17 May 2022

Available for over a year

Beti a Dr Sara Louise Wheeler

Mae'r Dr Sara Louise Wheeler yn dod o ardal Wrecsam yn wreiddiol, ac mae hi'n falch iawn ei bod hi'n siarad efo acen arbennig pentref Rhosllannerchrugog. Ond fel cawn ni glywed yn y clip nesa doedd pawb ddim yn hoff o'r acen honno...

Magwraeth - Upbringing

Tafodiaith - Dialect

Herio - To challenge

Os dach chi isio gwybod rhagor am hanes diddorol Sara mi fedrwch chi wrando ar y sgwrs yn llawn ar bodlediad Beti a'i Phobol.

Aled Hughes a Grant Peisley

Mae Grant Peisley yn chwarae criced i dîm dros 50 oed Cymru er ei fod yn dod o Awstralia'n wreiddiol. Mae o'n byw yng Nghymru ers dros ugain mlynedd erbyn hyn, ac wedi dysgu Cymraeg. Mae criced yn ofnadwy o bwysig i bobl Awstralia - felly sut deimlad ydy chwarae dros Gymru i Grant tybed? Dyma fo'n sgwrsio efo Aled Hughes...

Rhyngwladol - International

Cwpan y Byd - World Cup

Ers yn ddim o beth - Since being a small child

Braf clywed Grant yn disgrifio ei hun fel Cymro Newydd yn tydy, a dwi'n siwr bydd o'n falch iawn o fod yn rhan o dîm Cymru yn erbyn Awstralia.

Erin Bryfdir

Mae'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn 10 oed eleni ac mae'r coleg wedi medru helpu llawer o bobl i ddilyn cyrsiau yn y prifysgolion ac mewn addysg bellach drwy gyfrwng y Gymraeg. Un o'r rheini ydy Erin Bryfdir sydd yn Sister yn Ysbyty Gwynedd ym Mangor, a dyma hi'n sôn am sut wnaeth cyflwyniad gan y coleg, pan oedd hi yn yr ysgol uwchradd, newid ei bywyd.

Drwy gyfrwng - Through the medium of

Cyflwyniad - Presentation

Disgybl - Pupil

Megis dechrau - Just starting

Ysbrydoli - To inspire

Gradd - Degree

Ysgoloriaeth Cymhelliant - Incentive scholarships

Llysgennad - Ambassador

Mantais - Advantage

Darlithoedd - Lectures

Erin Bryfdir oedd honna , un o'r miloedd sydd wedi manteisio ar y cyfle i astudio drwy gyfrwng y Gymraeg diolch i'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Rob Malcolm Jones cocktails.

Faint ohonoch chi sy'n mwynhau coctêls? Mae na gymaint o wahanol rai yn does? Mae Rob Malcolm Jones yn byw yn Efrog Newydd ac yn nabod ei goctêls yn dda. Shan Cothi gaeth sgwrs efo fo fore Mawrth

Efrog Newydd - New York

Ffurfiol - Formal

O ddifri - Seriously

Bodoli - To exist

Poblogaidd - Popular

Cynrychioli - To represent

Egniol - Energetic

Wel dyna ni - y Dirty Martini amdani!

GBYH - Eilir Owen Griffiths

Mae iechyd meddwl wedi dod mwy i'r amlwg ers y cyfnod clo, ac roedd hi'n wythnos iechyd meddwl wythnos diwetha. Cafodd Hanna Hopwood gwmni yr arweinydd côr a'r cerddor Eilir Owen Griffiths fuodd yn siarad am y tro cyntaf yn gyhoeddus am ei siwrne iechyd meddwl bersonol.

Arweinydd côr - Choir conductor

Cerddor - Musician

Yn gyhoeddus - Publicly

Y lle tywylla(f) - The darkest place

Eithafoedd - Extremes

Creadigol - Creative

Yr wythnos ganlynol - The following week

Cyfansoddi - Composing

Yr arweinydd côr a'r cerddor Eilir Owen Griffiths yn siarad yn bersonol iawn am ei sefyllfa yn ystod y cyfnod clo.

Bore Cothi - Hot Cakes

Mae na gyfres newydd ar BBC3 - Hot Cakes- ac mae dau o Gaerdydd, Gareth a'i bartner Ryan o gwmni Let them See Cake yn serennu yn y gyfres. Cafodd Shan Cothi sgwrs efo'r ddau a chanfod bod Ryan wedi dysgu Cymraeg dros y cyfnod clo ac mai dyma oedd ei gyfweliad cynta yn Gymraeg..

Cyfres - Series

Canfod - To discover

Cyfweliad - Interview

Joio mas draw - Really enjoing