26 December 2023

Available for over a year

1 Uffern Iaith y Nefoedd:

Brynhawn Sadwrn diwetha mi glywon ni raglen arbennig o’r Sioe banel hwyliog Uffern Iaith y Nefoedd dan ofal Gruffudd Owen. Y panelwyr oedd Richard Elis, Sara Huws, Llinor ap Gwynedd a Lloyd Lewis. Rownd cyfieithu caneuon oedd hon:

Nid anenwog Famous (not unfamous)

Cyffwrdd To touch

Dychwelyd To return

Aflonyddu To disturb

Nadoligaidd Christmasy

Clych Bells

2 Elin Fflur a’r Gerddorfa:

Dipyn bach o hwyl yn dyfalu caneuon oedd wedi eu cyfieithu’n wael yn fanna.

Ddechrau’r mis, mi gafodd cyngerdd arbennig ei gynnal efo Elin Fflur yn canu gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC. Tudur Owen oedd yn arwain y noson a dyma i chi foment emosiynol o’r rhaglen pan mae Tudur yn holi Elin am hanes ei chân fwya poblogaidd, sef Harbwr Diogel – y gân gafodd ei hysgrifennu gan Arfon Wyn, wrth gwrs, a’r gân enillodd cystadleuaeth Cân i Gymru yn 2002:

Cerddorfa Orchestra

Breintiedig tu hwnt Privileged beyond

Crïo Llefain

Cryndod Tremor

Golygu To mean

Oesol Everlasting

Uniaethu To identify

Mor gyfarwydd So familiar

3 Rhaglen Cofio:

Noson emosiynol iawn i Elin Fflur, ac i Tudur hefyd, yng Nghanolfan Pontio ym Mangor.

Nadolig oedd thema rhaglen archif Cofio gyda John Hardy brynhawn Sul, a Noswyl Nadolig yn thema arbennig felly. Un o draddodiadau mawr y Nadolig yn y capeli ydy plant bach yn perfformio Drama’r Geni, ac mae llawer o hwyl wrth i’r plant grwydro o’r sgript weithiau. Dyma glip o ddau weinidog yn cofio ambell i ddrama o’r fath:

Drama’r Geni Nativity play

Gweinidog Minister

Hogyn Bachgen

Gŵr y llety Innkeeper

Yn ffradach Chaotic

Ymgnawdoliad Incarnation

Beichiog Pregnant

Gweddi A prayer

Mo’yn Eisiau

4 Chwalu Pen:

On’d oes yna hwyl efo Drama’r Geni pan mae’r plant yn penderfynu mynd eu ffordd eu hunain?

Un o uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr Ŵyl ydy’r cwis poblogaidd Chwalu Pen, a chafodd y rhaglen ei darlledu brynhawn Gwener diwetha yr 22ain o Ragfyr. Mari Lovgreen oedd yn trïo cadw trefn ar Catrin Mara, Arwel Pod Roberts, Welsh Whisperer a Mel Owen. Dyma nhw’n trio dyfalu’r rownd gyntaf ond cyn hynny, Mari sydd yn ein hatgoffa o’r rheolau:

Uchafbwyntiau Highlights

Darlledu To broadcast

Dyfalu To guess

Atgoffa To remind

Rheolau Rules

Y flwyddyn a fu The past year

Cwblha! Complete!

Cyn seren Former star

5 Ho Ho Hywel:

Mae Mel yn amlwg yn nabod ei chaneuon Nadoligaidd yn tydy?

Ar ddydd Nadolig mi fuodd Hywel Gwynfryn a Rhiannon Lewis yn mwynhau straeon a chaneuon yng nghwmni gwesteion ar y rhaglen arbennig Ho Ho Hywel. A dyma’r comedïwr Dilwyn Morgan yn rhannu rhai o’i atgofion cynnar am y Nadolig :

Atgofion Memories

Tro ar ôl tro Time after time

Tyddyn bach A smallholding

Ar lethrau On the slopes

Hel tai Going from house to house

Comisiwn Coedwigaeth Forestry Commission

Beudy Cowhouse

Wedi sychu’n grimp Dry as a bone

6 Talwrn Nadolig:

Cystadleuaeth rhwng timau o feirdd ydy’r Talwrn ac unwaith eto eleni mi fuodd yna raglen arbennig o’r Talwrn – sef Talwrn Nadolig rhwng dau dîm o feirdd amrywiol – sef tîm Bethlehem a thîm Nasareth. Un o’r tasgau oedd sgwennu cerdd ysgafn ar y testun ‘Cinio Nadolig’, a dyma gynnig Iwan Rhys o dîm Bethlehem:

Cerdd Poem

Strach A mess

Fflwr Blawd

Llysfwytäwr pybyr A staunch vegetarian

Ffili treulio Can’t digest

Di dafod Tongueless

Llosg cylla Heartburn

Yn sgit Keen on

Ysgewyll Sprouts

Achwyn Cwyno

Tynn Tight

Egwyddor Principle

Newydd garw Bad news

7 Rhaglen Ifan:

Bydd Y Talwrn yn ôl ar Radio Cymru ar y seithfed o Ionawr am saith o’r gloch efo rhifyn arbennig rhwng Ysgol Glan Clwyd ac Ysgol Maes Garmon.

Yr actores Catrin Mara oedd gwestai Ifan Jones Evans ar ei raglen yn ddiweddar. Sôn oedd Catrin am yr anrheg Dolig gorau a’r gwaetha gafodd hi erioed:

Allweddell Keyboard

Cwningen Rabbit

Wedi gwirioni Wedi dwlu ar

Cwffio Ymladd

Alla i ddim dychmygu I can’t imagine

Hwyrach Efallai

Erchyll Terrible