4 February 2022

Available for over a year

1. Beti a'i Phobol a Rebecca Roberts

Buodd Beti George yn sgwrsio efo'r nofelydd Rebecca Roberts o Brestatyn. Mae hi wedi sgwennu pedair nofel ac wedi ennill sawl gwobr am ei llyfrau. Yn un o'i llyfrau mae'r prif gymeriad efo anabledd ac yn gwisgo coesau prosthetig yn union fel rhai merch yr awdur. Roedd Rebecca wedi bod yn ymgyrchu i gael Llywodraeth Cymru i awdurdodi ysbytai i wario ar goesau a breichiau prosthetig. Dyma hi'n sôn wrth Beti sut cafodd hi wybod bod yr ymgyrch wedi llwyddo...

Anabledd - Disability

Ymgyrchu - To campaign

Llywodraeth Cymru - The Welsh Government

Awdurdodi - To authorize

Arbenigol - Specialized

Byd o wahaniaeth - A world of difference

Deisebu - To petition

Arbenigedd - Expertise

Gwaith ymchwil - Research

Dadlau fy achos - Arguing my case

Rhoi cynnig arni - To give it a go

2. Cymru Carwyn Iau efo Max Boyce

Rebecca Roberts oedd honna'n sgwrsio gyda Beti George am y gwahaniaeth mae cael coesau prosthetig wedi gwneud i fywyd ei merch.

Yn y gyfres Cymru Carwyn mae Carwyn Jones yn trafod y pethau sy'n gwneud Cymru'n wlad mor arbennig, yn enwedig felly pobl a hanes y wlad. Yn y clip nesa mi gawn ni glywed Carwyn yn sgwrsio gydag un o drysorau mwya Cymru, Max Boyce.

Cymuned - Community

Sylw - Attention

Dwlu bod - Wrth fy modd bod

Hollol lofaol - Predominantly coalmining

Prydferth - Beautiful

Mo'yn - Eisiau

3. Aled Hughes a Mirain Iwerydd

Carwyn Jones oedd hwnna'n sgwrsio gyda Max Boyce.

Mi roedd Mr Urdd yn gan mlwydd oed wythnos diwetha ac mi lwyddodd yr Urdd i ddathlu'r pen-blwydd mewn steil drwy dorri record y byd am y nifer mwya o fideos o bobl yn canu'r un gân sef Hei Mistar Urdd. Bore Mercher mi roedd y cyflwynydd Mirain Iwerydd yn sgwrsio efo Aled Hughes am y cyfleoedd mae hi wedi eu cael efo'r Urdd gan gynnwys taith i Batagonia. Dyma Mirain yn sôn am y daith arbennig honno...

Cyflwynydd - Presenter

O bob cwr - From every corner

Y Wladfa - The Welsh settlement in Patagonia

Diolchgar - Thankful

Cyffelyb - Equivalent

Hala ni mas - Anfon ni allan

Llwyfan - Stage

Lledaenu - Spread

Neges Ewyllys Da - The Peace and Good Will Message

Cyfrinach - Secret

Ymwybodol - Aware

4. Betsan Powys ac Owain Wyn Evans

Mirian Iwerydd yn fan'na yn sôn am rai o'r pethau pwysig mae'r Urdd yn ei wneud. Mae Owain Wyn Evans yn gyfarwydd wrth gwrs fel cyflwynydd y newyddion a'r tywydd, ond yn ddiweddar mae o hefyd wedi dod yn enwog am ei ddrymio. Ar gyfer Plant Mewn Angen buodd o'n drymio am ddau ddeg pedair awr a chodi swm anhygoel o arian. Dyma fo'n datgelu mewn sgwrs efo Betsan Powys faint o bres yn union a godwyd...

Cyfarwydd - Familiar

Pedair awr ar hugain- 24 hours

Anhygoel - Incredible

Datgelu - To reveal

Taw - Mai

Amlwg - Prominent

Cefnogaeth - Support

Anferth - Huge

Her - A challenge

Ffili - Methu

5. Isio Babi

Tri phwynt wyth miliwn o bunnau- dyna swm anhygoel ynde? Nos Fercher mi glywon ni stori Carys Barratt a'i gŵr, Craig, fuodd yn trio cael babi am flynyddoedd. Mae'r rhaglen yn dilyn hanes Carys dros y misoedd pan oedd hi'n paratoi i gael triniaeth IVF, misoedd o obaith ac o siom. Dyma Carys yn rhoi ychydig o gefndir i ni...

Triniaeth - Treatment

Cefndir - Background

Di-Gymraeg - Ddim yn siarad Cymraeg

Gofal plant - Childcare

Ffodus - Lwcus

Llonni - Gwneud yn hapus

Ar waith - Working

6. Trystan ac Emma a Mot y ci

Pob lwc i Carys ac i Craig ynde? Ac i orffen , dyma i chi hanes anhygoel Mot y ci, aeth ar goll am 5 wythnos. Aeth Tecwyn Vaughan Jones o Fae Colwyn â Mot am dro ond rhywsut aeth y ci ar goll. Ar ôl i Tecwyn chwilio a chwilio efo help cymdogion, drones, yn wir help y gymuned gyfan, o'r diwedd gwelodd neges ar Facebook oedd yn rhoi gobaith iddo fo .....

Mi ddaru - Gwnaeth

Ymateb - Response

Wedi crwydro - Had wandered

Tebygrwydd - Similarity

Anobaith llwyr - Sheer hopelessness

Traddodiad - Tradition

Dianc - To escape

Rhuthro - To rush

Sefyll yn stond - Standing still

Yn cyfarth ac yn llyfu - Barking and licking