8 March 2022

Available for over a year

Bore Cothi Ieuan Rhys

I le fasech chi'n licio mynd ar fordaith? Mwynhau'r haul 'falle yn y Caribî, neu teithio o gwmpas ynysoedd Môr y Canoldir? Nid dyna oedd ateb y diddanwr Ieuan Rhys i gwestiwn Heledd Cynwal fore Llun...

Mordaith - Cruise

Diddanwr - Entertainer

Gwlad yr Iâ - Iceland

Taro deuddeg (idiom) - To strike a chord

Twym - Poeth

Chwysu - To sweat

Trwchus - Thick

Tirwedd - Lanscape

Oefad - Nofio

Trais - Crime

Helen Cynwal yn cadw sedd Shan Cothi'n gynnes ac yn holi Ieuan Rhys am ei fordaith ddelfrydol.

Bore Sul Non Evans

Bore Sul cafodd Iwan Griffiths sgwrs efo'r cyn chwaraewr rygbi Non Evans a sôn i ddechrau am ei magwraeth yn y Fforest ger Abertawe. Mae Non wedi ennill 87 o gapiau dros Gymru a hefyd wedi cystadlu dros ei gwlad mewn Jiwdo, Reslo a chodi Pwysau!

Delfrydol - Ideal

Cyn chwaraewr - Former player

Magwraeth - Upbringing

Lan - Fyny

Dodi - Rhoi

Ro'n i'n dwlu - Ro'n i wrth fy modd

Codi pwysau - Weightlifting

Ffurflen gais - Application form

Ymgeisio - To apply

Menywod - Merched

Non Evans oedd honna'n sôn am ei magwraeth a hynny'n esbonio llawer am Non Evans, yr oedolyn sy'n hynod o heini.

Troi'r Tir

Rebecca Morris o Gasblaidd, Sir Benfro sy'n siarad yn y clip nesa. Mae hi'n ffermio efo'i phartner ac yn godro defaid er mwyn gwneud caws defaid. Mae'r ddau newydd ddechrau busnes Ewenique Spirits lle mae nhw'n creu fodca sydd a 'whey', neu maidd, ynddo fo, sef y gwastraff sydd i'w gael ar ôl gwneud caws o'r llaeth defaid.

Godro - To milk

Maidd - Whey

Llaeth - Llefrith

Gwastraff - Waste

Sefydlu - To establish

Arbrofi - To experiment

Cyfrinach - A secret

Wel, whe-he a phob lwc efo'r fodca arbennig ynde?

Gwyl lyfrau

Llyfrau plant oedd yn cael sylw Hanna Hopwood a'i gwesteion ar Gwneud Bywyd yn Haws nos Fawrth, a buodd Jo Knell yn sôn am y cynghorion mae hi wedi eu paratoi ar gyfer rhieni a gofalwyr sy'n dysgu Cymraeg, fel rhan o Ŵyl Ddarllen 'Amdani'

Cynghorion - Tips

Mas - Allan

Datblygiad iaith - Language development

Ynganiad - Pronunciation

Mwya poblogaidd - Most popular

I glywed rhagor o sgwrs Hanna Hopwood efo Jo Knell fel rhan o Ŵyl Ddarllen 'Amdani' Y Ganolfan Ddysgu Cymraeg Cenedlaethol, ewch i chwilio am Gwneud Bywyd yn Haws yn ap BBC Sounds

Stiwdio Manon Eames

Ar Stiwdio nos Lun diwetha, mi roedd Nia Roberts yn sgwrsio efo'r awdures Manon Eames am gynhyrchiad Cymraeg newydd o glasur Willy Russell, "Shirley Valentine". Nid dyma'r tro cynta i Manon addasu'r ddrama hon ar gyfer cynulleidfa Gymraeg, ac fel mae hi'n egluro, y tro 'ma mae hi wedi wedi newid cyfnod a lleoliad y ddrama.

Cynhyrchiad - Production

Addasu - To adapt

Cyfnod a lleoliad - Period and location

Perthnasol - Relevant

Gwirionedd - Truth

Degawd - Decade

Trafferth - Difficulties

Ail-asesu - To reassess

Unigrwydd - Loneliness

Cynulleidfa - Audience

Cyffyrddiadau - Touches

Manon Eames yn fan'na yn sôn am 'Shirley Valentine ' drama Gymraeg sydd yn teithio theatrau Cymru ar hyn o bryd.

Trystan ac Emma

Dach chi wedi gwneud rhywbeth gwirion erioed, a theimlo'n rêl ffŵl wedyn? Dyna ddigwyddodd i Trystan pan oedd o'n perfformio efo Band Pres Deiniolen. Dyma fo'n dweud yr hanes...

Pres - Brass

Llwyth - Loads

Dibrofiad tu hwnt - Extremely inexperienced

Sul y Cofio - Remembrance Sunday

Y gofgolofn - The monument

Deutha fi - Dweud wrtha i

Yn ddistawach - Quieter

Atgofion - Memories