1 March 2022

Available for over a year

Shan Cothi a Geraint Jones

Sut mae gwneud y dorth berffaith? Wel roedd hi'n wythnos Real Bread Week wythnos diwetha ac ar Bore Cothi mi gafodd Shan farn y pobydd Geraint Jones. Mae Geraint a'i wraig yn berchen ar fecws yn Llydaw a dyma oedd ganddo fo i'w ddweud wrth Shan...

Llydaw - Brittany

Burum - Yeast

Toes - Dough

Lefain - Leaven

Crasu - To bake

Codi chwant - To whet the appetite

Malu - To mill

Ffwrn - Popty

Troad y ganrif diwetha - Turn of the last century

Naws neilltuol - Special quality

Geraint Jones yn fan'na yn codi chwant ar Shan Cothi, ac arnon ni i gyd dw i'n siŵr!

Troi'r Tir Sam Robinson

Mae'r bugail Sam Robinson yn dod o Rydychen yn wreiddiol ond mae o'n byw ym Mro Ddyfi yng ngogledd Powys erbyn hyn. Fel cawn ni glywed ar Troi'r Tir mae o erbyn hyn yn rhugl yn y Gymraeg ac yn mwynhau cymryd rhan yn y gymuned leol.

Bugail - Shepherd

Rhydychen - Oxford

Athroniaeth - Philosophy

Ta waeth - Beth bynnag

Anhygoel - Incredible

Tafodiaith - Dialect

Hardd - Beautiful

Gwirioni - Dwlu ar

Tirwedd - Landscape

Cyfoeth - Wealth

A Sam wedi codi acen hyfryd Gogledd Powys yn ogystal. Tasech chi eisiau dysgu mwy am Sam buodd erthygl amdano yn ddiweddar ar Cymru Fyw.

Post Prynhawn Brownies

Pam bod criw o Brownies Tunbridge yng Nghaint yn cael cyfarfod Zoom efo Brownies Y Felinheli yng Ngwynedd? Carole Boyce oedd yn gyfrifol am drefnu'r digwyddiad a dyma hi'n rhoi'r hanes ar Post Prynhawn...

Caint - Kent

Rhwydwaith Menywod Cymru - Welsh Women's Network

Ymateb - Response

Cyflwyno - To introduce

Ymwybodol o fodolaeth - Aware of the existance

Heol - Ffordd

Cyfarwydd - Familiar

Cangen - Branch

Daearyddiaeth - Geography

Ac yn ogystal â dysgu Cymraeg i Brownies Caint mae Carole yn diwtor Cymraeg i Oedolion yn dysgu dosbarthiadau ar-lein i ddysgwyr Sir Benfro a dysgwyr Prifysgol Bangor.

Aled Hughes Virginia a Porthcawl

Ond dysgwyr o Virginia yng ngogledd America, ac o Borthcawl fuodd yn sgwrsio efo Aled Hughes wythnos diwetha. Beth ydy'r cysylltiad rhwng Anne De Marsay o Virginia, ag un o athrawon Ysgol Gynradd Newton ym Mhorthcawl, Henley Jenkins? Cawn wybod mewn munud ond i ddechrau dyma Anne yn dweud sut aeth hi ati i ddysgu Cymraeg.

Medden nhw - They said

Hudolus - Magical

Ystod eang - A wide range

Gwych ynde? Dysgu Cymraeg yn dod â phobl ar draws y byd at ei gilydd ac yn help i blant ysgol Cymru yn ogystal.

Cofio Enwau Dodo

Rŵan ta - 'dodo' . Na, ddim fel yn 'dw i'n 'dod o' Gymru, a dim fel yr aderyn oedd yn arfer byw yn Mauritius. Na, mae 'dodo' yn hen air Cymraeg a dyma'r Dr Sara Louise Wheeler sy'n arbenigo ar enwau o bob math ,yn sôn am ei chysylltiad personol hi â'r gair...

Arbenigo - To specialize

Atgyfodi - To resurrect

Nithoedd - Nieces

Gan gynnwys - Including

Ffurfiol - Formal

Dilyniant - Sequel

Tarddiad - Source

Byddar - Deaf

Ysgol breswyl - Boarding school

Un genhedlaeth - One generation

Mae'n braf cael clywed am hen enwau'n cael eu hatgyfodi yn tydy?

Bore Sul Tomos Parry

Tomos Parry oedd gwestai Elliw Gwawr fore Sul. Mae Tomos yn dod o Ynys Môn yn wreiddiol ac mae o'n yn berchen ar fwyty Brat yn Llundain. Mae gan y bwyty un seren Michelin ac fel cawn ni glywed mae gan Tomos gynlluniau i agor rhagor o fwytai yn y ddinas fawr...

Yn amlwg - Obviously

Uchelgais - Ambition

Datblygu - To develop