27 February 2020

Available for over a year

Y darnau gorau o raglenni BBC Radio Cymru gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Bore Cothi - Aron Snowsill

therapydd maeth - nutrition therapist

mamgu - nain

dynolryw - mankind

gwyddoniaeth - science

uwcholeuo - highlight

symlrwydd - simplicity

cyndeidiau - forefathers

doethineb - wisdom

analeiddio - analizing

Mae Aron Snowsill yn gweithio fel therapydd maeth, sydd yn swnio fel rhywbeth modern iawn on'd yw e? Ond fel d'wedodd Aron wrth Shan Cothi wythnos diwrtha mae llawer iawn o'r hyn mae o'n ei wneud yn ei swydd wedi bod o gwmpas ers amser maith, ac yn bethau roedd ei fam-gu yn gwybod popeth amdanyn nhw.

Aled Hughes - Golff

arbed - to save

paid â mwydro - don't talk nonsense

chwythu - to blow

peltan - a slap

ymchwil - research

camu'n ôl - to step back

ty'd 'laen - come on!

anelu - to aim

hir oes - long life

drain - thorns

Aron Snowsill oedd hwnna yn siarad am ei waith fel therapydd maeth ar Bore Cothi. Mae Aled Hughes yn hoff iawn o drio pethau newydd a'r wythnos diwetha aeth e am wers golff ar faes golff Bangor gyda Sue Evans. Sut hwyl gaeth e tybed?

Hwyrnos Georgia Ruth - Ani Glass

darlledwr - broadcaster

go iawn - real

arbrofi - to experiment

set byw - a live set

offeryn - instrument

ychwanegu - additional

Falle dylai Aled aros yn ei swydd fel darlledwr - dw i ddim yn medddwl bydd e'n olffiwr proffesiynol rhywsut. Mae gan y gantores Ani Glass albwm newydd a chlywon ni dair cân o'r albwm ar raglen Georgia Ruth. Dyma i chi flas ar sgwrs gafodd Ani gyda Georgia.

Ifan Evans - ffered

ffured - ferret

hela - to hunt

clymu - to tie

dianc - to escape

mwy tebygol - more probable

mentro - to venture

dere di draw - come over

cnoiad - a bite

cosi - to tickle

crafu - to scratch

Mae'n bosib i chi glywed y tair cân gafodd ei chwarae ar y rhaglen drwy fynd ar wefan Radio Cymru. Roedd hi'n Ddiwrnod Cenedlaethol Caru'ch Anifail Anwes ddydd Iau diwetha, wir nawr, a chafodd Ifan Evans sgwrs gyda Cari ac Elidir o Lanwrin ym Mhowys am eu hanifeiliaid anwes sef Sooty a Bon Bon. Ond nid ci neu gath oedd ir anifeiliaid hyn ond dwy ffured.

Huw Stephens Radio Cymru 2 - Cocadwdl

cyfres - series

tywydd erchyll - terrible weather

cyfartaledd oedran - average age

mae gen i gywilydd - I'm ashamed

wedi cael eu hetifeddu - inherited

gwyddbwyll - chess

ail-afael - resume

soddgrwth - cello

Dwy ffured, Sooty a Bon Bon, yn ymweld â stiwdio Aberystwyth ar Ddiwrnod Cenedlaethol Caru'ch Anifail - beth nesa tybed? Doedd 'na ddim anifeiliaid ar raglen Huw Stephens ar Radio Cymru 2 fore Gwner ond mi glywon ni sawl 'cocadwdl ' yn y sgwrs rhwng Aled Samuel a Mandy Watkins.

Dros Ginio - Steve Hewitt

Caergrawnt - Cambridge

Llydaweg - Breton

Yn llawer nes - much nearer

cwympo mewn - to fall in

gwrthod - to refuse

y Cenhedloedd Unedig - The United Nations

cyfieithydd - translator

argyfwng - crises

amrywiaeth - variety

Mandy Watkins o'r gyfres Dan Do ar s4C oedd honna yn 'cocadwdl-dwio' gyda Aled Samuel.

Mae Steve Hewitt yn dod o America'n wreiddiol, a symudodd i Brydain pan oedd yn bymtheg oed. Erbyn hyn mae e'n rhugl yn y Gymraeg a chafodd James Williams sgwrs gyda fe yn slot y Byd a'i Bethau ar y rhaglen Dros Ginio dydd Gwener. Dyma Steve yn esbonio pam a phryd dysgodd e'r Gymraeg.