2 April 2020

Available for over a year

"Mae Bryn Terfel wedi gorfod canslo misoedd o gyngherddau ar ôl iddo fe gael damwain yn Bilbao. Dyma Bryn yn siarad gyda Shan Cothi ac yn sôn am sut digwyddodd y ddamwain ac am yr help mae e'n ei gael i wella."

Bore Cothi - Bryn Terfel

llithro ar bafin - to slip on a pavement

gohirio - to postpone

pigwrn - ankle

ar y trywydd cywir - on the right track

amser brawychus - frightening times

fy nghalon i'n gwaedu - my heart bleeds

heriol tu hwnt - extremely challenging

cymeradwyaeth - applause

bagl - crutch

yn ganiataol - for granted

"Bryn Terfel oedd hwnna'n sgwrsio gyda Shan Cothi. Dydd Sadwrn, Sion Tomos Owen o Dreorci oedd yn trio gwneud i Geraint, Elan a holl wrandawyr Radio Cymru chwerthin yn y slot 'Munud i Chwerthin' gyda stori am ei fam-gu"

Y Sioe Sadwrn - Munud i Chwerthin

paratoi - to prepare

sa i 'di bod - dw i ddim yn gwybod

mam-gu - nain

rhy barchus - too repectable

chwydu - to vomit

tad-cu - taid

"Dwy stori ddoniol yn fa'na am fam-gu Sion Tomos Owen. Mae'r Dr Radha Nair Roberts yn dod o Singapore yn wreiddiol, ond yn byw yng Nghymru erbyn hyn. Mae hi'r rhugl mewn sawl iaith, gan gynnwys y Gymraeg. Hi oedd gwestai Beti George wythnos diwertha a dyma hi'n esbonio wrth Beti pam ei bod hi'n meddwl bod dysgu ieithoedd yn bwysig.."

Beti A’i Phobol - Dr Radha Nair Roberts

diwylliant - culture

mabwysiedig - adopted

gwerthfawr - valuable

ymdrech - effort

cyfoethog - rich

ieithydd - linguist

yn gymharol - relatively

amddiffynol - defensive

dwlu ar - hoffi yn fawr

ymenydd - brain

"Dr Radha Nair Roberts wedi dysgu Cymraeg yn wych ac yn sgwrsio yn fan'na gyda Beti George. Os dych chi'n hunan ynysu neu'n gweithio o gartre, beth dych chi'n wneud gyda'ch amser sbâr? Gwylio ffimiau mae Tudur Owen yn ei wneud a dyma fe'n sgwrsio gyda Dyl Mei a Manon am y ffilmiau buodd e'n eu gwylio wythnos diwetha..."

Tudur Owen - Ffilmiau

hunan ynysu - to self isolate

dychmygu - imagine

arswyd - horror

gwirioneddol - really

y gweddill - the rest

wedi heneiddio - has grown older

ngwas i - poor dab

"Os dych chi'n gweithio o adre ella na fydd llawer o amser gyda chi i wylio ffilmiau un wahanol iawn i Tudur Owen. Gyda chymaint o bobl yn defnyddio wi-fi er mwyn gweithio gartre mae'n siŵr bydd cyflymder y wifi yn arafu. Sut mae osgoi hyn? Dyma i chi gynghorion Megan Davies ..."

Dros Ginio - Gweithio o adre

cynghorion - tips

cyswllt band eang - broadband connection

rhwydwaith - network

dan ei sang - overstretched

ar y gorwel - on the horizon

ffôn daeraol - landline

popdy meicrodon - microwave oven

diwifr - wireless

sain - sound

lleihau - to reduce

"Tips Megan Davies oedd y rheina ar sut i gadw'r wifi yn gyflym tra'n gweeithio o adre. Un ffordd o gadw'n brysur yn y cyfnod anodd hwn ydy sgwennu caneuon. Dyna mae'r band Sain Cofio wedi ei wneud. Ond nid band cyffredin yw hwn. Tri aelod sydd i'r band - Yncl Gruff, Deio a Casi. Wyth oed ydy Deio a dim ond chwech ydy Casi. Dyma'r ddau yn sgwrsio gyda Dafydd a Lisa ar Radio Cymru 2 "

Dafydd a Lisa Radio Cymru 2 - Sain Cofio

triawd - trio

cyfansoddi - to compose

nain - mamgu

colli dant - to lose a tooth

seren - star