28 January 2022

Available for over a year

1. Aled Hughes a Melanie Owen

Melanie Carmen Owen, sy'n dod o Aberystwyth yn wreiddiol ond sy'n byw yng Nghaerdydd erbyn hyn, oedd gwestai Aled Hughes bore Llun diwetha. Melanie fydd yn cyflwyno cyfres newydd o Ffermio ar S4C ond mae hi hefyd wedi mentro i fyd y 'stand-up'. Sut digwyddodd hynny tybed?

Caredig Kind

Awgrymu To suggest

Menywod Merched

Beirniadu To adjudicate

Yn fuddugol Victorious

Profiadau personol Personal experiences

Perthnasol Relevant

Her A challenge

Cynulleidfa Audience

Addasu To adapt

2. Bore Cothi - Muhammad Ali

Melanie Owen oedd honna'n esbonio sut dechreuodd hi weithio ym myd 'stand-up'. Ar Ionawr 17 eleni basai Muhammad Ali wedi dathlu ei benblwydd yn 80 oed.

Un gafodd cwrdd â'r dyn ei hun, oedd Hywel Gwynfryn yn ôl yn 1966 draw yn LLundain, pan oedd Hywel yn gweithio fel gohebydd i'r rhaglen Heddiw. Roedd Cassius Clay (fel roedd Muhammad Ali ar y pryd) yn Llundain yn barod i focsio yn erbyn Henry Cooper, a chafodd e anrheg arbennig gan Hywel..

Syllu Staring

Tawelwch Silence

Cerddi Poems

Pencampwr Bocsio'r Byd Boxing World Champion

Na welwyd ei debyg o'r blaen Never seen his like before

Wrth-law Nearby

3. Gwneud Bywyd yn Haws - Caris Hedd Bowen

Hywel Gwynfryn yn sôn wrth Shan Cothi am ei sgwrs gyda Cassius Clay, neu Mohammed Ali. Roedd y bocsiwr hwnnw'n enwog am ei farddoniaeth gyda llinellau fel:

Float like a butterfly, sting like a bee.

His hand can't hit what his eyes can't see.

Tybed ai barddoniaeth TH Parry Williams oedd wedi ei ysbrydoli?

Nos Fawrth ar Gwneud Bywyd yn Haws cafodd Hanna Hopwood gwmni menyw arbennig sydd wedi wynebu sawl her gorfforol a meddyliol. Ar ôl iddi wella o ganser Hogkins Lymphoma roedd Caris Hedd Bowen yn teimlo'n ddiolchgar, ac yn teimlo fel tasai hi'n profi bywyd am y tro cynta. Dyma hi'n disgrifio ei theimladau wrth Hanna...

Ysbrydoli To inspire

Diolchgar Thankful

Cyfweliadau Interviews

Mas y bac Allan i'r cefn

Gwynto Arogli

Yn grac Yn flin

4. Ar y Marc Sadwrn - Dave Rogers

Caris Hedd Bowen yn ysbrydoli Hanna Hopwood wrth rannu ei stori. I glywed y bennod yn llawn ewch draw i BBC Sounds a chwilio am Gwneud Bywyd yn Haws.

Mae Dave Rogers yn byw yng Nghaerloyw ac wedi dysgu Cymraeg, a fe sy'n cynnal cyfri Twitter newydd Clwb Pêl-droed Casnewydd @YrAlltudion. Mae'r cyfrif yn ffordd o rannu newyddion am y tîm, y canlyniadau ac ati, ac hynny i gyd drwy'r Gymraeg. Mae llawer o gefnogwyr Casnewydd yn ddysgwyr ac mae Dave yn trio dysgu termau pêl-droed Cymraeg i'r dilynwyr, fel esboniodd e wrth Dylan Jones ar Ar y Marc...

Pennod Episode

Caerloyw Gloucester

Yr Alltudion The Exiles

Canlyniadau Results

Cefnogwyr Fans

Dilynwyr Followers

Tad-cu Taid

5. Ifan Evans a Mari Gwilym

Dave Rogers yn rhoi gwasanaeth Gymraeg i gefnogwyr Casnewydd - ac i'w fab hefyd.

Mae Ifan Evans wedi sôn sawl tro bod ofn llygod bach arno fe ac roedd e wedi dychryn pan welodd e lygoden bach yn y tŷ. Ar ei raglen ddydd Mawrth clywon ni hanes gan Mari Gwilym am gael llygod bach yn ei thŷ hi.

Olion Traces

Baw llygoden Mouse droppings

Hogia bach! Dear me!

Cofi Dre Person o Gaernarfon

Hadau Seeds

Llygoden bengron goch Bank vole

Cael gwared ar To get rid of

Anghenfil Monster

6. Bore Cothi a Llew Richards

Mari ac Ifan yn trafod llygod yn fan'na.

Mae Llew Richards sy'n 17 oed, a'i frawd Bryn sydd yn 15, wedi cychwyn menter newydd ar ddechrau blwyddyn newydd - rhentu cae er mwyn i bobol gael dod â'u cŵn yno i redeg a chwarae. Dyma Llew yn sôn wrth Shan Cothi am y fenter Newydd...

Dere Tyrd

Wedi dod i glawr Has come about

Ni sy berchen e We own it

Gwartheg Cattle

Tennyn Lead

Llanw lan Welling up

Rhyddid Freedom