29 March 2022

Available for over a year

Gwneud Bywyd yn Haws - Mirain Rhys

Am 6 ar nosweithiau Mawrth mae Hanna Hopwood a'i gwesteion yn trafod be sy'n gwneud bywyd yn haws, a'r thema wythnos diwetha oedd teimladau plant. Dyma glip o'r Dr Mirain Rhys sy'n Uwch Ddarlithydd mewn seicoleg ym Mhrifysgol Met Caerdydd, yn esbonio pa mor bwysig ydy cael plant i feddwl yn bositif, a sut mae'n bosib gwneud hynny efo sylwadau cadarnhaol...

Uwch Ddarlithydd - Senior lecturer

Sylwadau cadarnhaol - Affirmations

Ar hap - Randomly

Darbwyllo unigolion - To convince individuals

Y gwirionedd - The truth

Yn ehangach - Wider

Cyflawni - To achieve

Gallu - Ability

Datblygu - To develop

Hyblyg - Flexible

Ac i glywed rhagor o'r sgwrs yna rhwng Hanna a'r Dr Mirain Rhys mae'n bosib gwrando eto ar ap BBC Sounds drwy chwilio am Gwneud Bywyd yn Haws.

Marchnad Llanbed

Ychydig o hanes Marchnad Llanbedr Pont Steffan, neu Llambed, sy nesa. Mae'r farchnad wedi ennill gwobr Y Farchnad Orau yng Nghymru gyda'r Slow Food Awards. Dyma ymateb Jane Langford, un o drefnwyr Marchnad Llanbed ac un o'r stondinwyr, Yve Forrest o Cegin Yve i'r wobr...

Pleidleisio - To vote

Syndod - A surprise

Cynhyrch - To produce

Ansawdd - Quality

Blawd - Flour

Cynnyrch - Product

Bro Morgannwg - Vale of Glamorgan

Awyrgylch gefnogol - Supportive environment

Cyfeillgar - Friendly

Ychydig o hanes marchnad Llambed ar raglen Troi'r Tir wythnos diwetha.

Hanes cerdded

Dach chi erioed wedi meddwl am hanes cerdded? Mae Andrew Green wrthi'n paratoi llyfr am hanes cerdded yng Nghymru. Pa mor bell yn ôl mewn hanes fydd o'n mynd tybed? Dyma fo'n sgwrsio efo Aled Hughes....

Arfordir - Coast

Gwledig - Rural

Pentwr - Heap

Oes - Age

Ôl traed - Footprint

Darganfod - To discover

Andrew Green oedd hwnna'n sôn am ei lyfr newydd am hanes cerdded yng Nghymru.

Bore Cothi a Tom Pitts-Tucker

Shan Cothi gafodd air efo Tom Pitts-Tucker fore Mercher. Mae o'n byw ger Trefynwy ac wedi bod yn dysgu Cymraeg ers tua tair blynedd a dyma fo yn rhoi ychydig o'i hanes...

Sir Efrog - Yorkshire

Mo'yn dychwelyd - Eisiau dod yn ôl

Meddygon teulu - GPs

Anhygoel - Incredible

Her - A challenge

Annog - To encourage

Diwylliant - Culture

Allwedd - Goriad

Tom Pitts-Tucker yn esiampl da o'r rhai sy'n dysgu Cymraeg ar ôl symud i fyw i Gymru.

Dwyieithrwydd Dros y Dwr

Aeth Ifor ap Glyn i Wlad Belg i ddarganfod mwy am yr iaith Iseldireg yn Fflandrys a Brwsel a'i pherthynas efo'r Ffrangeg. Drwy lwc daeth ar draws Lieven Dehandschutter sydd â'r Iseldireg yn famiaith iddo, ond mae o hefyd yn rhugl yn y Gymraeg.

Gwlad Belg - Belgium

Iseldireg - Flemish

Sefydlwyd - Was established

Iaith weinyddol - Administrative language

Y werin - The ordinary people

Tafodieithoedd - Dialects

Rhwydd hynt i ymgryfhau - A free hand to strengthen

Pur anaml - Rarely

Cellwair - Banter

Diddorol ynde? Sefyllfa Iseldireg yng Ngwlad Belg debyg iawn i'r Gymraeg yng Nghymru.

Stiwdio - John Williams

Mae'r cyfansoddwr John Williams wedi dathlu ei ben-blwydd yn 90 eleni. Yn ystod ei yrfa mae o wedi cyfansoddi'r gerddoriaeth ar gyfer rhai o'r ffilmiau mwya eiconig yn hanes y sinema, gan gynnwys Star Wars, Superman, ET a Harry Potter. Efo enw fel John Williams ydan ni'n medru ei hawlio fel Cymro tybed? Wedi'r cwbl roedd ei dad yn cadw siop ym Mangor. Ond yn anffodus Bangor Maine oedd hwnnw ac nid Bangor Gwynedd. Americanwr oedd John Williams a dyma i chi gyfansoddwr arall, Owain Llwyd yn rhoi ychydig o'i hanes i ni...

Hawlio - To claim

Cyfansoddwr - Composer

Cyflawni - To achieve

Enwebu - To nominate

Parch - Respect

Symlrwydd - Simplicity

Cerddorfa - Orchestra

Canadwy - Singable

Ysbrydoli - To inspire

Cyfarwyddwr - Director