1 November 2022

Available for over a year

BORE COTHI

Buodd Mari Grug yn cadw sedd Shân Cothi yn gynnes ddechrau’r wythnos diwetha, a chafodd hi sgwrs gyda Eirian Muse o Garmel ger Caernarfon am greu basgedi.

Dechreuodd diddordeb Eirian mewn basgedi pan gafodd daleb i fynd i weithdy creu basgedi fel anrheg penblwydd tua phum neu chwe blynedd yn ôl.

Dyma Eirian yn dweud yr hanes…

Taleb - Voucher

Ar hap - Accidentally

Helyg - Willow

Sir Amwythig - Shropshire

Cymhwyster - Qualification

Gwledig - Rural

Hwb - A boost

Gwlad yr Haf - Somerset

Cynnyrch adnewyddadwy - Renewable produce

Hyblyg - Pliable

Trwch - Thickness

BETI A’I PHOBL

Eurig Druce ydy Rheolwr Gyfarwyddwr cwmni ceir Citroën yn y Deyrnas Unedig a fe oedd gwestai Beti George wythnos diwetha. Mae’n dod o bentref Bethel ger Caernarfon yn wreiddiol a phwy gwell nag Eurig i drafod ceir gyda Beti. Dyma i chi flas ar y sgwrs …

Rheolwr Gyfarwyddwr - Managing Director

Y Deyrnas Unedig - The UK

Anferth - Huge

Cynhyrchu’n unigol - Individually produced

Diwydiant - Industry

Sylfaen - Foundation

Trydanol - Electrical

Perthnasol - Relevant

ALED HUGHES

Roedd y grŵp cerddorol HAPNOD yn boblogaidd yn ystod yr 80au. Roedd pedwar aelod o’r grŵp - Cefin Roberts, Rhian Roberts, Gwyn Vaughan Jones ac Ann Llwyd. Dyma nhw’n sôn wrth Aled Hughes sut cafodd y grŵp ei ffurfio yn y lle cynta, Ann sy’n siarad gynta.

Tywysog - Prince

Trefniannau - Arrangements

Emynau - Hymns

Cyfres - Series

Unig - Lonely

Cyhoeddus - Public

Dere - Tyrd

JONATHAN YN 60

Mae’r cyn-chwaraewr rygbi Jonathan Davies yn dathlu ei ben-blwydd yn 60 eleni a buodd e’n edrych yn ôl ar ei fywyd a'i yrfa gyda Sarra Elgan. Dyma fe’n sôn am yr adeg pan fuodd ei dad farw, a Jonathan ond yn bedair ar ddeg oed.

Paratoi - To prepare

Twlu - Taflu

Yn grac - Yn flin

Llefain - Crïo

Cyfnod - Period

Mam-gu - Nain

CLONC

Roedd yna gystadleuaeth rhyfedd iawn ar Radio Cymru wrth i Radio Clonc gymryd drosodd tonfeddi Radio Cymru nos Fawrth. Dyma i chi “Richard” o Gaernarfon yn trïo ennill gwobr fawr cystadleuaeth Alff a Bet…

Rhyfedd - Strange

Tonfeddi - Wavelength

Di o’m bwys - Dydy o ddim yn bwysig

Llythyren - Letter

Asiantaeth Gofod - Space Agency

Teyrnas - Kingdom

Madarch - Mushroom

Unigryw - Unique

COFIO

Cymdeithas oedd thema’r rhaglen archif Cofio gyda John Hardy bnawn Sul. Dyma glip o raglen o ddiwedd y ganrif ddiwetha gyda phobl ar draws Cymru, yn hen ac ifanc, yn trafod sut mae cymdeithas a chymuned wedi newid.

Cymuned - Community

Rhywsut - Somehow

Elfen - Element

Bodoli - To exist

Y cymoedd - The valleys

Fawr o neb - Hardly anyone

Hwn a’r llall - This and that

Tlodi - Poverty

Hela cwningod - Hunting rabbits

Hwyrach - Efallai

Parch - Respect

Wedi darfod - Has ceased to exist