28 November 2023

Available for over a year

1 Byd y Bandiau Pres:

Ar raglen Byd y Bandiau Pres nos Sul y 12fed o Dachwedd, John Glyn Jones, oedd gwestai Owain Gruffudd Roberts. Mi roedd John Glyn yn arfer arwain Seindorf Arian yr Oakeley, Blaenau Ffestiniog ond yn y clip nesa ma, cofio Band Pres Ieuenctid Gwynedd a Môn mae’r ddau, pan oedd Owain yn aelod o’r band a John yn arwain:

Arwain Seindorf Arian To conduct the Silver Band

Band Pres Brass band

Ieuenctid Youth

Dyddiau aur Golden era

Tu hwnt o lwyddiannus Extremely successful

Uchafbwynt Highlight

Safon Quality

Pencampwriaeth Championship

Ac felly bu And so it was

Disgyblion Pupils

2 Beti a’i Phobol:

John Glyn Jones ac Owain Gruffudd Roberts oedd y rheina’n cofio eu hamser efo’r band pres.

Tomos Parry, cogydd a pherchennog tri bwyty yn Llundain oedd gwestai Beti George yn ddiweddar. Mae Tomos yn dod o Ynys Môn yn wreiddiol, ond erbyn hyn mae o’n brysur yn rhedeg bwytai Brat, Mountain a Brat Outdoors. Mi enillodd o seren Michelin yn Brat, ei fwyty cyntaf. Yma, mae’n sôn am bobl enwog sydd wedi bod yn ei fwytai:

Cynhwysion Ingredients

Yn weddol gyson Fairly regularly

Aballu And so on

Cefnogol Supportive

Ysbrydoli To inspire

Cerddoriaeth Music

3 Rhaglen Ifan gyda Hana Medi yn cyflwyno:

Tomos Parry y cogydd oedd hwnna, ac mae’n amlwg bod pobl enwog ar draws y byd yn mwynhau dod i’w fwytai.

Gwestai ar raglen Hana Medi oedd Esyllt Ellis Griffiths Llysgenhades Sioe Frenhinol 2024. Mi fuodd hi’n sôn am gale

ndr sy newydd ei gyhoeddi i godi arian at apêl y Sioe Frenhinol yn 2024 – Sioe’r Cardis fel mae’n cael ei galw! Ond ddim calendr arferol ydy hon, o na ond un noeth!…

Llysgenhades Ambassador

Noeth Naked

Pwyllgorau Committees

Trefniadau Arrangements

Pen tost Cur pen

Balch Pleased

Ar y cyfan On the whole

Ffili Methu

Elusennau Charities

Cwympo mas Falling out

Cneifio Shearing

4 Rhalgen Ffion Dafis:

Wel dyna i chi gesys ynde? Dw i’n siŵr bydd y calendr yn gwerthu’n arbennig o dda!

Ar Sul y 19eg o Dachwedd, Hywel Gwynfryn oedd gwestai Ffion Dafis. Mae Hywel newydd gyhoeddi cofiant yr actores Siân Phillips, ac mae o ar gael yn y siopau rŵan ar gyfer y Nadolig. Yma mae Hywel yn sgwrsio am y broses o sgwennu‘r cofiant:

Cofiant Biography

Rŵan ac yn y man Now and then

Yn awyddus Eager

Hunangofiant Autobiography

Deugain mlynedd 40 years

Rhwyd Net

Daeth e i fwcwl Came to fruition

Gogwydd An angle

I raddau To an extent

Ffynhonnell Source

Ysgrifau Articles

5 Dros Ginio:

Ia, dyna fasai anrheg Nadolig gwerth chweil i rywun ynde - cofiant Sian Phillips gan Hywel Gwynfryn.

Ers dechrau'r rhyfel yn Gaza, mae'r bardd Iestyn Tyne wedi bod yn cydweithio gyda beirdd o Balesteina i gyfieithu eu gwaith a rhoi llwyfan Gymraeg i'w lleisiau a'u profiadau. Mi fuodd o’n trafod y gwaith efo Rhodri Llywelyn ar Dros Ginio bnawn Llun wythnos diwetha:

Beirdd Poets

Llwyfan A stage

Barddoniaeth Poetry

Estyn allan To reach out

Mewn difri Seriously

Ymwybyddiaeth Awareness

Gweithred fach A small deed

6 Aled Hughes:

Prosiect diddorol iawn gan Iestyn Tyne yn cyfieithu gwaith beirdd Palesteina i’r Gymraeg.

Ddydd Mawrth yr 21ain o Dachwedd, Lisa Fearn y gogyddes yn oedd yn cadw cwmni i Aled Hughes. Sôn am daffi triog oedd hi ac am y traddodiad o fwyta’r taffi yr amser yma o’r flwyddyn:

Taffi triog Treacle toffee

Cyflaith Toffee

Yn rheolaidd Regularly

Traddodiad Tradition

Gwirionedd Truth

Canrif Century

Ar ddihun Awake