3 May 2022

Available for over a year

Aled Hughes a Vaughn Smith

Glanhau carpedi yn Washington, yn yr Unol Daleithiau, ydy gwaith Vaughn Smith. Mae'n gallu siarad 24 iaith yn rhugl, mae o'n hyperpolyglot. Mae'r Gymraeg yn un o'r ieithoedd hynny a dyma fo'n cael sgwrs yn Gymraeg efo Aled Hughes

Hyd y cofiaf - As far as I remember

Ces i fy swyno - I was enchanted

Yn ddiweddarach - Later

Brodorol - Native

Gwyddeleg - Irish language

Vaughn Smith ddysgodd un o ieithoedd brodorol Mecsico oherwydd ei fam, a'r Gymraeg oherwydd cefndir ei dad - ond beth am y 22 o ieithoedd eraill? Anhygoel ynde?

Aled Hughes ac Iwan Rheon

Bydd lawer ohonoch chi'n cofio'r actor Iwan Rheon am ei berfformiadau fel Ramsay Bolton yn Game of Thrones. Mae o wedi actio yn Gymraeg yn y gorffennol - fo oedd Macsen White yn Pobol y Cwm, ond heb actio yn Gymraeg ers rhai blynyddoedd erbyn hyn. Y newyddion da ydy ein bod ni'n mynd i weld Iwan cyn bo hir ar S4C mewn cyfres newydd sbon 'Y Golau'. Dyma glip ohono fo'n sgwrsio efo Aled Hughes

Cefndir - Background

Anhygoel - Incredible

Cyfres - Series

Llwyfan - Stage

Atgofion melys - Fond memories

Chwedl - Legend

Anferth - Huge

Amrywiaeth - Variety

Cymeriadau - Characters

Yn dueddol - To tend to

Iwan Rheon oedd hwnna'n sôn am ei yrfa ac am gyfres newydd ar S4C ' Y Golau'.

Bore Cothi ac Angharad Mair

Tasech chi'n cael mynd ar fordaith - ble basech chi'n mynd a phwy fasech chi'n mynd efo chi? Dyma oedd dewis y gyflwynwraig Angharad Mair ar Bore Cothi

Mordaith - Cruise

Cyflwynwraig - Female presenter

Aduniad - Reunion

Gwaith ymchwil - Research

Ffrindiau hoff gytûn - Best friends

Mordaith ddiddorol iawn i Angharad a'i ffrindiau, yn enwedig os bydd Elvis yno!

Pigion - Ni'n Dau Efeilliaid

Nic Parri fuodd yn cyflwyno rhaglen arbennig am efeilliad. Mae Nic ei hun yn un o efeilliaid ac yn y clip yma mi gawn ni ei glywed yn sgwrsio efo efeilliaid bach o Fethesda yng Ngwynedd, Anni Glyn a Kate Ogwen

Efeilliaid - Twins

Yr un fath - Identical

Ffraeo - To row

O, annwyl de? Yr efeilliaid Anni a Kate oedd y rheina, ond pa un o'r ddwy oedd yn rhoi'r golau mlaen tybed?

Gwneud Bywyd yn Haws

Nos Fawrth ar Gwneud Bywyd yn Haws gaeth Hanna Hopwood gwmni Lliwen MacRae un o sylfaenwyr y grwp facebook GeNi sy'n rhoi llwyfan i famau beichiog a mamau newydd i rannu profiadau.

Annwyl - Cute

Sylfaenwyr - Founders

Beichiog - Pregnant

Profiadau - Experiences

Heb ofni - Without fear

O leia - At least

Pynciau - Subjects

Ymuno - To join

Fatha - Yr un fath â

Felly os dach chi'n fam newydd neu'n feichiog cofiwch am dudalen Facebook GeNi.

Mali Harries

Yr actores Mali Harries, sy'n chware rhan Jaclyn Parri yn yr opera sebon, Pobol y Cwm, fuodd yn sôn am fod yn fentor iaith i'w ffrind, yr actores Amanda Henderson. Mae Amanda, sy'n chware'r rhan Robyn yn y gyfres Casualty, wrthi'n dysgu Cymraeg efo help Mali yn y gyfres Iaith ar Daith ar S4C.

Ffrindiau mynwesol - Bosom pals

Twymgalon - Warmhearted

Egnïol - Enegetic

Yn gyfarwydd â - Familiar wuth

Wedi cael ei throchi - Has been immersed