12 April 2022

Available for over a year

Troi'r Tir Lamb Cam

Mae'n dymor wyna a llawer o ffermydd erbyn hyn efo camerâu yn y siediau i gadw llygad ar y defaid a'r ŵyn. Mae Fferm Llwyn yr Eos yn Amgueddfa Werin Cymru, St Ffagan, wedi bod yn ffrydio ffilmiau o'r ŵyn bach yn cael eu geni ers blynyddoedd. Dyma Bernice Parker, sy'n gweithio i'r amgueddfa efo'r hanes...

Tymor wyna - Lambing season

Amgueddfa Werin Cymru - National Museum of History

Ffrydio - To stream

Yn gyfrifol am - Responsible for

Cadw mewn cysylltiad - Keeping in contact

Ymatebion - Responses

Ar wahân - Apart

Yn llythrennol - Literally

Darlledu - To broadcast

Gwatsio - Gwylio

Byd-eang - Worldwide

Felly os dach chi eisiau gweld ŵyn bach yn cael eu geni, dach chi gwybod lle i fynd!

Beti a Carren Lewis

Mae Carren Lewis yn dod o Benrhyndeudraeth ger Porthmadog yn wreiddiol, ond dreuliodd cyfnod yn byw yn Marmaris yn Nhwrci. Buodd Carren yn sôn wrth Beti George am yr adeg aeth hi i gartref plant yn Ne Ddwyrain Twrci gan feddwl bod dau blentyn yna iddi hi eu mabwysiadu . Ond siom cafodd hi fel cawn ni glywed yn y clip nesa ma...

Cartref plant - Orphanage

Mabwysiadu - To adopt

Hogan - Merch

Dall - Blind

Ddaru ni - Wnaethon ni

Genod - Merched

Cefndir - Background

Amgylchiadau - Circumstances

A nes ymlaen yn y sgwrs clywon ni bod Bedri wedi setlo'n iawn efo'i deulu newydd ac newydd gwneud ei arholiadau TGAU.

Newsround 50

Mae'r rhaglen newyddion Newsround yn dathlu ei phenblwydd yn hanner cant eleni a bore Mawrth mi roedd Alex Humphreys, cyflwynydd tywydd S4C sydd hefyd wedi cyflwyno Newsround, yn trafod y rhaglen ac yn esbonio pam mae cyflwyno newyddion i blant yn wahanol i'w gyflwyno i oedolion.

TGAU - GCSE

Cyflwynydd - Presenter

Trwy gydol eu hoes - Throughout their lives

Newyddiaduriaeth - Journalism

Dyfalu - To guess

Yn gyhoeddus - Publicly

Trafod - To discuss

Cyd-bwysedd - Balance

Y buarth - The (school) yard

Cyflawn - Complete

Gwasanaethau brys - Emergency services

Alex Humphreys oedd honna'n sôn am Newsround, y rhaglen newyddion i blant.

Cloddio Aur

Mae Aur Clogau'n enwog ac yn ffasiynol iawn y dyddiau hyn. O ardal Dolgellau daw'r aur ac mae'r daearegwr Elin Mars Jones yn cloddio am yr aur ar hyn o bryd. Dyma hi'n sgwrsio efo Aled Hughes am ei gwaith ...

Daearegwr - Geologist

Cloddio - To mine

Aur - Gold

Cynhyrchu - To produce

Graddio - To graduate

Canfod strwythurau - Finding structures

Hanes cloddio aur Clogau yn fan'na gan Elin Mars Jones.

Huw Foulkes a Côrdydd

Weloch chi ffeinal Côr Cymru ar S4C? Wel am gystadleuaeth dda ynde? Côrdydd enillodd a dyma arweinydd y côr Huw Foulkes yn siarad efo Shan Cothi am y noson fawr...

Chwys domen - Sweating buckets

Wedi gwirioni'n lân - Were over the moon

Beirniaid - Adjudicators

Hollol gytûn - Unanimous

Disgyblaeth - Discipline

Cegrwth - Open mouthed

Anghrediniaeth lwyr - Total disbelief

Wedi dod i'r brig - Had won

Byd o les - A world of good

Beiddgar - Bold

Wedi elwa - Had profited

Huw Foulkes yn amlwg wedi gwirioni efo perfformiad Côrdydd yng nghystadleuaeth Côr Cymru.

Dros Ginio

Mam a merch oedd gwestai Dewi Llwyd pnawn Llun yn y slot dau cyn dau. Roedd Eirwen Thomas yn arfer gweithio fel athrawes ac mae ei merch, Elinor Williams, yn un o benaethiaid Ofcom yng Nghymru. Mae'r ddwy'n byw yn agos iawn i'w gilydd ym mhentre bach Llanedi, yn Sir Gaerfyrddin. Yn y clip nesa 'ma mae Elinor yn sôn am ei Alopecia

Penaethiaid - Chjef officers

I ddygymod ag o - To cope with it

Cyflwr - Condition

Moel - Bald

Cymhleth - Complicated

Pendantrwydd - Determination

Tebygolrwydd - Likelyhood