21 November 2023

Available for over a year

Clip 1 Trystan ac Emma:

Buodd Steffan Long o Gaerdydd yn sgwrsio ar raglen Trystan ac Emma yn ddiweddar, ac yn sôn am ei waith fel cynorthwyydd dysgu Saesneg mewn Ysgol yn Tokyo, a dyma i chi flas ar y sgwrs:

Cynorthwyydd Assistant

Ma’s Allan

Hir dymor Long term

Parhau Continue

Disgyblion Pupils

Mymryn A little

Clip 2 Rhaglen Cofio:

Steffan Long oedd hwnna’n sôn am ei waith mewn ysgol yn Tokyo.

Wythnos diwetha roedd hi’n Sul y Cofio a dyna beth oedd thema rhaglen Cofio gyda John Hardy. A dyma i chi glip o Harold Williams yn sôn am ddod i Lanrwst fel ifaciwî o Lerpwl yn ystod yr Ail Ryfel Byd:

Ail Ryfel Byd Second World War

Trais Violence

Pledu cerrig Throwing stones

Cyfnod Period

Yn achlysurol Occasionally

Mynd yn eu holau Returning

Lleia’n byd o sôn oedd The less it was mentioned

Buan iawn Very soon

Clip 3 Bwrw Golwg:

Hanes rai o ifaciwîs Llanrwst yn fanna ar raglen Cofio.

Ar Bwrw Golwg ar y 12fed o Dachwedd, mi roddwyd sylw i Diwali neu Ŵyl y Goleuni, sy’n cael ei dathlu gan Hindŵiaid a Sikhiaid. Yn y clip nesa ‘ma mae Mohini Gupta, sydd wedi dysgu Cymraeg, yn sôn am draddodiadau’r Ŵyl hon efo Gwenfair Griffith:

Goleuni Light

Traddodiadau Traditions

Addurno To decorate

Gweddïau Prayers

Buddugoliaeth Victory

Tywyllwch Darkness

Gwahodd ffyniant Inviting prosperity

Pryder amgylcheddol Environmental concern

Ymdrechion i annog Efforts to encourage

Melysion Confectionary

Byrbrydau Snacks

Clip 4 Rhaglen Aled Hughes:

Mae’n swnio fel bod dathliadau Diwali yn llawn o fwyd blasus yn tydy?

DJ Katie Owen oedd gwestai Aled Hughes yn ddiweddar. Mae Katie wedi dilyn Cymdeithas Bêl-Droed Cymru ar draws y byd yn chwarae cerddoriaeth i’r cefnogwyr, ac mae hi wedi dysgu Cymraeg. Buodd Katie ar y rhaglen Iaith ar Daith efo’i mentor Huw Stephens yn 2021. Mi gafodd Aled â Katie sgwrs yng Nghanolfan Iaith Genedlaethol Nant Gwrtheyrn, ac yn y clip hwn mae hi’n sôn am gymaint mae hi’n caru dysgu Cymraeg:

Cymdeithas Bêl-Droed Cymru Football Association of Wales

Cefnogwyr Fans

Mo’yn Eisiau

Cerddoriaeth Music

Ar goll Lost

Mi ddylet ti fod You should be

Clip 5 Rhaglen Caryl:

Dal Ati Katie, mi fyddi di’n rhugl cyn bo hir, dw i’n siŵr.

Lowri Cêt oedd yn cadw cwmni i Caryl ddechrau’r wythnos diwetha. Mae Lowri yn chwarae rhan Sindarela ym mhantomeim blynyddol Theatr Fach Llangefni. Yma mae’n dweud mwy am y sioe:

Stori draddodiadol Traditional story

Llysfam gas Wicked stepmother

Annifyr Unpleasant

Yn gyfarwydd â Familiar with

Hyll Ugly

Gwisgoedd Costumes

Cymeriadau Characters

Yn brin iawn Very rarely

Hawlfraint Copyright

Clip 6 Bore Cothi:

Wel am hwyl ynde? A phob lwc i griw Theatr Fach Llangefni efo’r pantomeim.

Bob nos Fawrth mae’r rhaglen Gwesty Aduniad i’w gweld ar S4C. Mae’r rhaglen yn trefnu aduniad i bobl sydd wedi colli cysylltiad â’i gilydd ond hefyd yn trenu i bobl gyfarfod â’i gilydd am y tro cynta mewn amgylchiadau arbennig. Mae’n gyfres boblogaidd ac emosiynol iawn. Nos Fawrth y 14eg o Dachwedd roedd Guto Williams o Dregarth ar y rhaglen. Mae Guto wedi cael ei fabwysiadu ac yn awyddus i ddod o hyd i’w deulu coll:

Aduniad Reunion

Mabwysiadu To adopt

Adlewyrchiad Reflection

Magwraeth Upbringing

Rhieni maeth Foster parents

Tebygolrwydd Similarity

Cam mawr A big step

Greddf Instinct

Parch Respect

Ffawd Lwc

Clamp o stori A huge story