7 June 2022

Available for over a year

Beti a Ceri Isfryn

Mae Ceri Isfryn wedi gweithio ar sawl gyfres deledu fel The One Show, Watchdog Rogue Traders, a Panorama a hi ydy cynhyrchydd y gyfres House of Maxwell sy'n dilyn hanes Robert Maxwell a'i deulu. Dim ond dwy oed oedd Ceri pan fuodd Robert Maxwell farw yn 1991. Faint felly oedd hi'n gwybod am hanes teulu Maxwell cyn dechrau gweithio ar y gyfres? Dyma hi'n sgwrsio efo Beti George...

Cynhyrchydd - Producer

Cenhedlaeth - Generation

Dylanwad - Influence

Ymchwilio - To research

Diflasu - To become bored of

Iddew - Jew

Datblygu - To develop

Moesau - Morals

Cofeb - Memorial

Delwedd - Image

Ceri Isfryn yn sôn wrth Beti George am ei gwaith ymchwil i deulu Robert Maxwell.

Dros Ginio Ieuan a Rhisiart

Y ddau frawd Ieuan Wyn Jones a Rhisiart Arwel oedd y ddau cyn dau efo Dewi Llwyd . Roedd Ieuan yn arfer bod yn Ddirprwy Brif Weinidog Cymru ac mae Rhisiart yn gerddor. Faint o ffrindiau oedden nhw pan oedden nhw'n ifanc tybed?

Dirprwy Brif Weinidog Cymru - Deputy First Minister of Wales

Cerddor - Musician

Traddodiad - Tradition

Ddaru - Gwnaeth

Difyr - Diddorol

Ffraeo - To row

Prin dw i'n cofio - I hardly remember

Tueddiad - A tendency

Ar wahân - Separately

Cecru - Bickering

Y ddau frawd Ieuan Wyn Jones a Rhisiart Arwel yn fan'na'n sgwrsio gyda Dewi Llwyd.

GBYH Eleri Evans

Ar Gwneud Bywyd yn Haws nos Fawrth cafodd Hanna Hopwood gwmni Eleri Evans sy'n byw yng Ngorllewin Cymru gyda'i gŵr Ian, a'u plant Alys sy'n 7, Aaron sy'n 9 a Liam sy'n 17. Oherwydd gwahaniaeth oedran y plant roedd hi'n anodd weithiau cadw pawb yn hapus. Dyma Eleri'n sôn am sut aeth y teulu ati i geisio gwella'r sefyllfa...

Mo'yn - Eisiau

Llwyth - Loads

Sylweddoli - To realise

Mynd am wâc - Mynd am dro

Mae e'n dwlu ar - Mae o wrth ei fodd efo

Wel dyna syniad da ynde - gwrando ar leisiau'r plant a chadw pawb yn hapus!

Rhydian a Shelley ac Esther

Rhydian a Shelley fuodd yn cadw sedd Aled Hughes yn gynnes ac mi gaethon nhw sgwrs efo Esther, sy'n 13 oed ac yn mynd i Ysgol David Hughes, Porthaethwy ar Ynys Môn. Ar ei ffordd i Eisteddfod yr Urdd oedd Esther, a dyma hi'n sôn am yr holl gystadlu oedd o'i blaen...

Parti Deulais - Two voice party

Llefaru Unigol - Solo recitation

Côr Gwerin - Folk Choir

Detholiad - A selection

Tawelu - To quieten

Cyngor - Advice

Cefnogi - To support

Enfawr - Huge

Wel mi roedd Esther wedi cael eisteddfod brysur yn doedd?

Bore Cothi Sioned Mair a Caryl Parry Jones

Buodd Caryl Parry Jones a'i ffrind Sioned Mair yn cystadlu yn Eisteddfodau'r Urdd pan oedden nhw yn Ysgol Glan Clwyd, Llanelwy Sir Ddinbych, a dyma glip bach ohonyn nhw'n hel atgofion am y cyfnod yna..

Hel atgofion - Reminiscing

Arweiniad - Leadership

Ysbrydoli - To inspire

Roedd y brwdfrydedd yn heintus - The enthusiasm was infectious

Creu ymdeimlad o berthyn - Create a feeling of belonging

Bodoli - To exist

Hyfforddi - Coaching

Y diweddar - The late

Caryl ac Sioned yn amlwg wedi mwynhau cystadlu yn Eisteddfodau'r Urdd.

Stiwdio

Os wnaethoch chi wrando ar yr Eisteddfod wythnos diwetha dw i'n siŵr eich bod wedi clywed sawl côr ac unigolion yn canu caneuon oedd wedi cael eu cyfansoddi gan Robat Arwyn. Mae Robat yn dod o Ddyffryn Nantlle yn wreiddiol ond erbyn hyn mae'n byw yn Nyffryn Clwyd yn agos at le cafodd Eisteddfod eleni ei chynnal. Gofynnodd Nia Roberts iddo fo pryd ddechreuodd ei ddiddordeb mewn cyfansoddi...

Cyfansoddi - To compose

Dylanwadau cynnar - Early influences

Alawon - Tunes

Arbenigo - To specialise

Unawdydd - Soloist