16 September 2022

Available for over a year

Bore Cothi

Sarah Astley Hughes sy’n byw yng Nghaerdydd, ond sy’n dod Lanrhaeadr ym Mochnant, Powys yn wreiddiol, fuodd yn sôn wrth Shelley Rees Owen ar Bore Cothi fore Iau am ei phenderfyniad i groesawu’r gwallt llwyd ar ôl cael llond bol o orfod lliwio ei gwallt bob pythefnos!

Croesawu - To welcome

Lliwio - To dye

Sylweddoli - To realise

Ffili - Methu

Colurwraig - Make-up artist

Bwrw Golwg

Ddechrau wythnos diwetha mi ddaeth y newyddion am y llifogydd ofnadwy sydd wedi taro Pacistan. Dyma i chi Tom Davies o’r elusen Cymorth Cristnogol yn sôn am y drychineb…

Llifogydd - Floods

Trychineb - Disaster

Heb rybudd - Without warning

Diflannu’n weddol glou - Disappearing quite quickly

Distryw - Destruction

Ceisio dygymod â - Trying to come to terms with

Yn sgil - As a consequence of

Cilio - To recede

Newid hinsawdd - Climate change

Argyfyngau - Crisis

Cymry a Mwy

Pan symudodd Gwenfair Griffith a’i theulu i Sydney, Awstralia, sefydlodd hi Grŵp Chwarae Cymraeg er mwyn helpu ei phlant i gadw cysylltiad â’u gwreiddiau yng Nghymru. Yn y rhaglen hon, mae Gwenfair yn cwrdd â Lin Dodd sy’n byw yng Nghaerffili, ond sy’n dod o Tseina yn wreiddiol, ac sy’n ceisio dod yn rhan o’r gymuned leol …

Y gymuned leol - The local community

Cyfathrebu - To communicate

Y profiad - The experience

Aled Hughes

Mae Vaughn Smith o Washington yn medru siarad 36 o ieithoedd ac mae’n rhugl mewn 24 ohonyn nhw! Rhai o’r ieithoedd mae o’n eu siarad ydy Rwmaneg, Ffineg, Sbaeneg, Pwyleg, Norwyeg, Iseldireg….ac erbyn hyn mae Cymraeg ar ei restr o ieithoedd yn ogystal.

Pwyleg - Polish

Iseldireg - Dutch

Defnyddiol - Useful

Tras Cymreig - Welsh heritage

Ar ei thraws - Across it

Y Deyrnas Unedig - The UK

Cefais fy swyno - I was enchanted

Yn ddiweddarach - Later on

Dros Ginio

Draw i Feirionnydd aeth Dewi Llwyd i gwrdd â thad a merch o bentre Llanuwchllyn, sef Huw Antur a Marged Gwenllian. Mae Huw yn Gyfarwyddwr Gwersyll yr Urdd yng Nglanllyn ac mae Marged hefyd yn gweithio i’r Urdd fel Swyddog Cymunedol Meirionnydd.

Cyfarwyddwr Gwersyll - Camp Director

Swyddog Cymunedol - Community officer

Dylanwad - Influence

Dau gan llath - 200 yards

Tebyg - Similar

Milltir sgwâr - Square mile

Hwyrach - Perhaps

Ymgyrchu - Campaigning

Cynyddu - To increase

Lleihau - To decrease

Aled Hughes

Cyhoeddodd Aled Hughes newyddion cyffrous ar Radio Cymru ddydd Mercher diwetha! O Hydref y 3ydd, mi fydd cyflwynydd newydd ar y tonfeddi bob nos Lun i Iau o 9 tan hanner nos. Pwy ydy o, neu hi. tybed…?

Cyflwynydd - Presenter

Tonfeddi - Wavelength

Ar fin datgelu - About to disclose

Llawn cyffro - Full of excitement

Rhoi’r gorau iddi - To give it up

Arloesol - Pioneering

Cyfrwng - Medium

Heb unrhyw amheuaeth - Without any doubt

Cynulleidfa - Audience