27 September 2022

Available for over a year

Radio’r Cymry

Mae hi bron yn ganrif ers i'r geiriau Cymraeg cyntaf gael eu clywed ar y radio. Yn y gyfres newydd, Radio’r Cymry, mae Hywel Gwynfryn yn edrych ar raglenni, digwyddiadau â'r cymeriadau sydd wedi gwneud Radio Cymru yr hyn ydy o heddiw. Yn 1935 daeth Sam Jones yn Bennaeth y BBC ym Mangor ac roedd hi’n ddechrau ar gyfnod cyffrous iawn yn hanes Radio Cymraeg. Dyma ei ysgrifenyddes, Morfudd Mason Lewis, yn sôn am y dyddiau hynny.....

Canrif - Century

Cyfres - Series

Pennaeth - Head

Parchu - To respect

Peirianwyr - Engineers

Tyrfa - A crowd

Rhaglenni byw - Live programmes

Pennill - A verse

A ddeuai - Fasai’n dod

Aled Hughes

Aeth Aled Hughes draw i Forfa Nefyn ym Mhen Llŷn i gwrdd â Reuben Hughes, sy’n bencampwr reslo braich! Mae o’n aelod o glwb reslo braich Roar yn Llandybie, Sir Gaerfyrddin, ac mae o newydd ennill ei gystadleuaeth reslo braich gynta.

Pencampwr - Champion

Am sbort - For fun

Yr amser yn brin - Time was scarce

Penderfynol - Determined

Diogelwch - Safety

Poendod - A worry

Gwarchod - To protect

Rhoi'r fantais - To give an advantage

Cryfder - Strength

Gwneud Bywyd yn Haws

Ar Gwneud Bywyd yn Haws nos Fawrth, buodd Hanna Hopwood yn sgwrsio efo Dr Elinor Young. Mae gan Elinor gi therapi o’r enw Tana sydd yn rhan o gynllun Cŵn Cymorth Cariad a dyma hi’n sôn ychydig wrth Hanna am y cynllun…

Cafodd ei sefydlu- Was established

Hwlffordd - Haverfordwest

Disgwyliadau - Expectations

Hyfforddiant - Training

Cyfathrebu - To communicate

Perchennog - Owner

Lles - Welfare

Dychryn - To frighten

Llyfu - To lick

Bore Cothi

Therapi sy’n cael sylw yn y clip nesa ‘ma hefyd, sef Adweitheg, neu Reflexology. Mi roedd hi’n Wythnos Adweitheg y Byd wythnos diwetha, ac mi fuodd Sioned Jones yn sgwrsio efo Shân Cothi am y therapi. Mae Sioned yn dod o Waunfawr yng Ngwynedd yn wreiddiol, ond erbyn hyn mae hi’n byw yng Nghaerdydd ac yn berchen ar gwmni J Reflexology yn y ddinas.

Cysur - Comfort

Adweitheg - Reflexology

Heriau - Challenges

Gradd ychwanegol - An extra degree

Addas - Suitable

Dan bwysau - Under pressure

Egni - Energy

Treulio - To digest

Crediniol - Convinced

Beichiogi - To become pregnant

Bore Cothi

Sut mae gwybod y gwahaniaeth rhwng colomen a sguthan? Dyna oedd cwestiwn Shân Cothi i Daniel Jenkins Jones, a dyma fo’n ateb mewn ffordd ddiddorol iawn.

Colomen - Pigeon

(Y)sguthan - Wood Pigeon

Gwahaniaethu - To differenciate

Turtur Dorchog - Collared Dove

Tlws - Pretty

Coedwigoedd - Woodlands

Yn bla - A plague

Cerddorol - Musical

Atgoffa - To remind

Sill - Syllable

Aled Hughes

Tybed ydy amser yn ymddangos i fynd yn arafach i blant nag ydy o i oedolion? Mae Dr Rhys Morris yn gweithio yn adran astroffiseg, Prifysgol Bryste, ac mae’n grediniol bod hynny’n digwydd. Dyma fo’n esbonio pam mae o’n credu hynny wrth Aled Hughes...

Ymddangos - To appear

Hŷn - Henach

Atgofion - Memories

Canran - Percentage

Ymenydd - Brain

Golygfeydd - Scenes

Cyfnod llai - A shorter period

Manylyn - A detail

Gweledol - Visual