boost

Ysbryd - Spirit