30 April 2020

Available for over a year

S'mae... Dach chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma …

Recordiau Rhys Mwyn

Llun 20/04/20

Heledd Watkins

"Mae clipiau'r wythnos hon i gyd yn sôn am sut mae gwahanol bobl yn ymdopi gyda'r sefyllfa anodd sydd wedi codi oherwydd Covid-19. Dyma Heledd Watkins o'r band HMS Morris yn dweud ar ba gerddoriaeth mae hi'n gwrando yn ystod y cyfnod yma..."

ymdopi - to cope

profiadau cerddorol - musical experiences

gwyllt a gwallgof - wild and mad

llwyth - loads

droeon - several times

yn benodol - specifically

syllu - staring

gorfeddwl - overthinking

cynrychioli - to represent

trefnu - arrange

Sioe Frecwast

"Sul – 19/04/20

Meilir Rhys Williams

".Nesa, sut dach chi'n cadw'n brysur yn y cyfnod anodd yma - garddio, coginio, gwrando ar Radio Cymru? Ar y Sioe Frecwast dydd Llun clywon ni sut oedd yr actor Meilir Rhys Williams o Rownd a Rownd yn cadw ei hun yn brysur..."

paratoi - to prepare

gwreiddio - to root

pobi - to bake

gwyddbwyll - chess

yn fras - broadly

ffyn - sticks

andros o hwyl - lots of fun

Sioe Frecwast Daf a Caryl

"Iau 23/04/20"

Owain Wyn Evans

Owain Wyn Evans ydy 'dyn tywydd' BBC North West Tonight, ond mae e, fel llawer ohonon ni, yn gorfod gweithio o gartre y dyddiau hyn. Cafodd llawer o wylwyr y rhaglen sioc wythnos diwetha wrth i Wyn orffen sôn am y tywydd a rhedeg at ei ddrymiau a'u chwarae'n fyw ac yn wyllt ar y teledu. Mae miloedd o bobl wedi gweld y clip ohono yn gwneud hyn a chafodd Daf a Caryl sgwrs gyda fe fore Iau am y digwyddiad

alla i ddychmygu - I can imagine

y blaned Mawrth - The planet Mars

gwefannau cymdeithasol - social media

dim clem - no idea

cyflwynydd - presenter

ysbrydoli - to inspire

rhagolygon - forecast

unigryw - unique

anhygoel - incredible

Geraint Lloyd

Llun 20/04

Dartiau Facetime

"Ffordd wahanol iawn sy gyda Llion Thomas i gadw ei hun yn brysur dros y cyfnod yma. Dartiau ydy hobi Llion a 'sech chi'n meddwl basai'n anodd iawn cael gêm dartiau yn erbyn rhywun arall y dyddiau hyn. Ond mae Llion wedi ffeindio ffordd i wneud hynny, fel buodd e'n esbonio wrth Geraint Lloyd."

yndw 'chan - ydw, fachgen

taflu - to throw

ble bynnag - wherever

gormod - too much

cystadlaethau mawr - big competitions

Bore Cothi

Llun 20/04/20

"John Williams"

"Mae'n bywyd pob un ohonon ni wedi newid gyda'r argyfwng yma on'd dyw e? Ond mae bywyd John Williams o Abergele wedi newid yn llwyr. Mae John yn colli ei olwg oherwydd Glaucoma, ond dyw e ddim yn hollol ddall. Cyn mis Mawrth eleni ei hoff ffordd o dreulio amser oedd teithio o gwmpas Prydain ar y bws neu ar y tren. Mae hynny wrth gwrs wedi stopio am nawr ond dyma John yn sôn wrth Shan Cothi am ei deithiau cyn y cyfyngiadau...

"

argyfwng - crisis

coll ei olwg - losing his sight

y cyfyngiadau - the lockdown

hollol ddall - totally blind

waeth heb â gofidio - there's no point worrying

gwneud yn fawr ohono - to make the most of it

teimlo'n gaeth - feeling confined

cyffredin - normal

gweddill y ffordd - the rest of the way

ucheldiroedd - highlands

Bore Cothi

Gwener 24/04/20

Jonathan Davies

"Er nad ydy'r cyn chwaraewr rygbi Jonathon Davies yn gallu codi arian i'w hoff elusen - Ysbyty Felindre Caedrydd, mae o'n dal i gadw'n heini a chodi arian yr un pryd - a hynny"

ti byth yn llonydd - you're never still

egni - energy

mo'yn - eisiau

cynnal yr elusennau - support the charities

llywydd - president

hashnod - hashtag

colli chydig bach o chwys - shed a little sweat

yr un mor dynn - as tight

pwysau - weight

... a dyna ni am yr wythnos yma. Gobeithio eich bod chi wedi mwynhau'r podlediad yma a'i fod wedi bod yn ddefnyddiol ac yn ddifyr i chi. Mae tudalen eirfa arbennig yn cyd-fynd a'r podlediad yma i'w chael ar bbc.co.uk/radiocymru/ a chlicio ar Pigion.