Teyrnged teulu i'w merch 'hardd a charedig' wedi iddi gael ei thrywanu

Dywedodd teulu Lilly Jones ei bod yn ferch "unigryw ac hyderus, yn sassy, yn ddramatig ac yn caru ei cherddoriaeth"
- Cyhoeddwyd
Mae teulu merch 14 oed o Flaenau Gwent a gafodd ei chanfod yn farw mewn coedwig fis diwethaf wedi ei disgrifio fel "y ferch fach harddaf, mwyaf caredig a gofalgar".
Roedd Lilly Jones ar goll ers noson 20 Mehefin ac mi gafodd hi ei darganfod yn farw mewn coedwig ger Clwb Bowlio Blaenau, ym Mlaenau Gwent, ar 22 Mehefin.
Mae bachgen 14 oed wedi ei gyhuddo o lofruddiaeth ac ymddangosodd yn y llys yr wythnos diwethaf.
Fe glywodd gwrandawiad yn gynharach yn yr wythnos mai canlyniad archwiliad post mortem oedd ei bod wedi marw o nifer o anafiadau trywanu.
Wrth roi teyrnged dywedodd y teulu "nad yw'r gair 'torcalon' yn cyfleu'n iawn yr hyn ni'n teimlo".
'Gadael twll anghrediniol'
Ychwanegodd y teulu yr hoffen nhw "ganolbwyntio mwy ar Lilly a pha mor hyfryd o berson ydy hi, yn hytrach na'r peth erchyll y cafodd hi ei gorfodi i'w ddioddef.
"Roedd hi'n hollol ac yn llwyr hi ei hun, roedd hi'n unigryw ac yn hyderus, yn sassy, yn ddramatig ac yn caru ei cherddoriaeth.
"Aeth ei blas amrywiol mewn cerddoriaeth â ni o My Chemical Romance i Kate Bush, a byddai hi'n canu pob gair â'i holl nerth - heb unrhyw ymddiheuriad - waeth pwy oedd yn gwrando.
"Bydde' ni'n medru ysgrifennu llyfr am ba mor anhygoel a derbyniol o bob math o bobl ydy hi, gan siarad dros unrhyw un oedd ei hangen i wneud.
"Mae ein colled wedi gadael twll anghrediniol - nid yn unig yn ein bywydau - ond yn y gymuned gyfan.
"Hoffem hefyd fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i'r gymuned am eu cefnogaeth a'u rhoddion diddiwedd."
Mae gwrandawiad llys wedi'i drefnu ar gyfer diwedd y mis ar gyfer y bachgen 14 oed – nad oes modd ei enwi am resymau cyfreithiol – ac mae disgwyl i achos llys gael ei gynnal ym mis Tachwedd.
Dydy'r bachgen ddim wedi cyflwyno ple i'r cyhuddiad o lofruddiaeth, ac mae'n cael ei gadw yn y ddalfa tan ei ymddangosiad nesaf yn y llys.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 o ddyddiau yn ôl
