12 November 2025

Available for over a year

Angharad Lewis sy'n sgwrsio gyda siaradwr Cymraeg newydd a'r siaradwr Cymareg newydd yn y bennod hon yw Hammad Rind.

Cafodd Hammad ei eni a’i fagu yn Punjab, Pakistan. Fe ddechreuodd ddysgu’r Gymraeg ddwy flynedd yn ôl. Mae’n byw yn ardal Grangetown gyda’i deulu ac yn defnyddio’r Gymraeg yn ddyddiol ar yr aelwyd, yn y gwaith ac yn y gymuned.

Geirfa ar gyfer y bennod

gwirioni - to dote

cysondeb - consistency

rhyddiaith - prose

cystrawen - syntax/construction

enwebu - to nominate

marwnadol - elegiac