19 April 2022

Available for over a year

Stiwdio Sharon a Saran

Ar Stiwdio nos Lun mi gafodd Nia Roberts gwmni'r fam a'r ferch, yr actorion, Sharon a Saran Morgan. Mae Saran newydd ennill gwobr Marc Beeby y 'Best Debut Performance' am ei pherfformiad yn y ddrama radio 'Release' ar Radio 4 yn Ionawr 2021. Gyda'i mam yn y proffesiwn, oedd hi'n syndod bod Saran hefyd wedi dilyn yr un llwybr gyrfa?

Gwobr - Award

Mewn gwirionedd - In reality

Sa i'n credu - Dw i ddim yn meddwl

Disgyblaethau - Disciplines

Llefain - Crïo

Rhwystro - To obstruct

Ei hargymell hi - To recommend her

Llawfeddyg - Surgeon

Bregus - Vunerable

O fy herwydd hi - Because of me

Cynyrchiadau - Productions

Saran Morgan yn falch iawn o ddilyn ôl-traed ei mam yn tydy?

Aled Hughes a Toda

Sgwrs o'r archif sy nesa, o 2020, pan brofodd Toda Ogunbanwo a'i deulu hiliaeth ym mhentre Penygroes, Gwynedd, pan gafodd swastika ei beintio ar ddrws garej eu cartre. Aled Hughes fuodd yn sgwrsio efo Toda.

Profi - To experience

Hiliaeth - Racism

Blin - Angry

Derbyniol - Acceptable

Ymddiheuro - To apologise

Galwad - A calling

Gweinidog - Minister

Dallt - Deall

Plentyndod - Childhood

Profiad ofnadwy o hiliaeth yn fan'na i deulu Toda ym Mhenygroes Gwynedd.

Nant Gwrtheyrn

Pedwardeg mlynedd yn ôl mi gyrhaeddodd y criw cynta o ddysgwyr Cymraeg Nant Gwrtheyrn. Ond lle mae'r dysgwyr rheini rŵan? Mae Wyn Roberts, rheolwr cyfathrebu a marchnata'r Nant, wedi dod o hyd i un o'r tiwtoriaid cynta, ond rŵan mae o eisiau cysylltu efo'r dysgwyr gwreiddiol......

Cyfathrebu a marchnata - Communications and marketing

Hogyn - Bachgen

Pentref chwarelyddol - A quarrying village

Atgyfodi - Resurrect

Y diweddar - The late

Yn uniongyrchol - Directly

Hel atgofion - To reminisce

Felly os dach chi'n nabod rhywun oedd yn un o'r dysgwyr gwreiddiol cysylltwch â Wyn yn y Nant.

Beti a Dai Jones

Buodd Dai Jones, Llanilar farw fis Mawrth eleni a chollodd Cymru un o'i chymeriadau mwya lliwgar. Buodd Dai ar nifer o raglenni Cymraeg ar S4C ac ar Radio Cymru gan gynnwys Sion a Sian, Cefn Gwlad ac Ar Eich Cais. Mi gaethon ni gyfle'r wythnos diwetha i glywed rhaglen arbennig, efo Beti George yn sgwrsio efo Dai yn 2002, a dyma i chi flas ar y sgwrs...

Tafodiaith - Dialect

Gwybyddus - Familiar

Rhaff - Rope

Llacio - To loosen

Llenwi - To fill

Mor dynn - So tight

Ar ei liniau - On his knees

Lan - i fyny

Cynhyrfu - To agitate

Y diweddar Dai Jones oedd hwnna'n sôn wrth Beti George am rai o'i anturiaethau.

Dros Ginio Dyfan ac Arfon Gwilym

Dau frawd oedd y Ddau Cyn Dau fuodd yn siarad efo Alun Thomas ar Dros Ginio pnawn Llun sef yr actor Dyfan Roberts a'r canwr gwerin, Arfon Gwilym. Dyma nhw'n sôn am eu magwraeth...

Anturiaethau - Adventures

Awgrymu - To suggest

Telynores - Harpist (female)

Celfyddydau - Arts

Anochel - Inevitable

Dylanwadau - Influences

Diwylliant - Culture

Roedd bri ar y canu - Singing was popular

Anogaeth - Encouragement

Adrodd - Recitation

Bach o hanes y ddau frawd Dyfan Roberts a Arfon Gwilym ar Dros Ginio.

Gwlad yr Ia

Cafodd Geraint Lloyd sgwrs efo Alaw Edwards o Drefriw, Llanrwst sy'n byw ar hyn o bryd yng Ngwlad yr Iâ. Mae Alaw newydd ddechrau gweithio yno fel au pair ac mae hi'n byw mewn pentre o'r enw Suðureyri, pentre pysgota bach yng ngogledd gorllewin yr ynys. Pam dewisodd fynd yno i weithio tybed?

Gwlad yr Iâ - Iceland

Argraff - Impression

Agwedd - Attitude

Penodol - Definite