5 December 2023

Available for over a year

1 Bore Cothi: Sioe Aeaf.

Ddydd Llun Tachwedd 27 roedd rhaglen Bore Cothi yn darlledu o’r Ffair Aeaf yn Llanelwedd. Cafodd Shân gwmni mam a merch, sef Ffion a Leia Lloyd-Williams o fferm Bathafarn ger Rhuthun. Roedden nhw wedi bod yn dangos ceffyl yn y Ffair, sut aeth hi tybed?

Darlledu Broadcasting

Y Ffair Aeaf The Winter Fair

Gwisg Costume

Fel pin mewn papur Immaculate

Awyrgylch Atmosphere

Rhan-frîd Part breed

Is-bencampwr Reserve Champion

2 Ffion Emyr: Tips Pwdin Dolig.

Roedd Ffion, Leia a Shân hefyd i weld wrth eu boddau gyda’r Ffair Aeaf on’d oedden nhw?

Ddydd Sul Tachwedd 26 roedd hi’n Stir Up Sunday sef y Sul ola cyn yr Adfent, a dyma’r diwrnod traddodiadol i bobl wneud eu pwdin Dolig! Y nos Wener cyn hynny rhannodd Ffion Emyr ychydig o dips ar sut i wneud pwdin Dolig. Roedd Ffion wedi casglu’r tips yma gan chefs enwog fel Delia Smith, Andrew Dixon a Nigella Lawson.

Socian To soak

Fel rheol As a rule

Gorchuddio To cover

Llysieuol Vegetarian

Blawd Flour

Ffigys Figs

Cnau wedi malu Chopped nuts

Ychwanegwch! Add!

Sinsir Ginger

Heb wres Without heat

3 Carl ac Alun Gwener 24ain yn lle Trystan ac Emma: Dr Who.

Wel dyna ni felly, o dan y gwely â’r pwdin Dolig! Tips defnyddiol iawn yn fanna gan Ffion Emyr.

Wel mae Dr Who yn ôl! Dych chi wedi cael cyfle i weld y gyfres newydd eto? Dw i’n siŵr bod Ianto Williams o Faesybont ger Caerfyrddin wedi ei gweld gan ei fod yn superfan y gyfres. Fore Gwener Tachwedd 24, Carl ac Alun oedd yn cadw sedd Trystan ac Emma yn gynnes rhwng 9 ag 11 a chaethon nhw sgwrs gyda Ianto a’i glywed yn sôn am ei gasgliad o ddeunyddiau Dr Who

Cyfres Series

Casgliad Collection

Deunyddiau Materials

Gwerthfawr Valuable

Wedi ei arwyddo Signed

Halais i Mi wnes i anfon

Yn amlwg Obviously

Unigryw Unique

Cyfrannu at To contribute to

4 Ffion Dafis: Aled Hall mewn opera newydd.

Ianto Williams oedd hwnna’n sôn am ei gasgliad o ddeunyddiau Dr Who.

Aled Hall, y tenor operatig o Bencader, Sir Gaerfyrddin oedd yn cadw cwmni i Ffion Dafis yn ddiweddar. Yn y clip hwn, mae Aled yn trafod ei ran yn yr opera newydd Men Sheds, gafodd ei chyfansoddi gan y cerddor Lenny Sayers. Mae’r opera hon yn ceisio codi ymwybyddiaeth o broblemau iechyd meddwl dynion:

Cafodd ei chyfansoddi Was composed

Codi ymwybyddiaeth Raising awareness

Cymeriad Character

Aeth ati Went at it

Ymdrin â Dealing with

Ymgynnull To congregate

Cymunedau di-rif Countless communities

Cysyniad Concept

Angen trafod Need to discuss

5 Aled Hughes:

Mae’n dda gweld opera ar thema modern er mwyn codi ymwybyddiaeth o broblemau iechyd meddwl, on’d yw hi?

Wythnos diwetha, Arwyn Tomos Jones o Brifysgol Caerdydd, fuodd yn sôn am hen feddyginiaethau gydag Aled Hughes. Dyma i chi flas ar y sgwrs:

Meddyginiaethau Medicines

Canrif Century

Hollol hurt Totally stupid

Ysgyfaint Lung

Danadl poethion Stinging nettles

Dant y Llew Dandelion

Tlodi Poverty

Cyn bwysiced â As important as

Moddion Medicine

Hylif Liquid

Dim sail No foundation

6 Dros Ginio:

Dyna ddiddorol on’d ife fel roedd pobl yn defnyddio‘r byd natur o’n cwmpas yn feddyginiaethau yn y gorffennol.

Ddydd Mawrth diwetha, banciau bwyd oedd yn cael sylw ar Dros Ginio gyda Jennifer Jones. Mae mwy a mwy o alw am y banciau bwyd y dyddiau hyn, ond mae llai ac yn llai o bobl yn cyfrannu bwyd at y banciau. Yn y clip hwn, Trey McCain, Rheolwr Banc Bwyd Arfon sy’n egluro’r sefyllfa i Jennifer. Mae Trey yn dod o Mississippi yng ngogledd America yn wreiddiol ond wedi dysgu Cymraeg yn rhugl.

Budd-daliadau Benefits

Hanfodol Essential

Gwendidau Weakness

Credyd Cynhwysol Universal credit

Cyflenwadau Provisions

Pwysau Pressure

Galluogi To enable

Pryderus Concerned

Neges The shopping

Uniongyrchol Direct

Ar y gweill In the pipeline