4 March 2020

Available for over a year

Beti A'i Phobol - Alis Hawkins

ail-gydio yn... - to reconnect with

dros dair degawd - over three decades

sbarduno'r chwant - to motivate the desire

mynd bant - to go away

annog - to encourage

darganfod - to discover

ar lafar - orally

rhwydd - easy

clytwaith - patchwork

amrywiol - varied

Mae Alis Hawlins yn dod o Gwm Cou ger Castell Newydd Emlyn yn wreiddiol ond wedi byw yn Lloegr ers dros drideg mlynedd. Roedd hi'n poeni ei bod yn colli ei Chymraeg ond mi wnaeth ffrind iddi hi ei helpu i ddod yn ôl i'r arfer o siarad yr iaith ac nawr mae hi'n rhugl umwaith eto. Yn y clip yma mae Allis yn sôn am rywbeth arall helpodd hi gyda'i Chymraeg hefyd. Gwrandewch ar hyn...

Geraint Lloyd - Het Mali Sion

yn enwedig - especially

y gwynt yn hyrddio - the wind blowing strongly

marchogaeth - horse riding

ambell i gae - the odd field

fan hyn a fan draw - here and there

Ie, podlediad y dysgwyr wedi helpu Alis i ail-gydio yn ei Chymraeg - da on'd ife?

Dych chi wedi clywed am yr Het ar Raglen Geraint Lloyd? Mae'r Het yn cael ei phasio o un person i'r llall bob wythnos, a'r wythnos yma - Mali Sion o Lanrwst oedd y ferch lwcus.

Mae Mali yn ferch brysur iawn. Yn ogystal â gweithio yng Nghaffi Ffika yn Llanrwst, mae hi hefyd yn aelod o'r band Serol Serol, a dyma hi'n sôn am y band wrth Geraint LLoyd...

Rhaglen Recordiau Rhys Mwyn - Neil Rosser

cyfeillion - friends

gei di ymateb - you'll get a response

cystal â - as good as

ymgais - an attempt

roedd yn berchen - he owned

mo'yn - eisiau

y fenyw - the woman

myn uffern i - goodness me

jacôs - calm

blaenoriaeth - priority

Mali Sion oedd honna yn sôn wrth Rhys Mwyn am ei band Serol Serol. A dyn ni am aros ym myd pop nawr gyda rhaglen Rhys Mwyn. Nos Lun cafodd Rhys gwmni y canwr Neil Rosser a buon nhw'n edrych yn ôl ar yr albwm "O'r Gad" gafodd ei recordio yn Nyffryn Ogwen. Dyma Neil yn sôn am adeg y recordio...

Sioe Frecwast - Pêl-droed cerdded

Cwpan Pêl-droed Cerdded y Byd - Walking Football World Cup

eitha anhygoel - quite incredible

Yr Eidal - Italy

dod lan - to come up

tairgwaith - three times

wedi cynrychioli - has represented

baner - flag

hyd yn oed - even

camp - game

Neil Rosser oedd yn siarad gyda Rhys Mwyn am recordio'r albwm 'O'r Gad'.

Roedd llawer o bobl yn hapus iawn bedair blynedd yn ôl bod tîm pêl-droed Cymru wedi cyrraedd semis yr Euros yn Ffrainc. Ond oeddech chi'n gwybod bod Cymru wedi ennill Cwpan Pêl-droed y Byd? Mae hynny'n wir ond cwpan ychydig bach yn wahanol oedd e - Cwpan Pêl-droed Cerdded y Byd. Ar y Sioe Sadwrn cafodd Geraint a Elan sgwrs gyda John Pritchard sy'n chwarae i dim pêl-droed cerdded Amlwch ar Ynys Môn ond sydd hefyd wedi chwarae dros Gymru...

Cofio - Dewi Sant

yr un mor llwyddiannus - as succesful

wedi cwympo - has fallen

cyd-ddigwyddiad - coincidence

haeddu - to deserve

nawddseintiau - patron saints

beirdd a llysieuwyr - poets and vegetarians

yn y bôn - basically

llysenw - nickname

eitha anniddorol - quite uninteresting

creulon - cruel

A gobeithio bydd tîm pêl-droed normal Cymru yr un mor llwyddiannus yn yr Euros eleni on'd ife? Roedd hi'n ddydd Gwyl Dewi dydd Sul diwetha a dw i'n siwr basai'r Sant wedi bod yn falch iawn o weld cymaint o ddathliadau ym mhob ran o Gymru. Dw i ddim yn siwr, cofiwch, beth fasai'r hen Ddewi'n feddwl o berfformiad Daniel Glyn yn y clip nesa 'ma...

Aled Hughes - Corgi

ast - bitch

Arwr - Hero

sunsur sgleiniog - shiny ginger

Sir Aberteifi - Ceredigion

Y Frenhines - The Queen

ci defiad Cymreig - Welsh sheepdog

hel gwartheg - to drive cattle

mwythlyd - doting

torraid - litter(animals)

goroesi - to survive

Dewi Sant gwahanol iawn yn cael ei ddisgrifio yn fan'na gan y comedïwr Daniel Glyn. Mae bridiau cwn Cymreig a Phrydeinig yn ffashiynol iawn ar hyn o bryd ac mi aeth Aled Hughes draw i Dalybont i weld dau gorgi Ceredigion Sioned Humphreys a hefyd i weld Jack Russell bach blin o'r enw Nel.