8 November 2022

Available for over a year

BETI A’I PHOBOL - MIRAIN IWERYDD

Y cyflwynydd Mirain Iwerydd oedd gwestai Beti George wythnos diwetha. Myfyriwr ym Mhrifysgol Aberystwyth ydy Mirain ac mae hi’n cyflwyno Hansh a Stwnsh Sadwrn ar S4C, a’r Sioe Frecwast Radio Cymru 2 fore Sul. Mae hi hefyd yn cyflwyno rhaglen gerddoriaeth newydd bob nos Fercher ar Radio Cymru. Cefndir Jamaicaidd ac Indiaidd sydd gan fam Mirain a gofynnodd Beti iddi oedd hi wedi profi hiliaeth o gwbl o’r herwydd…

Hiliaeth Racism

O’r herwydd As a consequence

Dathlu diwylliant Celebrating the culture

Synnu To be surprised

Ffodus Lwcus

(G)wynebu To face

Cymharol Relatively

Cyfryngau cymdeithasol Social media

Becso Poeni

Bodoli To exist

SHELLEY A RHYDIAN

Mirain Iwerydd oedd honna’n sgwrsio gyda Beti George.

Yr actor, canwr a sylwebydd Rhys ap William oedd gwestai Shelley a Rhydian brynhawn Sadwrn. Rhys oedd yn sylwebu yn Stadiwm y Principality yn ystod y gêm rygbi rhwng Cymru a’r Crysau Duon ddydd Sadwrn diwetha ond beth tybed yw hanes y sgidiau arbennig iawn mae e’n eu gwisgo yn ystod y gêm?

Sylwebydd Commentator

Y Crysau Duon The All Blacks

Cefnogaeth Support

Rhyngwladol International

Gan amlaf Usually

Dylanwadu To influence

NIA PARRY - GOGGLEBOX

Yn anffodus doedd Rhys ddim yn gallu dylanwadu ar y sgôr ddydd Sadwrn wrth i Gymru golli’n drwm yn erbyn y Crysau Duon.

Mae Huw Williams o Frynaman yn un o dri brawd (Mike a Stephen yw’r ddau arall) fydd yn ymddangos ar y gyfres newydd Gogglebocs Cymru cafodd ei weld am y tro cynta nos Fercher diwetha. Nia Parry fuodd yn cadw sedd Aled Hughes yn gynnes wythnos diwetha, a chafodd hi sgwrs gyda Huw am y gyfres...

Ymddangos To appear

Cyfres Series

Yr Wyddgrug Mold

Swyddogol Official

Anghytuno To disagree

Hogyn Bachgen

Licsen Baswn i’n hoffi

Dodi pethau lan Rhoi pethau i fyny

Sbort Hwyl

BORE COTHI - ALED HALL

Hanes y brodyr o Frynaman ar Gogglebox Cymru yn fanna ar raglen Aled Hughes.

Mae’r tenor o Bencader, Aled Hall, newydd gyhoeddi ei hunangofiant “O’r Da I’r Direidus”.

Gofynnodd Shan iddo a oedd cyfnod wedi bod ble roedd e‘n meddwl bod pethau‘n galed, ac ei fod wedi gwneud y peth iawn yn dilyn y llwybr cerddorol.

Hunangofiant Autobiography

Direidus Mischievous

Y llwybr cerddorol The musical path

Llwyfan Stage

Cyfarwydd â Familiar with

Sa i’n credu Dw i ddim yn credu

Ystyried To consider

Cynulleidfa fyw A live audience

Braidd dim Hardly any

Annog To encourage

DROS GINIO - DAU CYN DAU

…a dw i’n siŵr bydd hanesion diddorol iawn yn hunangofiant Aled Hall.

Brawd a chwaer o Aberystwyth oedd ar Dau Cyn Dau yn y rhaglen Dros Ginio. Mae Gwenan Creunant yn gweithio i Ymddiriedolaeth James Pantyfedwen ac mae Deian yn gweithio i Gomisiynydd y Gymraeg. Dyma i chi flas ar y sgwrs…

Ymddiriedolaeth Trust

Rhan fwyaf eich oes Most of your life

Bwrlwm Buzz

Amrywiaeth variety

Cymuned glos A close community

Atgofion a magwraeth Memories and upbringing

Tafod ym moch Tongue in cheek

Gwirionedd Truth

BORE COTHI - MARK ADEY

Gwenan a Deian yn fanna yn amlwg wrth eu boddau gydag Aberystwyth.

Mae Mark Adey yn athro Gwyddoniaeth yn ysgol Uwchradd Llanisien, Caerdydd ac mae e hefyd yn ffan mawr o Elvis ac yn perfformio tipyn fel Elvis. Mae e’n dod o Bontlliw ger Abertawe yn wreiddiol a gofynnodd Shan Cothi iddo a oedd e’n clywed Cymraeg ar yr aelwyd pan oedd e’n blentyn.

Gwyddoniaeth Science

Ar yr aelwyd At home

Trwy gyfrwng Through the medium of

Rhyfedd Strange

Cyfarwyddo To become familiar with

Sail Foundation

Dynwared To imitate

Enfawr Huge

Llwyth o Loads of

Addas Appropriate