11 October 2022

Available for over a year

TAITH DDRYMIO TUDUR OWEN

Mi roedd Tudur Owen yn chwarae drymiau i fand o’r enw Pyw Dall yn niwedd yr 80au ac mi roedd o isio dechrau chwarae eto….creisis canol oed falle? Mi osododd her iddo fo’i hun i ddysgu’r drymiau eto ac mi gafodd o sgwrs efo un o ddrymwyr gorau a mwya profiadol Cymru, Graham Land, a chlywed sut wnaeth o gymryd diddordeb mewn drymio yn y lle cynta…

Gosod her - To set a challenge

Profiadol - Experienced

Sbïad - Edrych

Camgymeriad - Mistake

Profiad - Experience

GWNEUD BYWYD YN HAWS

Caffein oedd pwnc rhaglen Gwneud Bywyd yn Haws nos Fawrth efo Hanna Hopwood. Mewn coffi dan ni‘n gweld caffein fel arfer, ond mae o i'w gael mewn diodydd eraill hefyd fel buodd Dr Teleri Mair yn sôn ar y rhaglen…

Symbylydd - Stimulant

Ymennydd - Brain

Egni - Energy

Yn fwy effro - More awake

Cyffur - Drug

Yn benodol - Specifically

Rheswm meddygol - Medical reason

Esgyrn - Bones

Yn gymedrol - Moderately

ALED HUGHES

Bore Llun ar ei raglen mi gafodd Aled Hughes sgwrs efo Megan Cynan Corcoran o ardal Beddgelert, sydd wedi bod yn chwilio i hanes ei theulu, ac sydd wedi darganfod ei bod yn perthyn i Rhodri Mawr, un o hen Dywysogion Cymru!

Ymchwil - Research

Canrifoedd - Centuries

Tarddiad - Origins

Yr Anwyliaid - The Anwyl clan

Llyfrgell Gen(edlaethol) - The National Library

Arfbais - Coat of arms

Cyswllt - Connection

Cist - Chest

Genedigaeth(au) a marwolaethau - Birth(s) and deaths

Cynefin - Habitat

ALED HUGHES

Cafodd Aled Hughes sgwrs efo’r actores o Benarth, Morfydd Clark sy’n chwarae rhan y cymeriad Galadriel yn y gyfres Lord of the Rings – Rings of Power sydd ar y teledu ar hyn o bryd. Ond mi fuodd Morfydd yn chwarae rhan cymeriad chwedlonol arall yn y gorffennol sef Blodeuwedd, mewn drama lwyfan Theatr Genedlaethol Cymru. Dyma hi’n sôn wrth Aled am y profiad hwnnw...

Chwedlonol - Mythical

Uchafbwyntiau - Highlights

Hollol anhygoel - Totally incredible

Tu fas - Outside

Lleoliad - Location

Traddodiadol - Traditional

Y gyfres - The series

Llong rhyfel - Warship

Arwres - Heroine

BORE COTHI

Rhywbeth arall sydd ar y teledu, ac yn y sinemâu, ar hyn o bryd ydy Blonde, addasiad ffilm o nofel am fywyd un o eiconau mwya Hollywood, Marilyn Monroe. Aeth Lowri Haf Cooke i weld y ffilm ar ran rhaglen Bore Cothi.

Addasiad ffilm - A film adaptation

Dadleuol - Controversial

Dehongliad - Interpretation

Adnabyddus - Enwog

Camdrin - To abuse

Delwedd - Image

Eithriadol - Exceptional

Amrwd - Raw

Dychrynllyd - Frightening

Trais - Violence

BORE COTHI

Mae Syr Bryn Terfel yn mynd ar daith o gwmpas Prydain y mis yma ac mi gafodd o sgwrs efo Shân Cothi am raglen perfformiadau’r daith. Dyma i chi flas ar y sgwrs…

Cydio - To grasp?

Cyfansoddwr - Composer

Amryddawn - Versatile

Dramodydd - Dramatist

Alawon - Melodies

Telyn - Harp

Yn arw - A great deal