12 February 2020

Available for over a year

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Rhaglen Aled Hughes - Gwartheg yn siarad

gwartheg - cattle

brefu - mooing

ymchwil - research

ar brydiau hwyrach - at times perhaps

tynnu lloiau - pulling calves

blawd - cattle feed

heffrod - heiffers

tarw - bull

fel diawl - intensely

coelio - credu

Yn yr wythnos pan ddaeth y ffilm 'Dr Dolittle' allan dyma Aled Hughes yn penderfynu basai fe'n trio cael sgwrs gyda gwartheg Bryn Roberts o Benisarwaun ger Llanberis. Roedd e wedi clywed bod gwartheg yn gallu brefu mewn 13 o wahanol ffyrdd a bod pob bref yn golygu rhywbeth gwahanol. Dyma sut aeth sgwrs Aled gyda'r gwartheg druan.

Ar y Marc - Corau Rhys Meirion

gelynion - enemies

dewr - brave

cyfres newydd - new series

cythraul canu (idiom) - singing rivalry

cyd-ganu - singing together

profiad gwych - brilliant experience

cantorion - singers

ymarfer - rehearsal

oddi cartre - away

buddugoliaeth - victory

Aled Hughes oedd hwnna'n trio cael sgwrs gyda gwartheg. Dim ond pedair milltir sy rhwng pentrefi Llanrug a Llanberis yng Ngwynedd ac mae timau pêl-droed y pentrefi yn dipyn o elynion ar y cae chwarae. Penderfyniad dewr felly oedd un Rhys Meirion i ddod â'r ddau dîm at ei gilydd i ganu fel un côr. Ar raglen Ar y Marc cafodd Dylan Jones sgwrs gyda Rhys Meirion, Dafydd Arfon o Lanrug ac Eurwyn Thomas o Lanberis am y syniad dewr yma.

Rhaglen Ifan Jones Evans - Colin Jackson

cyflwynydd - presenter

ei ardal enedigol - area of his birth

arfordir - coast

Gwersyll - Camp

dyfalu - to guess

peiriant amaethyddol - agricultural machine

go iawn - real

Cofiwch wylio'r gyfres newydd nos Iau ar S4C i chi gael gweld sut siâp oedd ar y côr erbyn i Rhys Mrieion orffen gyda nhw.

Mae yna gyfres newydd arall yn dod i S4C sef Iaith Ar Daith ac yn un o raglenni'r gyfres mae'r cyflwynydd Eleri Sion yn mynd o gwmpas ardal enedigol y cynathletwr Colin Jackson ac yn rhoi cyfle i Colin, sy'n dysgu'r iaith, ymarfer y Gymraeg ar y ffordd. A dydd Llun diwetha, llwyddodd Ifan Jones Evans i ddod o hydi'r ddau ohonyn nhw ar eu taith a'u holi ble byddan nhw'n mynd nesa.

Bore Cothi - Stifyn Parri

trawsblaniad gwallt - hair transplant

blewyn - a hair

tyllu mewn - dig into

gwreiddyn - root

mae na lu o nyrsys - there's a legion of nurses

triawd y buarth - the farmyard trio (welsh folk song)

hylif arbennig - special liquid

croen - skin

ail-blannu - replant

planhigyn - plants

A bydd yn bosib gweld llawer o bobl sy'n dysgu Cymraehg yn y gyfres Iaith ar Daith, Colin Jackson yn fan'na ond hefyd bydd Carol Vorderman yn ymddangos mewn un o'r rhaglenni. Mae'r actor Stifyn Parri wedi cael trawsblaniad gwallt yn ystod y pythefnos diwetha. Dyma fe ar Bore Cothi'n esbonio'r broses. Oedd hi'n un boenus tybed?

Geraint Lloyd - Aberhonddu

Aberhonndu - Brecon

tref farchnad wledig - a rural market town

Y Bannau - The Beacons

diwydiant ymwelwyr - tourist industry

traddodaid - tradition

amrywiaeth - variety

atyniad - attraction

camlas - canal

nwyddau - goods

diwydiant haearn - iron industry

Stifyn Parri oedd hwnna yn sôn am ei drawblaniad gwallt. Pa mor dda dych chi'n nabod Aberhonddu? Wel dyma'r dref oedd yn cael ei rhoi Ar y Map ar raglen Geraint Lloyd nos Fawrth, ac un sydd yn nabod y lle yn dda ac wedi byw yno ers hanner can mlynedd bellach ydy John Meurig Edwards. Dyma fe'n rhoi ychydig o hanes y dre.

Beti A'i Phobol - Elinor Snowsill

rhyngwladol - international

araith - speech

mo'yn - eisiau

pwysau - pressure

cyfarwydd â - familiar with

gorfeddwl - to overthink

rhyddhâd - relief

gan eitha lot - by quite a big margin

anaf - injury

bwrw (fy) mhen i - hit my head

Bach o hanes tref Aberhonddu yn fan'na ar raglen Geraint Lloyd. Gwestai Beti George yr wythnos diwetha oedd y chwaraewraig rygbi ryngwladol Elinor Snowsill. Roedd Elinor yn arfer dioddef o beth roedd hi'n ei alw'n Performance Anxiety. Beth oedd effaith hyn ar ei gêm a sut wnaeth hi ddodd dros y cyflwr? Dyma hi'n esbonio wrth Beti.