7 November 2023

Available for over a year

Clip 1 Rhaglen Trystan ac Emma:

Ddydd Gwener Hydref 27, pan oedd hi bron yn Galan Gaeaf, ysbrydion oedd yn cael sylw ar raglen Trystan ac Emma. Mae Islwyn Owen yn Ysbrydegydd neu Spiritualist Medium, ac mae’n dweud bod ganddo’r gallu i gysylltu a derbyn negeseuon gan ysbrydion. Yn y clip nesa ‘ma mae o’n sôn am ysbrydion yn cysylltu efo fo drwy freuddwydion:

Calan Gaeaf Halloween

Ysbrydion Spirits

Ysbrydegydd Spiritualist Medium

Breuddwydion Dreams

Cryn dipyn Quite a bit

Arferol Usual

Chwalu fy mhen Blew my mind

Manwl Detailed

Clip 6: Rhaglen Dros Ginio:

Rhaglen arall fuodd yn trafod ysbrydion ond ar ddiwrnod Calan Gaeaf y tro hwn, oedd Dros Ginio. Dyma i chi Rheinallt Rees, cynhyrchydd y podlediad 'Ofn’, yn sôn wrth Jennifer Jones am ei brofiadau ysbrydol ei hun, a pham bod na fwy o ddiddordeb gan bobl yn y byd paranormal y dyddiau hyn ...

Cynhyrchydd Producer

Cyffwrdd To touch

Unigryw Unique

Canolbwyntio To concentrate

Synau Sounds

Awel Breeze

Gwyddonol Scientific

Ymennydd Brain

Llwydni Mould

Esboniadwy Explainable

Yn ein plith ni Amongst us

Clip 4 Rhaglen Aled Hughes:

O mam bach, roedd yr holl sôn am ysbrydion yn ein paratoi ni’n dda at ddiwrnod Calan Gaeaf yn doedd? Ac ar y diwrnod hwnnw mi gafodd Aled Hughes sgwrs efo’r Dr Adam Coward sydd yn arbenigo mewn marciau gwrachod mewn tai. Mae Adam yn dod o Missouri yn wreiddiol, wedi dysgu Cymraeg, ac yn byw yn ardal Aberystwyth erbyn hyn. Dyma i chi ran o’r sgwrs lle mae Aled yn holi Adam lle basai rhywun yn dod o hyd i farc gwrachod a sut basai rhywun yn ei nabod:

Gwrachod Witches

Pren Wood

Trawstiau Beams

Ar bwys Wrth ymyl

Amrywiol lefydd Various places

Cuddio To hide

Rhwymo To wrap

Am wn i As far as I know

Saer maen Stone mason

Clip 5 Rhaglen Bore Cothi/ Heledd Cynwal yn cyflwyno:

Wel dyna ddigon am wrachod ac ysbrydion, mae’n hen bryd i ni droi at rywbeth ysgafnach yn tydy?

Bob nos Fercher ar S4C mae ail gyfres Gogglebocs Cymru i’w gweld am 9 o’r gloch. Buodd Heledd Cynwal yn cadw sedd Shân Cothi yn gynnes yn diweddar a chafodd hi sgwrs efo un o sêr y gyfres, sef Annaly Jones o Gaerfyrddin. Mae Annaly yn sôn yn y clip yma am gymaint mae hi’n mwynhau bod yn rhan o’r rhaglen:

Ail gyfres Second series

Ysfa A strong desire

O’r dechrau’n deg From the very beginning

Parchedig Reverand

Ta beth Beth bynnag

Wedi cydio Has caught on

Ymateb Response

Annog To encourage

Clip 7: Rhaglen Rhys Mwyn:

Mae Annaly wrth ei bodd efo’r gyfres yn amlwg, ac mae hi’n lot o sbort yn tydy?

Ar raglen Rhys Mwyn nos Lun Hydref 30, mi fuodd Clare Potter o Gefn Fforest ger Caerffili, oedd yn Fardd y Mis Radio Cymru yn ystod mis Hydref, yn sgwrsio efo Rhys am ei chyfnod yn astudio llenyddiaeth Affro Caribïaidd yn New Orleans a Mississippi a dyma i chi flas ar y sgwrs:

Llenyddiaeth Literature

Dwlu ar Wrth fy modd efo

Cymhariaeth Comparison

Clip 8: Rhaglen Caryl:

Clare Potter oedd honna’n sgwrsio efo Rhys Mwyn am lenyddiaeth Affro Caribïaidd.

Nos Fawrth ddiwetha, Delyth Eirwyn, y cyn actores, ond sydd erbyn hyn yn Bennaeth Drama yn Ysgol Bro Morgannwg, oedd gwestai Caryl Parry Jones. Sôn am fwyd cysur oedd hi, ac yma mae’n trafod lobsgóws fel ei bwyd mwya cysurus pan oedd hi yn sâl:

Cysur Comfort

Cig eidion Beef

Mor gysurus So comforting

Trwchus Thick

Maeth Nutrition

Anwydog Full of cold

Gwaith cnoi Chewy

Taten A potato

Cennin a phannas Leeks and parsnips

Tewhau To thicken

Blawd corn Cornflour