9 April 2020

Available for over a year

Bore Cothi

Mercher 01/04/20

Carys a Meryl

"...Cafodd Shan Cothi sgwrs ddydd Mercher gyda Carys Eleri a'i mam Meryl o’u tŷ yn Y Tymbl ger Llanelli. Mae’r ddwy yn hunan-ynysu ond yn cadw eu hunain yn brysur hefyd gan fod yna Hot Tub newydd gyrraedd y tŷ. Maen nhw’n sôn yn y sgwrs am Nia Medi , merch Meryl a chwaer Carys Eleri ydy hi..."

hunan ynysu - self isolating

creadigol - creative

synfyfyrio - to meditate

i'r gwrthwyneb - to the contrary

mor glou - so quickly

ar garlam - at a pace

cynnal - to sustain

rhoi at ei gilydd - to assemble Uwch - at ei gilydd

piben ddŵr - water pipe

Aled Hughes

Dydd Llun 30.03.2020

Ffaith ffyrnig

"Meryl a Carys Eleri yn edrych ymlaen at yr Hot Tub. Carys gudda llaw ydy prif seren y ddrama Parch ar S4C. Gyda'r ysgolion ar gau, mae Aled Hughes yn annog plant Cymru i gysylltu gyda ffaith ffyrnig y dydd. Llew o Brynrefail, ger Llanberis, oedd yn sgwrsio ac yn rhoi ffaith bore Llun, a ffaith ffyrnig iawn oedd hi hefyd..."

annog - to encourage

ffaith ffyrnig - a ferocious fact

y nawfed ganrif - 9th century

gafr - goat

egni - energy

darganfod - to discover

Aled Hughes

Iau 02/04/20

Llyfrau plant

"Ffaith ffyrnig Llew yn fan'na ar raglen Aled Hughes. Dydd Iau diwetha roedd hi'n Ddiwrnod Rhyngwladol Llyfrau Plant ac yn benblwydd Hans Christian Andersen. Felly dyna oedd y diwrnod perffaith i'r awdures Anghaarad Tomos lansio ei llyfr newydd yng nghyfres Rwdlan , a hynny'n fyw ar raglen Aled Hughes..."

Ail ymddangos - to reappear

cymeriadau - characters

anos - more difficult

diogi - to be lazy

newydd sbon danlli - brand new

cynulleidfa - audience

gwaith unig - lonely work

ymateb - responding

dos ati - go for it

y canlyniad - the result

Bore Cothi

Iau 02/04/20

Ffion

"Newyddion da i blant Cymru yn fan'na gan Angharad Tomos. Nesa, dyma i chi flas ar sgwrs cafodd Shan Cothi gyda Yvonne Davies o Dreioan ger Caerfyrddin am ei merch Ffion. Roedd Ffion eisiau gwneud rhywbeth arbennig i helpu’r Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol i ddiolch iddyn nhw am yr holl waith maen nhw’n wneud ... "

Y Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol - The NHS

ymdopi - coping

ddim yn ffôl - not bad

yn y man - shortly

wedi dod i glawr - has come to mind

cefndir - background

dipyn o her - quite a challenge

corfforol - physical

Jazz gyda Tomos Williams

Gwener 03/04/20

Owen Martell

"Da iawn Ffion am gael syniad gwych i helpu'r Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol. Y nofelydd Owen Martell oedd yn dewis cerddoriaeth ar raglen Jazz Tomos Williams nos Wener. Dyma fe'n sôn am un o'i hoff ganeuon jazz.... "

Canol y chwedegau - the mid-sixties

sylweddolais i - I realised

teimlo'n amgerddol - to feel passionately

darnau penodol - specific pieces

yr argraff - the impression

fel y cyfryw - as such

oesol - perpetual

bydysawd annelwig - an abstract universe

bara beunyddiol - daily bread

caethiwed - slavery

Ifan Evans

Dydd Mawrth 31.03.2020

Iona ac Andy

"Owen Martell yn sôn am ei hoff gerddoriaeth jazz yn fan'na. Cafodd Ifan Evans sgwrs gyda chwpwl oedd yn dathlu eu prodas ruddem ddydd Mawrth - y ddeuawd canu gwlad Iona ac Andy. Mae'r ddau yn byw yn yr Alban erbyn hyn ond roedden nhw'n gobeithio dod yn ôl i Gymru i ddathlu penblwydd eu priodas. Dyma Iona'n sgwrsio gyda Ifan... "

priodas ruddem - ruby wedding

canu gwlad - country & western

cyfansoddi - to compose

alawon - tunes

wedi synnu - surprised

gwerth chweil - worthwhile

wedi elwa - have benefited

pennill - a verse

emynau - hymns

wedi eu gohirio - postponed