14 November 2023

Available for over a year

Clip 1: Bore Cothi

Bore Llun y 6ed o Dachwedd, Mici Plwm oedd yn cadw cwmni i Shân Cothi. Gan ei bod hi’n dymor piclo a gwneud siytni, dyma gael sgwrs efo’r prif biclwr ei hunan. Yma mae Mici yn sôn am nionod brynodd o yn Roscoff, Llydaw, a sut mae o am eu piclo mewn cwrw:

Nionod Winwns

Llydaw Britanny

Ar gyrion Ger

Bragdai Breweries

Arbrofi To experiment

Eirin Plums

Eirin tagu Sloes

Hel Casglu

Y werin The common people

Byddigion Posh people

Clip 2 – Rhaglen John ac Alun.

Www, nionyn wedi ei biclo mewn cwrw, swnio’n ddiddorol yn tydy?

Roedd ‘na barti mawr ar Raglen John ac Alun ar y 5ed o Dachwedd– parti penblwydd y rhaglen yn 25 oed! Ac mi ymunodd Dilwyn Morgan yn yr hwyl hefyd, a buodd hi’n gyfle i hel atgofion. Yma, mi gawn ni glywed clip o’r archif sef rhaglen gyntaf John ac Alun cafodd ei darlledu yn ôl yn Ebrill 1998:

Hel atgofion Reminisce

Darlledu To broadcast

Dipyn o gamp Quite an achievement

Para To last

Cyflwyno Presenting

Cynulleidfa Audience

Wch chi be? You know what?

Cefndir Background

Clip 3: Dros Ginio

John ac Alun yma o hyd, ac yn boblogaidd iawn gyda gwrandawyr Radio Cymru.

Yn ddiweddar mae llawer mwy o bobl ifanc yn delio efo eco-bryder, sy’n cael ei achosi drwy boeni am effeithiau newid hinsawdd. Mae Fflur Pierce o Ddyffryn Nantlle yn un o’r rheini, a buodd hi’n sôn wrth Cennydd Davies wythnos diwetha am y profiad o fyw efo’r cyflwr hwn:

Eco-bryder Eco anxiety

Newid hinsawdd Climate change

Cyflwr Condition

Yn fengach Yn ifancach

Baich A burden

Teimlo’n euog Feeling guilty

Rhwystredig Frustrating

Gwyddonwyr Scientists

Sbio Edrych

Amgylchedd Environment

Clip 4: Newid Hinsawdd a Fi

Does na ddim llawer o fanteision i newid hinsawdd nac oes, ond mi glywon ni am un fantais ar y rhaglen Newid Hinsawdd a Fi bnawn Sul y 5ed o Dachwedd. Aeth Leisa Gwenllian draw i Winllan y Dyffryn ger Dinbych. Mae newid hinsawdd yn golygu ei bod yn bosib cynhyrchu gwin yn Nyffryn Clwyd hyd yn oed. Yma mae Leisa yn sgwrsio efo perchennog y winllan, Gwen Davies sydd wedi dysgu Cymraeg:

Cynhyrchu To produce

Perchennog Owner

Gwinllannoedd Vineyards

Cynnydd sylweddol A substantial increase

Yn yr un gwynt In the same breath

Gwinwydd Vine

Arallgyfeirio Diversify

Datblygu To develop

Aeddfedu To mature

Cysgodi To shelter

Clip 5: Rhaglen Ifan

Ia, mae na sawl gwinllan wedi agor yng Nghymru dros y blynyddoedd diwetha yn does? Er dw i ddim yn cofio clywed am un mor ogleddol a Gwinllan y Dyffryn chwaith. Pob lwc a iechyd da i holl gynhwychwyr gwin Cymreig!

Yn ddiweddar ar raglen Ifan, tra bod Hana Medi yn cadw ei sedd yn gynnes, sgwrsiodd Hana gyda Cefin Evans o glwb Dyfed Dirt Bikes. Mae Cefin wedi teithio yr holl ffordd o Gymru i’r Ariannin i wylio cystadleuaeth arbennig iawn, un o brif gystadlaethau Enduro’r Byd, a hynny gan fod ei fab Rhys yn cystadlu yno ar ran y clwb:

Ariannin Argentina

Eang Wide

Mas Allan

Bola Bol

Paratoi To prepare

Tlodi Poverty

Gwerthfawrogi To appreciate

Clip 7 – Beti a’i Phobol

Wel dyna brofiad gwych i glwb Dyfed Dirt Bikes ynde? Dw i’n siŵr eu bod wedi mwynhau pob eiliad o’r daith arbennig i’r Ariannin.

Bronwen Lewis, y gantores, oedd gwestai Beti George nos Sul ddiwetha. Cafodd Bronwen ei magu ym Mlaendulais a daeth yn amlwg ar y gwefannau cymdeithasol yn ystod y cyfnod clo, wrth iddi hi ganu o’i chartref a rhannu’r perfformiad ar Facebook. Mi fuodd Branwen yn cystadlu ar raglen deledu The Voice yn y gorffennol ac mae’n cyflwyno rhaglen ar Radio Wales ar foreau Sul ar hyn o bryd:

Amlwg Prominent

Gwefannau cymdeithasol Social media

Yr aelwyd The home

Tad-cu Taid

Ffili Methu

Arweinydd Conductor

Mas Allan