
Y Podlediad Dysgu Cymraeg
Pont: Rob Lisle
Up next
11 March 2025
Available for over a year
Angharad Lewis sy'n sgwrsio gyda siaradwr Cymraeg newydd, sef Rob Lisle. Cafodd Rob Lisle ei fagu yn yr Iseldiroedd ac yn Abertawe. Pensaer yw Rob ac ar ôl cyfnod yn byw yn Llundain penderfynodd ddychwelyd gyda’i deulu i Gymru i Sir Gaerfyrddin. Mae’n byw yno gyda’i wraig Sian a’r plant. Penderfynodd ddysgu’r Gymraeg er mwyn cefnogi addysg ei blant a hefyd er mwyn ymdoddi i’r gymuned leol.















