10 May 2022

Available for over a year

Bore Cothi Anne Henrot

Un o Wlad Belg ydy Anne Henrot ac mi ddechreuodd ddysgu Cymraeg ym 1984 ar ôl bod ar wyliau i Gymru. Mi wnaeth hi deithio ar hyd a lled Cymru pan oedd hi yma - o Gaerdydd i Fangor. Mae hi wedi ymweld â Chasgwent sawl gwaith ac mae wrth ei bodd gyda'r ardal.

Dyma Anne yn dweud wrth Shan Cothi sut a pham dechreuodd hi ddysgu Cymraeg.

Gwlad Belg - Belgium

Yn rhyfeddol - Wonderous

Ail-ddechreuais i - I re-commenced

Anne Henrot, fuodd yn Nant Gwrtheyrn am bythefnos yn unig, a heblaw am hynny wedi dysgu Cymraeg yn ei chartref yng Ngwlad Belg. Gwych ynde?

Aled Hughes ac Ezzati Ariffin

Mae E'zzati yn dod o Brunei yn wreiddiol, ond mae hi'n disgrifio ei hun fel "merch Bruneian yng Nghymru" erbyn hyn. Buodd hi'n egluro wrth Aled Hughes mwy am yr ŵyl Hari Raya Aidilffitri sydd yn dathlu diwedd cyfnod ymprydio Ramadan.

Gŵyl - Festival

Ymprydio - Fasting

Am wn i - As far as I know

Canolbwyntio - To concentrate

Dihuno - Deffro

Bennu - Gorffen

Dathliad - A celebration

A phob hwyl i bawb fydd yn dathlu Hari Raya Aidilffitri, neu Eid al-Ffitr iid ffitr, ynde?

Gwneud Bywyd yn Haws - Carys Mai Hughes

Mae Carys Mai Hughes yn gweithio o'i champerfan yn hytrach nag o adre er mwyn teithio Ewrop a gwneud y gorau o bob eiliad o'i hamser hamdden. Dyma hi ar Gwneud Bywyd yn Haws yn sgwrsio o lan Llyn Léman...

Darlledu - To broadcast

Ar bwys - Wrth ymyl

Rhyngwladol - International

Diflasu - To become weary of

Gwenu - Smiling

Sa i'n mynd - Dw i ddim yn mynd

Dyna'r bywyd ynde - mae gweithio o'r camperfan yn gwneud bywyd yn dipyn haws i Carys Mai Hughes dw i'n siŵr o hynny.

Papur Ddoe

Mae Elin Tomos yn dilyn hanesion o hen bapurau newydd yn y gyfres Papur Ddoe. Mae hi'n dod ar draws sawl stori ddifyr fel hanes llofruddiaeth Dafydd Lewis cafodd ei saethu yn ei ben gyda phistol llaw yn 1844. Dyma'r hanesydd Erin White i roi ychydig o'r hanes.

Llofruddiaeth - Murder

Yn dwyn yr enw - Named

Tyddyn - Smallholding

Cynnyrch - Produce

Y Chwyldro Diwydiannol - The Industrial Revolution

Swm sylweddol - A considerable amount

Tollborth - Toll gate

Ymosodiad gan ladron - An attack by thieves

Tystion - Witnesses

Daethpwyd o hyd - Was found

Cwato - Cuddio

Hanes llofruddiaeth Dafydd Lewis yn fan'na ar Papur Ddoe.

Ifan Evans a Nigel Owens

Un o'r pethau unigryw ym myd rygbi Cymru ydy timau cymunedol o bob oedran yn cael chwarae rowndiau terfynol eu cystadlaethau yn y stadiwm cenedlaethol yng Nghaerdydd. Er bod Nigel Owens wedi ymddeol fel dyfarnwr rygbi, buodd o yn y Stadiwm yn helpu efo'r gemau. Cafodd Ifan Evans sgwrs efo fo am y digwyddiad...

Dyfarnwr - Referee

Rowndiau terfynol - Finals

Gêm y gymuned - The community game

Rowndiau terfynol - Finals

Cyfleoedd - Opportunities

Yr Undeb - The Union (WRU)

Unigryw - Unique

Profiad - Experience

Wastad - Always

Braf gweld Nigel yn helpu'r gêm gymunedol yn tydy?

Stiwdio Cefyn Burgess

Mae'r artist Cefyn Burgess yn cofio arian yn cael ei gasglu yn yr ysgol Sul ers talwm ar gyfer cenhadaeth yr Eglwys Bresbyteraidd yn Casia India. Cyn y cyfnod clo aeth o draw i Casia er mwyn cael dysgu mwy am bobl y rhan yna o'r byd, ac mae o wedi creu arddangosfa artistig o'i brofiadau yno. Aeth Elinor Gwynn draw i Storiel, Bangor i weld yr arddangosfa a chael gair efo Cefyn am y gwaith. Os dach chi yn yr ardal o gwbl mae'r arddangosfa ymlaen tan yr 2il o Orffennaf 2022.

Arddangosfa - Exhibition

Casgliad - Collection

Bylchau cenhadol - Missionary collection boxes

Yn gyfarwydd - Familiar

Dychymyg - Imagination

Yn fy oed ac amser - At this stage in my life

Ehangach - Wider

Talaith - State