16 April 2020

Available for over a year

"…clip o Fy Stori i, a stori Glyn Jones sy'n dioddef o'r cyflwr MS oedd yn cael ei rhannu wythnos diwetha. Yn y clip yma mae e'n sôn am rai o'r trafferthion mae e'n wynebu wrth ddefnyddio cadair olwyn ar drafnidiaeth gyhoeddus…. "

Fy Stori i - Glyn Jones

dioddef o'r cyflwr - suffering from the condition

trafferthion - problems

cadair olwyn - wheelchair

trafnidiaeth gyhoeddus - public transport

sicrhau - to ensure

'set ti'n synnu - you'd be surprised

anghyfreithlon - illegal

dwn i'm faint o weithiau - I don't know how many times

sefyllfa - situation

ymddiheuro - to apologise

"Glyn Jones oedd hwnna'n sôn am rai o'r trafferthion wrth ddefnyddio cadair olwyn ar drafnidiaeth gyhoeddus. Mae'r rhan fwya'r clipiau wythnos yma yn cyfeirio at sut mae pobl yn ymdopi gyda'r sefyllfa sy'n bodoli oherwydd Covid-19. Dyma i chi fam a merch, Gwenda a Gaynor Owen, oedd yn arfer gweld ei gilydd bob dydd yn y gwaith ond sy nawr yn gorfod dibynnu ar Facetime i gadw mewn cysylltiad... "

Dros Ginio - Gwenda a Gaynor

ymdopi - coping

sy'n bodoli - that exists

rhyfedd iawn - very strange

ar gyfnod arferol - in a normal period

ail-wneud - redo

beudy godro - milking parlour

harddwch - beauty

bwthyn gwyliau - holiday cottage

sefydlu - to establish

trin gwallt - hairdressing

"Y fam a'r ferch Gwenda a Gaynor Owen yn fan'na yn sgwrsio gyda Dewi Llwyd ar y rhaglen Dros Ginio. Cafodd Ifan Evans sgwrs o bell gyda'r canwr Aled Hall ddydd Mawrth. Buon nhw'n sôn am yr hynan-ynysu a hefyd am y lleuad enfawr oedd i'w gweld y noson honno .."

Ifan Evans - Aled Hall

hunan-ynysu - self-isolate

lleuad enfawr - huge moon

anghysbell - remote

ta beth - in any case

codi calon - lift the heart

anhygoel - incredible

"Mae Aled Hall yn dipyn o gymeriad on'd yw e? Mae Manon Ellis wedi arfer rhedeg busnes o'i chartref hyd yn oed cyn argyfwng y feirws. Ond mae'r argyfwng wedi rhoi cyfle iddi hi helpu gweithwyr y Gwasanaeth Iechyd mewn ffordd ymarferol. Mae hi wedi gwneud deuddeg o fagiau i ddoctoriaid a nyrsus allu rhoi eu dillad ynddyn nhw ar ôl shift yn yr ysbyty gan ddefnyddio duvet sbâr. Dyma hi'n sgwrsio gyda Geraint Lloyd... "

Geraint Lloyd - Bagiau

argyfwng - crisis

ymarferol - practical

menyg - gloves

cymuned - community

cyflwr - condition

yn y pendraw - at the end of the day

cymaint o sylw - so much attention

Trallwng - Welshpool

sbïo - edrych

codi ymwybyddiaeth - raising awareness

"Braf clywed am rywun yn gwneud rhywbeth ymarferol i helpu'r rhai sy'n gweithio i'r Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol on'd ife? Owen Evans ydy Prif Weithredwr S4C a fe oedd gwestai Beti George wythnos diwetha. Mae'n debyg bod ei swydd yn golygu gweithio'n galed iawn, ond dydy hynny ddim yn broblem i Owen gan ei fod wedi bod yn gweithio'n galed ers pan oedd e'n fachgen ifanc..."

Beti a’I Phobol - Owen Evans

Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol - National Health Service

Prif Weithredwr - Chief Executive

yn golygu - means

y gyfraith - the law

yn y bôn - basically

yn segur - idle

lawrlwytho - unloading

"Owen Evans oedd hwnna Prif Weithreswr S4C yn siarad ar Beti a'i Phobol. Mae Cadi Mai yn ffrind i Aled Hughes, roedd hi'n arfer gweithio gyda fe ac mae hi'n dod o'r un pentre ag Aled. Ond nawr mae hi'n gweithio yn Fietnam. Dyma ran o'r sgwrs gaeth y ddau ohonyn nhw ar raglen Aled ddydd Llun ble mae Cadi'n disgrifio ei bywyd newydd yn y wlad bell... "

Aled Hughes - Fietnam

breuddwyd - a dream

cael gwireddu hyn - can fulfil this

datblygiadau - developments

creaduriaid - creatures

does wybod - you can't tell

cyfryngau cymdeithasol - social media

llym - severe

mater brys - emergency

caredigrwydd - kindness