21 February 2020

Available for over a year

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Ifan Evans - Kat Von Kaige

bwriadu rhyddhau - intends to release

wastad wedi - always have

dawnsio gwerin - folk dancing

llefaru - recitation

perthynas - relationship

yn hollol - exactly

y gwedill - the rest

yn bendant - definitely

trwm - heavy

Mae Rhiannon Osbourne o Ferthyr Tudful yn wreslo ar draws Ewrop gan ddefnyddio'r enw Kat Von Kaige. Ond mae hi hefyd wedi sgwennu caneuon Cymraeg ac mae hi'n bwriadu rhyddhau albwm Cymraeg yn y dyfodol. Dyma hi'n sgwrsio gyda Ifan Evans.

Rhaglen Aled Hughes - Monopoly

dyfeisio - to invent

annheg - unfair

sylweddoli - to realise

cynyddu eu cyfoeth - to increase their wealth

dychmygu - to imagine

y pendraw - the end

dameg - parable

yn weddol boblogaidd - fairly popular

cogio - to pretend

i'r gwrthwyneb - to the contrary

Rhiannon Osbourne oedd honna'n esbonio sut mae sgwennu caneuon wedi ei helpu hi i ddod dros perthynas anodd.

Ar raglen Aled Hughes yr wythnos yma roedd Peredur Webb-Davies yn sgwrsio am y gêm 'Monopoply'. Yn y clip nesa cawn ni glywed Peredur yn esbonio o ble daeth y syniad gwreiddiol am y gêm.

Sioe Frecwast Radio cymru 2 - Bryn Fôn

doniol - funny

dwys - intense

cyfweliad - interview

ymarferol - practical

fy nghelf - my art

trefnus - organised

cyfuniad - combination

mae gynno chdi - mae gyda ti

anhygoel - incredible

Cymraeg coeth - elegant Welsh

Wel wel, pwrpas y gêm fodern Monopoly yn hollol wahanol i bwrpas y gêm wreiddiol felly.

Rhyfedd on'd ife? Mae Bryn Fôn yn enwog fel canwr ond hefyd fel actor ac mae o'n actio yng nghyfres newydd Hidden ar y BBC.

Fe sy'n chwarae rhan Hefin yn ail gyfres y ddrama dditectif.

Roedd Bryn yn westai ar y Sioe Frecwast gyda Daf a Caryl, tybed pa fath o ddramâu mae Bryn yn ei licio fwya?

Hwyrnos Georgia Ruth - Sian Reese Williams

cynhyrchu - to produce

Prydeinig - British

tirwedd - landscape

ansawdd - quality

ymateb - response

cyfforddus - comfortable

Un arall sy'n actio yn y gyfres Hidden ydy Sian Reese-Williams hi sy'n actio rhan DI Cadi John yn y gyfres.

Sian oedd gwestai Georgia Ruth nos Fawrth a gofynnodd Georgia iddi oedd hi'n hoff o'r cyfresi Scandi Noir.

Beti A'i Phobol - Aled Rees

Yr Athro Ddocctor - Proffesor Dr

ymchwil - research

hyfforddiant - training

profiad annymunol - an unpleasant experience

fel chi mo'yn - as you want

meddygaeth - medicine

ymdopi - to cope

claf - patient

trin - to treat

yn astud iawn - very carefully

A dw i'n siwr bod llawer o bobl yn edrych ymlaen i weld cyfres newydd Hidden ar BBC Wales ac ar BBC4.

Cafodd Beti George sgwrs gyda'r Athro Ddoctor Aled Rees sydd yn rhannu ei amser rhwng gwaith academaidd, gwaith ymchwil a gwaith meddygol.

Yn y clip yma mae Beti yn holi am yr hyfforddiant gafodd e fel meddyg.

Rhaglen Aled Hughes - Bathodynnau clybiau pêl-droed

cynrychioli - to represent

llew - lion

arfbais - coat of arms

morthwyl hirgoes - rivet hammer

diflannu - to disappear

hunaniaeth - identity

adlewyrchu - to reflect

diwydiant trwm - heavy industry

camarweiniol - misleading

dryslyd - confusing

Blas ar waith a hyfforddiant meddygon yn fan'na ar Beti a'i Phobol.

Ar raglen Aled Hughes clywon ni am y straeon sy'n cael eu cynrychioli ar fathodynnau timau pêl-droed Chelsea, West Ham ac Arsenal.

Pwy fasai'n meddwl bod bathodynnau clybiau pêl-droed gyda chymaint o hanes y tu ôl iddyn nhw?