4 October 2022

Available for over a year

BETI A’I PHOBOL

Karl Davies oedd gwestai Beti George yr wythnos hon. Mae Karl newydd ddod yn ôl i Gymru ar ôl bod yn dysgu Saesneg i oedolion am bedair blynedd yn China…a dyma fo’n sôn am hanes Cadi, y gath fach, wnaeth deithio mewn awyren yr holl ffordd o China i Gaerdydd...

Y gradures fach - Poor thing (lit: the little creature)

Mabwysiadu - To adopt

Erchyll - Dreadful

Epaod - Apes

TRYSTAN AC EMMA

Mae Elsi Williams yn dod o Fethesda yng Ngwynedd yn wreiddiol ond yn byw yn Llandudno erbyn hyn. Mae hi’n mynd i nifer fawr o ddosbarthiadau ffitrwydd i gadw’n heini, fel cawn ni glywed yn y clip nesa ‘ma. Trïwch ddyfalu be ydy oedran Elsi wrth i chi wrando arni’n sôn am gadw’n heini – mi gewch chi’r ateb cyn diwedd y clip…

Ddaru - Gwnaeth

Coedwig - Wood

Clychau’r gog - Bluebells

Anhygoel - Incredible

DEI TOMOS

Roedd y Moody Blues yn fand poblogaidd iawn yn y chwedegau a’r saithdegau ac mae’n debyg mae Nights in White Satin oedd un o’u caneuon mwya enwog. Roedd un o aelodau’r band, Ray Thomas, yn perthyn i'r cyflwynydd, cerddor ac actor Ryland Teifi. Fo oedd gwestai Dei Tomos nos Fawrth a dyma fo’n rhoi ychydig o’r hanes...

Cyflwynydd - Presenter

Cerddor - Musician

Yn enedigol o - A native of

Yn fachan - Yn fachgen

Dur - Steel

Ar fy mhwys i - Wrth fy ymyl i

Modrybedd - Aunties

Roedd e’n dwlu ar - Roedd o’n dotio ar

ALED HUGHES

Mae’r cyflwynydd Bethan Elfyn wedi bod yn sal ers 2005 ac wedi bod yn aros am drawsblaniad ysgyfaint am flynyddoedd er mwyn iddi hi gael gwella. O’r diwedd mae hi wedi cael clywed ei bod ar y rhestr am drawsblaniad...

Trawsblaniad ysgyfaint - Lung transplant

Wedi cwympo - Has fallen

Triniaeth - Treatment

Dirywiad - Deterioration

Celloedd - Cells

Dinistrio - To destroy

BORE COTHI

Mi gafodd Shân Cothi sgwrs efo Martina Roberts sy’n dod o’r Weriniaeth Tsiec yn wreiddiol ond sydd nawr yn dysgu yn Sir Benfro. Dyma hi’n sôn am sut dechreuodd hi ddysgu Cymraeg...

Y Weriniaeth Tsiec - The Czech Republic

Ystyried - To consider

Denu - To attract

Gwella - To improve

Almaeneg - German language

GWNEUD BYWYD YN HAWS

Mi fuodd Hanna Hopwood yn sgwrsio efo Branwen Llywelyn sydd wedi derbyn her 'Medi Ail Law', ond beth yn union ydy’r her ‘ma?

Her - A challenge

Mae'n hysbys - It’s known

Amgylchedd - Environment

Diwydiant - Industry

Hinsawdd - Climate

Mynd i'r afael - To get to grips with

Codi ymwybyddiaeth - To raise awareness

Annog - To encourage

Ar hap - Randomly

Egwyddorion - Principles

Annibynnol - Independent