31 October 2023

Available for over a year

Bob wythnos ar raglen Bore Cothi mae Shân yn sgwrsio efo gwesteion am eu Atgofion cynta. Ac yn y clip hwn mae Tara Bethan yn cofio am yr arogl cynta, ac mae’r arogl yma wedi gwneud dipyn o argraff arni hi:

Atgofion Memories

Arogl Smell

Argraff Impression

Chwyslyd Sweaty

Dw i’n medru eu hogla fo I can smell it

Cael fy ngwarchod Being looked after

Golygu’r byd Means the world

Delwedd Image

Carco To take care of

Tara Bethan yn fanna yn cofio aroglau chwyslyd y reslars!

Fel rhan o Wythnos Dathlu Dysgu Cymraeg mae Aled Hughes wedi gwirfoddoli i gymryd rhan yng nghynllun Siarad y Ganolfan Dysgu Cymraeg. Yn ddiweddar mi gafodd ei sgwrs gyntaf gyda’i bartner dysgu, sef Chloe Edwards, sy’n byw ym Mhenmaenmawr ond sydd yn wreiddiol o Cryw. Dyma Chloe yn sôn am sut daeth hi i ddysgu Cymraeg yn y lle cyntaf:

Gwirfoddoli Volunteering

Unrhyw gysylltiad Any connection

Ymwybodol Aware

Gwatsiad Gwylio

Anhygoel Incredible

Wel mae Aled wedi cael partner Siarad diddorol iawn yn Chloe yn tydy o?

Francesca Sciarrillo oedd gwestai Ffion Emyr, hi oedd enillydd Medal y Dysgwyr yn Eisteddfod yr Urdd Caerdydd a’r Fro yn 2019. Cafodd Francesca ei magu yn Sir y Fflint, ond Eidalwyr ydy ei theulu hi. Mi ddysgodd Francesca Gymraeg fel oedolyn ac erbyn hyn mae hi’n ac yn gweithio i Gyngor Llyfrau Cymru, yn hyrwyddo darllen i blant a phobol ifanc.

Hyrwyddo To promote

Wastad Always

Parchu penderfyniad Respect the decision

Cymuned Community

Diolchgar Thankful

Mor raenus So polished

Heriol Challenging

Gwerthfawr Valuable

Ac mae Francesca yn gweithio’n rhan amser erbyn hyn fel tiwtor Cymraeg i Oedolion.

Yr actores Mali Ann Rees oedd gwestai Beti George wythnos diwetha. Pan oedd hi’n 17 oed mi fuodd hi’n fyfyrwraig mewn Coleg yn India am ddwy flynedd yn astudio bagloriaeth rhyngwladol. Mae Mali yn un o’r actoresau mwya enwog Cymru ac wedi actio yn Craith, The Tourist Trap a The Pact. Mae hi hefyd yn un o dair sy’n cyfrannu i’r podlediad wythnosol, Mel Mal a Jal, sef tair Cymraes siaradus. Yn y clip hwn mae Mali yn trafod y profiad o hiliaeth gafodd yn yr ysgol ac yn India:

Hiliaeth Racism

Bagloriaeth rhyngwladol International Baccalourate

Beirniadaeth Critisism

Hunaniaeth Identity

Hiliol Racist

Chwerthin To laugh

Trin To treat

Gwerthfawr Valuable

Mali Ann Rees oedd honna’n sôn am brofiadau o hiliaeth annifyr iawn gafodd hi yn yr Ysgol ac yn y coleg.

Nos Lun y 23ain o Hydref Marci G oedd yn sedd Caryl Parry Jones ac mi gafodd o gwmni Sian Elin Thomas oedd yn sôn am ddathliadau penblwydd Aelwyd Crymych yn 80 oed. Mae Sian wedi bod yn aelod ei hun am nifer o flynyddoedd ac yn y clip mi wnewch chi ei chlywed yn egluro beth yn union ydy Aelwyd yr Urdd...

Aelod Member

Cefnogol Supportive

Traddodiad Tradition

Arwain Leading

Dathliad A celebration

Llywydd anrhydeddus Honorary President

Arddangosfa Exibition

Lluniaeth Refreshments

A penblwydd hapus i Aelwyd Crymych a gobeithio i chi ddathlu mewn steil ynde?

Nos Fawrth ddiwetha ar raglen Georgia Ruth, roedd Glyn ac Ellis o’r band Mellt yn cadw cwmni iddi hi. Roedden nhw wedi dod adra i Aberystwyth i ymweld â rhai o’r lleoliadau oedd yn bwysig iddyn nhw fel band, gan gynnwys y sied yng ngwaelod gardd tŷ Glyn lle buon nhw’n recordio. Yn y clip hwn mae Glyn yn sôn wrth Georgia am bwysigrwydd geiriau eu caneuon, a’r defnydd o Gymraeg naturiol, bob-dydd:

Lleoliadau Locations

Cymhleth Complicated

Denu mewn To draw in

Pert Pretty

Sa i’n gwybod Dw i ddim yn gwybod