14 June 2022

Available for over a year

Dros Ginio Dafydd Iwan

Mi fydd tîm pêl-droed Cymru yn cystadlu yng Nghwpan y Byd yn Qatar fis Tachwedd ar ôl i'r tîm guro Wcráin yn Stadiwm Dinas Caerdydd wythnos diwetha. Mi wnaeth y crysau coch yn wych ond roedd canu'r Wal Goch yn bwysig hefyd yn enwedig wrth iddyn nhw ganu 'Yma o Hyd' efo Dafydd Iwan. Dyma Dafydd yn sôn am y profiad ar Dros Ginio

Breuddwyd - A dream

Cyfuno - To combine

Manteisio ar y cyfle - Taking advantage of the opportunity

Bwriadol - Intentional

Mynegi teimladau - Expressing the feelings

Rhyfeddol - Wonderful

Cyfraniad - Contribution

Trefnwyr cefn llwyfan - Backstage organisers

Profiad bythgofiadwy - An unforgettable experience

Ac mi gyrhaeddodd y gân 'Yma o hyd' rhif 1 yn siart I-Tunes wythnos diwetha - anhygoel ynde?

Arfon Wyn

Un o arwyr Cymru yn y gêm oedd y gôl-geidwad, neu'r gôli, Wayne Hennessey. Aeth Wayne i ysgol gynradd Biwmares pan oedd o'n blentyn a dyma i chi Arfon Wyn, oedd yn bennaeth yr ysgol ar y pryd, yn sôn wrth Dylan Ebenezer am sut dechreuodd gyrfa bêl-droed Wayne...

Pennaeth - Head

Hogyn dymunol - A likeable boy

Dihyder - Lacking in confidence

Dirprwy - Deputy

Syth bin - Straight away

Menyg - Gloves

Wedi dotio - Wrth ei fodd

Y gamp - The sport

Diolch i staff Ysgol Biwmares ynde, am roi'r cyfle cynta i Wayne Hennessy.

Beti a Geraint Davies

Geraint Davies oedd gwestai Beti a'i Phobol dydd Sul

Eleni mae Geraint wedi ymddeol fel cynghorydd sir dros ardal Treherbert yng Ngwm Rhondda ar ôl iddo fo wneud y gwaith am dros 30 mlynedd. Buodd o hefyd yn Aelod Cynulliad dros y Rhondda rhwng 1999 a 2003, roedd o'n fferyllydd yn y cwm am flynyddoedd maith a hefyd yn aelod o'r clwb tenis lleol. Dyn prysur iawn felly...

Aelod Cynulliad - Assembly member

Fferyllydd - Chemist

Cyflwyniad - Introduction

Sbort mawr - Llawer o hwyl

Parhau eich bywyd - Prolong your life

Ymennydd - Brain

Poblogaidd - Popular

Rhyfedd - Strange

Wedi cwympo - Had fallen

O ganlyniad - As a consequence

Diddorol ynde - Covid wedi gwneud i bobl feddwl mwy am eu hiechyd a'u ffitrwydd.

Aled Hughes ac Alex Harry Gemau'r Gymanwlad

Mi wnawn ni aros ym myd y campau rŵan ond y tro 'ma efo Gemau'r Gymanwlad. Bydd y gemau'n cael eu cynnal yn Birmingham ddiwedd mis Gorffennaf ac un o'r athletwyr fydd yn mynd i Birmingham ydy Alex Harry, sy'n dod o Lanelli yn wreiddiol, ac sy wedi cael ei dewis yn rhan o dim reslo Cymru. Dyma flas i chi ar y sgwrs rhwng Aled Hughes ac Alex...

Gemau'r Gymanwlad - The Commonwealth Games

Pwysau - Weight

I gael dy ystyried - For you to be considered

Cynrychioli dy wlad - Representing your Country

Aled Hughes a Non Stanford

Pob lwc i Alex ynde a hefyd i Non Stanford sydd yn rhan o dîm triathlon Cymru. Pa fath o baratoadau mae hi wedi eu gwneud ar gyfer Gemau'r Gymanwlad tybed? Aled Hughes oed yn holi eto...

Paratoadau - Preparations

Canolbwyntio - To concentrate

Cic lan y pen-ôl - A kick up the backside

Cydwybod - Conscience

Geraint Lloyd a Nia Medi

Wel, dan ni wedi sôn am bêl-droed, tenis, athletau ac rŵan dan ni'n mynd i glywed hanes criw bach sydd am seiclo o Lundain i Amsterdam - Fflamingos Pinc Trystan. Mae'r pum 'fflamingo' am wneud y daith er cof am eu ffrind Trystan Gwyn Rees fuodd farw dair blynedd yn ôl. Geraint Lloyd fuodd yn holi un o'r criw, Nia Medi...

Er cof am - In memory of

Cymeriad lliwgar - A colourful character

Tyle - Hill

Galar - Bereavement

Cyfnod tywylla ein bywydau - Darkest period of our lives

Doniol - Amusing

Cynghori - To advice