31 May 2022

Available for over a year

Beti a Sian Eirian

Mae Eisteddfod yr Urdd yn cael ei chynnal yn Nimbych yr wythnos hon ac mi gafodd Beti George gwmni Cyfarwyddwr Dros Dro yr Eisteddfod, Sian Eirian, ar Beti a'i Phobol fore Sul. Yn y gorffennol buodd Sian yn gweithio fel Pennaeth Rhaglenni Plant S4C a dyma hi'n sôn am yr adeg aeth hi â CYW (y cyw annwyl felly- eicon rhaglenni plant bach) i gyfarfod â Boris Johnson pan oedd o'n Faer Llundain...

Cyfarwyddwr Dros Dro - Temporary Director

Awyddus I ymestyn - Eager to extend

Adran Gyfathrebu - Communications Department

Sylweddoli - To realize

Tanddaearol - Underground

Heddlu cudd - Secret police

Terfysgwr - Terrorist

Gweithredu - To act (upon)

Degau ar ddegau - Many (lit: tens on tens)

Hanes 'Cywgate' yn fan'na gan Sian Eirian.

Butlins

Oeddech chi'n gwybod bod yna Eisteddfodau o fath yn Butlins Pwllheli ac yn Butlins y Barri ers talwm? Wel cystadleuaeth talent oedden nhw cael eu galw mewn gwirionedd!

Buodd Ffion Emyr yn cyflwyno rhaglen oedd yn edrych yn ôl ar 75 mlynedd ers agor Butlins Pwllheli. Dyma hi'n cael sgwrs efo Bob Morris fuodd yn gweithio yn Butlins, ac sy'n cofio gweld Billy Butlin ym Mhwllheli, ac yna hanes Mair Evans o Lanbedr Pont Steffan, neu Llambed, wnaeth yn dda iawn yn y cystadlaethau talent - ei mam Janet sy'n dweud yr hanes.

Datganiad - Statement

Gwersyllwyr - Campers

Beirniadaeth - Adjudication

Beirniaid - Judges

Wedi dotio ar - Wedi dwlu ar

Neb llai na - None other than

Gwlad yr Haf - Somerset

Meddyliwch ennill cystadleuaeth dalent a Catherine Zeta Jones yn dod yn ail i chi - gwych yn de?

Bore Cothi a Manuela

Manuela Niemetscheck, sy'n seicotherapydd celf, oedd dysgwr y flwyddyn Bwrdd Betsi Cadwaladr. Mae'r gystadleuaeth yn cael ei chynnal bob dwy flynedd ac roedd y tri beirniad yn cytuno mai Manuela oedd yn haeddu teitl Dysgwr y Flwyddyn. Dyma Manuela ar Bore Cothi yn rhoi ychydig o'i hanes hi ac yn sôn am ei swydd ddiddorol ...

Haeddu - To deserve

Llwyth - Loads

Dwyieithog - Bilingual

Bwrw ymlaen - To get on with it

Mae talent dysgu ieithoedd anhygoel gan Manuela yn does?

Dros Ginio Caryl a Miriam

Mam a merch, Caryl Parry Jones a Miriam Isaac, oedd gwesteion Dewi Llwyd bnawn Llun.

Caryl sy'n dechrau'r sgwrs, yn cofio am ei magwraeth yn Ffynnongroyw, Sir y Fflint.

Gwerthfawrogi magwraeth - Appreciating the upbringing

Pentref glofaol - A coal mining village

Pwll glo - Coal mine

Brawdgarwch - Brotherhood

Y Parlwr Du - Point of Ayr

Diwylliant - Culture

Nefolaidd - Heavenly

Arddull - Style

Mae'n amlwg bod Caryl a Miriam wedi cael magwraeth wrth eu boddau, ac atgofion melys iawn gan Miriam o Nain a Taid

I Mewn I'r Gol

Yn 2021, mi fuodd yna newid anferth i Glwb Pêl-droed Wrecsam wrth i ddau o sêr Hollywood, Ryan Reynolds a Rob McElhenney brynu'r clwb! Cyhoeddodd y ddau fideo aeth yn feiral - a chael Maxine Hughes , sy'n byw yn yr Unol Daleithiau i gyfieithu ar y pryd ar y fideo. Rŵan dan ni'n mynd i glywed lleisiau Maxine, Wayne Phillips, fuodd yn chwarae i Wrecsam, a hefyd Cledwyn Ashford sy'n sgowt I academi'r clwb yn sôn am y newid ddaeth i'r clwb ers i'r sêr ddod mewn. Dylan Griffiths, o Adran Chwaraeon Radio Cymru, fuodd yn dilyn y stori

Cyfieithu ar y pryd - Instantaneous translation

Perchnogion - Owners

Cadarnhad - Confirmation

Hyrwyddo - To promote

Sylw byd eang - Worldwide attention

Disgleirio - To shine

Llwyfan - A stage

Argraffiadau cynnar - Early impressions

Breuddwyd - A dream

Yn y cefndir - In the background

A dw i'n siŵr bod ffans Wrecsam i gyd yn drist ddydd Sul pan gollodd y clwb gêm fwya'r tymor o bum gôl i bedair.

Stiwdio Tlws y Dysgwr

Ac mi ddown ni'n ôl at Eisteddfod yr Urdd efo'r clip ola. Mae gan Francesca Sciarrillo atgofion melys iawn o'r Eisteddfod gan iddi hi ennill Medal y Dysgwyr pan oedd yr Eisteddfod yng Nghaerdydd yn 2019, ac erbyn hyn mae hi'n byw ei bywyd drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae ei rhieni'n dod o'r Eidal yn wreiddiol a dyma Francesca yn disgrifio sut gwnaeth ei thad ymateb i'w llwyddiant yn yr Eisteddfod

Atgofion - Memories

Trwy gyfrwng - Through the medium of

Yr Wyddgrug - Mold

Cyfarwydd - Familiar