24 May 2022

Available for over a year

Dei Tomos a Gwyn Elfyn

Yr actor Gwyn Elfyn oedd gwestai Dei Tomos wythnos diwetha. Fo oedd Densil yn Pobol y Cwm am flynyddoedd ac yn siarad efo acen de Cymru ar y rhaglen. Ond yn y clip nesa dan ni'n clywed Gwyn yn sgwrsio efo Dei Tomos efo acen ogleddol Blaenau Ffestiniog. Pa acen ydy yr un naturiol iddo fo felly?

Tafodiaith - Dialect

Cyfeillion - Ffrindiau

Honni - To claim

Lwcus ydy Gwyn Elfyn ynde, yn medru siarad yn naturiol yn nhafodiaith y de a'r gogledd.

Gwenno Williams Tafarn yr Heliwr

Dydd Llun cafodd Aled Hughes sgwrs efo Gwenno Williams o dafarn gymunedol Yr Heliwr yn Nefyn. Roedd pobl Nefyn wedi codi arian i brynu'r adeilad ac i ail-wneud rhannau o'r dafarn er mwyn ei chael yn barod ar gyfer y cyhoedd. Awgrymodd Aled wrth Gwenno bod stori yr Heliwr yn stori o gymuned yn uno ac yn llwyddo a dyma oedd ymateb Gwenno...

Cymuned - Community

Hwb - A boost

Gwireddu - To make it happen

Ail-wneud - To redo

Gwirfoddoli - To volunteer

Budd mawr - A great benefit

Gwobr - Prize

Ysbrydoliaeth - Inspiration

Mentrau cymunedol - Community enterprises

Cyd-weithio - To co-operate

Aballu - And so on

Mae hi'n braf iawn gweld yr holl fentrau cymunedol yma'n llwyddo yn tydy?

Aled Hughes Dr Who

Daeth newyddion cyffrous am y gyfres Doctor Who wrth i'r doctor nesa gael ei enwi, sef yr actor Ncuti Gatwa. Cafodd Ncuti ei eni yn Rwanda a'i fagu yn yr Alban. Mae'n enwog am ei ran yn y gyfres boblogaidd Sex Education, a fo fydd yn chwarae rhan Doctor rhif un deg pedwar yn y gyfres eiconig. Mae Alun Parrington yn "Whovian" sef un o ffans enfawr y gyfres, a dyma fo'n sôn wrth Aled Hughes am Ddoctoriaid y gorffennol...

Cyfres - Series

Cyfnod - Period (of time)

Dal fy nychymyg - To catch the imagination

Goro - Gorfod

Pennod - Episode

Gadael argraff - To leave an impression

Gwatsiad - Edrych ar

Cenhedlaeth - Generation

Alun Parrington oedd hwnna'n amlwg yn edrych mlaen at gyfres newydd Dr Who.

Bore Cothi maeth bwyd

Mae Angharad Griffiths wedi cymhwyso fel therapydd maeth ar ôl tair blynedd o astudio ac mae hi wedi agor clinig maeth i ddysgu pobl am fwyd, ac yn arbennig felly pwysigrwydd bwyta bwyd maethlon. Dyma glip o Angharad yn esbonio wrth Shan Cothi pa fath o fwydydd sy'n rhai maethlon...

Cymhwyso - To qualify

Maeth - Nutrition

Maethlon - Nutritious

Yn dueddol o - Tend to

Ymddangos - To appear

Cynhwysion - Ingredients

Lleihau - To reduce

Mo 'yn - Eisiau

Bore Cothi Ffrwythau Tun

Tybed fasai Angharad yn ystyried bod tun o peaches, neu eirin gwlanog, yn fwyd maethlon? Wel mae'n bosib cawn ni'r ateb yn y clip nesa ma o raglen Bore Cothi, lle mae'r cogydd Nerys Howell yn cymharu ffrwythau tun efo ffrwythau ffres...

Hylif - Liquid

Twymo i dymheredd - Warm to tempretature

Triniaeth gwres - Heat treatment

Toddi - To melt

Braster - Fat

Mwynau - Minerals

Amrywio - To vary

Diddorol ynde, manteision ar y ddwy ochr yn fan'na wrth gymharu ffrwythau ffres efo ffrwythau tun.

Beti a'i Phobol Russell Isaac

Roedd Russell Isaac yn arfer gweithio fel newyddiadurwr ond erbyn hyn mae o'n gweithio efo'r Cenhedloedd Unedig. 40 mlynedd yn ôl aeth Russel draw i ochr arall y byd ar ran rhaglen newyddion Cymraeg ITV - Y Dydd- ac ar ran y rhaglen Saesneg Report Wales, i adrodd am ryfel Ynysoedd y Malfinas. Dyma fo'n sôn wrth Beti George sut gaeth o wybod ei fod yn gorfod mynd draw yno...

Y Cenhedloedd Unedig - United Nations

Llynges - Navy

Ar fin - About to

Cysylltiadau - Connections

Ymchwilydd - Researcher

Mynnu - To insist

Archentwyr - Argentinians

Gorchymyn - A command

Cyfarwyddyd - Instruction