30 August 2022

Available for over a year

Dros Ginio

Mae Jeremy Paxman wedi dweud ei fod am roi’r gorau i University Challenge wedi 28 mlynedd o gyflwyno’r cwis. Dr Alun Owens fuodd yn sôn wrth Dewi Llwyd am ei amser ar y rhaglen yn 2015 pan oedd o’n fyfyriwr yn Mhrifysgol Abertawe. Dyna oedd y tro cynta i Brifysgol Abertawe fod ar y rhaglen ers tua 20 mlynedd.

Rhoi’r gorau i To give up

Haerllug Cheeky

Camddeall To misunderstand

Ymdrech An attempt

Dychrynllyd Frightening

Yr ystafell werdd The green room

Lled awgrym A hint of a suggestion

Delwedd darlledu Broadcasting image

Croesholwr Cross examiner

Dirmygus Scornful

Bore Cothi

Dr Alun Owens oedd hwnna’n sôn am ei brofiad ar University Challenge.

Mi fuodd Heledd Cynwal yn cadw sedd Shan Cothi yn gynnes wythnos diwetha ac mi gafodd hi sgwrs efo’r arbenigwraig ffasiwn, Sina Haf Hudson am y cynllunydd ffasiwn o Siapan , Issey Myake fuodd farw ar Awst 5 eleni...

Persawr Perfume

Oglau Fragrance

Hawlio To claim

Fyw i rywun arall No-one else would dare

Blaenllaw Prominent

Dylanwadu To influence

Plentyndod Childhood

Arddull Style

Efrog Newydd New York

Ymysg Amongst

Dysgwr y Flwyddyn Joe Healy

Ychydig o hanes y cynllunydd ffasiwn o Siapan , Issey Myake yn fan ’na ar Bore Cothi.

Ar raglen Aled Hughes cafodd Bryn Tomos sgwrs efo enillydd cystadleuaeth Dysgwr y flwyddyn yn Eisteddfod Ceredigion eleni sef Joe Healy o Wimbledon ond sydd erbyn hyn wedi setlo yng Nghaerdydd. Gofynnodd Bryn iddo fo oedd o wedi clywed am y Gymraeg pan oedd o’n blentyn ysgol yn Llundain.

Tyfu lan Growing up

Ymwybodol Aware

Ysgogi To motivate

Ysbrydoli To inspire

Mo’yn Eisiau

Shelley & Rhydian a Sarra Elgan

...a llongyfarchiadau mawr i Joe ar ennill Dysgwr y Flwyddyn ynde?.

Y gyflwynwraig Sarra Elgan oedd gwestai Shelley Rees Owen a Rhydian Bowen Phillips fore Gwener – a buodd hi’n sôn am roi gwersi Cymraeg i chwaraewr rygbi enwog iawn o Dde Affrica, Bryan Habana.

O ddifri Seriously

Stwr A row

Hala Anfon

Dishgwl Edrych

Awyddus Eager

Brwdfrydedd Enthusiasm

Ymateb Response

Profiad anhygoel An incredible experience

Ni y Nawdegau

Sarra Elgan oedd honna fuodd yn diwtor Cymraeg ar Bryan Habana!

Buodd Esyllt Sears y ddigrifwraig yn edrych yn ôl ar oes aur y nawdegau yng Nghymru. Dyma hi’n trafod “brand” Cymru, neu ella diffyg brand Cymru.

Digrifwraig Comedienne

Oes aur Golden Age

Diffyg Lack of

Byth yn buddsoddi ceiniog Never investing a penny

Arbenigwyr Experts

Cael gwared o nadroedd Getting rid of snakes

Gwelededd Visibility

Anwastad Rugged

Mabwysiadu arloesedd Adopting innovation

Beti a’i Phobol

‘Brand Cymru’ yn cael amser caled gan Esyllt Sears yn fanna.

Yr artist Seren Morgan Jones o Aberystwyth oedd gwestai Beti George wythnos diwetha. Pan oedd hi’n 15 oed symudodd y teulu i Kuwait, ond nid dyna ddiwedd ei theithio, fel cawn ni glywed...

Mas Allan

Awyddus Eager

Twymo lan Warming up

Tamaid bach Tipyn bach

Porfa las Green grass

Anialwch Desert