23 April 2020

Available for over a year

Aled Hughes

Gwener 17/04/20

Breuddwydio

"Dych chi'n cofio eich breuddwydion? Dych chi'n breuddwydio am bethau gwahanol oherwydd argyfwng y feirws? Dyna rai o'r pethau gododd mewn sgwrs gafodd Ffion Dafis gyda'r seiolegydd Dr Mair Edwards. Yn ôl Dr Mair mae cwsg a breuddwydio yn bwysig iawn i’n iechyd meddwl ni ac mae'r adeg anodd yma yn gwneud i bobl freuddwydio mewn ffyrdd gwahanol iawn"

breuddwydion - dreams

argyfwng - crisis

hynod lachar - extremely vivid

yr eglurhâd - the explanation

trwmgwsg - deep sleep

ymwybodol - aware

pryder - concern

yn fwy tebygol - more likely

cyfuniad - a combination

ansawdd cwsg - the quality of sleep

Ifan Evans

Dydd Iau 16/04/20

Bronwen Lewis

"Ffion Dafis oedd honna yn eistedd yn sedd Aled Hughes ddydd Gwener diwetha ac yn cael sgwrs gyda'r Dr Mair Edwards am freuddwydio. Nid Ffion oedd yr unig un oedd yn eistedd yn sedd y cyflwynydd arferol. Dydd Iau Trystan Ellis Morris oedd yn cymryd lle Ifan Evans a buodd e'n sgwrsio gyda'r gantores Bronwen Lewis o Flaendulais yng Nghwm Nedd. Buodd rhaid i Bronwen ganslo sawl gig oherwydd y feirws a dyma hi'n sôn wrth Trystan am syniad gafodd hi i godi arian"

Y cyflwynydd arferol - the usual presenter

ben ei waered - upside down

creu - to create

mo'yn - eisiau

beth bynnag - whatever

wedi crio'r glaw - had cried loads

ffili credo - can't believe

mor garedig - so kind

elusennau - charities

anhygoel - incredible

Geraint Lloyd

Llun 13/04/20

ENDAF GRIFFITHS

"Pedair mil o bunnoedd am gig dwy awr - da on'd ife?. Buodd Clwb Ffermwyr Ifanc Pont-Siân yn codi arian mewn ffordd arbennig iawn ddydd Llun y Pasg. Bwriad aelodau'r clwb oedd cerdded, rhedeg neu seiclo yr holl ffordd o Gaerdydd i Gaergybi, taith o 218 milltir, a hynny heb adael eu cartrefi, er mwyn codi arian at ddau ysbyty yn y de-orllewin. Ond pa mor bell aethon nhw tybed? Endaf Griffiths – aelod o’r clwb fuodd yn ateb y cwestiwn hwnnw ar Raglen Geraint Lloyd nos Lun…"

Swyddogion - officials

dechrau becso - beginning to worry

chwalu'r targed - smashed the target

yn hytrach na - rather than

ymateb - response

arweinyddion - leaders

cyfrannu - contributing

cronfa - fund

unedau gofal dwys - Intensive care units

annog - to encourage

Sioe Frecwast

Llun 13/04/20

35 Diwrnod

"Da iawn Clwb Ffermwyr Ifanc Pont-Siân, rhedeg i Baris - dipyn o gamp!

Buodd Fflur Dafydd ar y Sioe Frecwast gyda Daf a Caryl fore Llun y Pasg ar Radio Cymru. Fflur ydy awdures y gyfres boblogaidd 35 diwrnod, a'r newyddion da ydy bod cyfres newydd yn dechrau cyn bo hir. Dyma Fflur yn edrych ymlaen at y gyfres... "

Y gyfres boblogaidd - the popular series

cynulleidfa - audience

yn gyfarwydd ag e - familiar with (it)

corf - body

y bennod - the first episode

llawn cyfrinachau - full of secrets

yn raddol - gradually

yn cylchdroi - revolving

y briodferch - the bride

ysgafnder - levity

Sioe Frecwast

Sadwrn – 18/04/20

Cwestiynau Diog

"...a bydd y gyfres newydd o 35 diwrnod yn cychwyn ar S4C yn fuan. Dyma i chi glip arall o'r Sioe Frecwast gyda Daniel Glyn yn gofyn ei Gwestiynnau Diog i’r gantores Ani Glass. Y cwestiynau ydy: beth yw ei hoff liw hi a'i hoff ddarn o wydr... "

Cwestiynau Diog - Lazy Questions

darn of wydr - piece of glass

yn y gorffennol - in the past

cyfnod - period

eglwys - Ystyr

Bore Cothi

Iau – 16/04/20

Adam yn yr Ardd

"Cwestiynau diog Daniel Glyn yn cael eu hateb yn fan'na gan Ani Glass. Os dych chi'n licio garddio beth wnech chi yn ystod y cyfnod anodd yma? Wedi cwbl mae'r canolfannau garddio wedi cau. Wel dyma i chi rai o'r tips gaeth Shan Cothi gan 'Adam yn yr Ardd' ..."

Tyfu'n glou - to grow quickly

yn ormodol - excessively

yn dueddol - tends to

hadau - seeds

synnech chi - you'd be surprised

plannu - to plant

gwasgaru - to spread

egino - to germinate

twrio - to delve

gwastraffu - to waste