15 March 2022

Available for over a year

Geraint Lloyd a Ann Cooper

Athrawes gelf oedd Anne Lloyd Cooper cyn iddi hi ymddeol ond rŵan mae ganddi fusnes yn gwerthu gwawdluniau , neu 'caricatures'. Roedd hi wedi gwneud un o Geraint Lloyd ac roedd yn falch iawn ohono fo, ond sut a pham wnaeth Ann ddechrau gwneud y lluniau 'ma? Dyma hi'n dweud yr hanes wrth Geraint...

Gwawdluniau - Caricatures

Graddio - To graduate

Degawdau - Decades

Gwerth chweil - Worthwhile

Tomen o luniau - Heaps of pictures

Gweddill - The rest

Elfennau - Elements

Anne Lloyd Cooper o Gapel Garmon yn Sir Conwy oedd honna yn sôn am ei busnes gwneud gwawdluniau.

Stiwdio Shirley Valentine

Ar y podlediad wythnos diwetha clywon ni Manon Eames yn sôn am ei haddasiad hi o'r ddrama Shirley Valentine. Mae'r ddrama ar daith o gwmpas Cymru ar hyn o bryd ac mi aeth Branwen Cennard i'w gweld. Shelley Rees-Owen oedd yn cymryd rhan Shirley, sut hwyl gaeth hi tybed? Cafodd Nia Roberts sgwrs efo Branwen ar raglen Stiwdio...

Addasiad - Adaptation

Camu - To step

Ysgubol - Sweeping

Her aruthrol - A huge challenge

Yn llythrennol - Literally

Cyfathrebu - To communicate

Cael eich denu - Being drawn into

Menyw - Merch

Cyffwrdd - To touch

Roedd Branwen Cennard yn amlwg wedi mwynhau 'Shirley Valentine' yn doedd?

Bore Cothi gwylio adar

Mae'r Dr Emyr Wyn Jones, meddyg o Doncaster, yn mwynhau byd natur a thynnu lluniau o adar ar gyfer ei gyfrif trydar. Dechreuodd ei ddiddordeb pan oedd yn fachgen ifanc ym Mhwllheli ac mae o wrth ei fodd efo enwau Cymraeg yr adar. Dyma ran o sgwrs cafodd Shan Cothi efo fo...

(c)hwyaid - Ducks

Dylanwad - Influence

Bywydeg - Biology

Modrwyon - Rings

Brych y coed - Mistle thrush

Gylfinir - Curlew

Siglo - Waging

Cnocell y coed - Woodpecker

Troellwr bach - Grasshopper warbler

Telor yr helyg - Willow warbler

Tydy enwau Cymraeg ar adar yn wych 'dwch? Dw i wrth fy modd efo 'cnocell y coed' - dach chi'n medru ei glywed yn cnocio wrth ei enwi yn tydach?

Beti a'i Phobol Siân Elen

Siân Elen Tomos ydy Prif Weithredwr GISDA, elusen sy'n cefnogi rhai sy'n ddigartref rhwng 16-25 oed yn y gogledd, a hi oedd gwestai Beti George.

Prif Weithredwr - Chief Executive

Digartrefedd - Homelessness

Cynnydd - Increase

Cynllunio - Planning

Datblygu - To develop

Darpariaeth - Provision

Llety - Accommodation

Buddsoddiad - Investment

Y galw - The demand

Rhestri aros - Waiting lists

Siân Elen Tomos, o GISDA yn fan'na yn esbonio sut mae digartrefedd yn broblem fawr i bobl ifanc y gogledd.

Sam Robinson

Mae Sam Robinson o Rydychen yn wreiddiol, wedi bod yn dysgu Cymraeg ers pedair mlynedd. Mae o'n byw ym Machynlleth erbyn hyn yn ffermio ac adeiladu waliau. Cafodd o sgwrs hir efo Dei Tomos a dyma i chi ran o'r sgwrs ble mae o'n sôn am pryd clywodd o'r Gymraeg am y tro cynta...

Rhydychen - Oxford

Y Goron - The (Eisteddfod) Crown

Barddoniaeth - Poetry

Mynnu - To insist

Adrodd - Narrating

Ymwybodol - Aware

Cydio - To take hold of

Uffernol - Hellish

Mewnfudwyr - Immigrant

Safle - Position

Doedd dim eisiau i Sam boeni am ei Gymraeg o gwbl, nac oedd?

Llythyr o Wcrain

Dydd Iau ar Radio Cymru clywon ni gyfieithiad o waith yr awdur o Wcrain Andrey Kurkov, sy'n edrych yn ôl ar ddigwyddiadau yr wythnosau diwetha yn y wlad ac ar sut gwnaeth ei deulu ddianc o'u cartref yn Kyiv. Ifan Huw Dafydd oedd yn darllen.

Mae'n bosib gwrando ar y llythyr ar BBC Sounds ac mi fydd llythyr arall wythnos nesaf.

Dianc - To escape

Llawenydd - Happiness

Gofidiau - Worries

Ffrwydrad - Explosion

Pwyllo - To pause

Rhyfel - War

Ochneidio - To sigh

Adnabyddus - Enwog

Cymhlethdodau - Complications

Difetha - To spoil