Pum dyn bellach wedi'u harestio mewn cysylltiad â marwolaeth Gorseinon

Mae pum person bellach cael eu harestio mewn cysylltiad â'r digwyddiad
- Cyhoeddwyd
Mae cyfanswm o bum dyn bellach wedi eu harestio yn dilyn digwyddiad rhwng car a beic yn Abertawe ble bu farw dyn ifanc.
Mae tri dyn bellach wedi eu harestio ar amheuaeth o lofruddiaeth, a dau ar amheuaeth o gynorthwyo troseddwr.
Cafodd Heddlu De Cymru eu galw i adroddiad o wrthdrawiad rhwng car a beic yng Ngorseinon am 12:58 ddydd Iau.
Bu farw un dyn yn ardal Ffordd Pen Cae Crwn, ac fe gafodd dyn arall 19 oed ei gludo i'r ysbyty gydag anafiadau.
Cafodd dyn o Dreforys, 18, ei arestio ar amheuaeth o lofruddio, gyrru'n beryglus a gyrru dan ddylanwad cyffuriau.
Mae dyn o Orseinon, 18, wedi ei arestio ar amheuaeth o lofruddio ac achosi niwed corfforol difrifol gyda bwriad.
Mewn diweddariad brynhawn Gwener, dywedodd yr heddlu bod tri arall wedi cael eu harestio hefyd.
Mae dyn arall o Orseinon, 33, wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddio, a dau ddyn 38 oed, o Dregŵyr a Mount Pleasant, ar amheuaeth o gynorthwyo troseddwr.
Cafodd nifer o ffyrdd eu cau yn dilyn y digwyddiad, ac mae pob un bellach wedi ailagor oni bai am lôn gefn ger Ffordd Cecil, meddai'r heddlu.

Roedd nifer o blismyn yn yr ardal brynhawn Iau
Diolchodd y Ditectif Uwch-arolygydd Danielle Thorne o'r Tîm Troseddau Mawr i bobl Gorseinon am eu cymorth yn dilyn y digwyddiad - gan gynnwys rhai a gynigodd ddŵr ac eli haul i swyddogion.
"Rydyn ni'n ymwybodol o ddeunydd ar gyfryngau cymdeithasol yn ymwneud â'r digwyddiad, a hoffwn ofyn i bobl beidio ei rannu am resymau amlwg.
"Mae'r ymchwiliad yn parhau ac mae'n debygol y bydd nifer uwch na'r arfer o swyddogion yn yr ardal am gyfnod sylweddol."
Mae'r llu'n apelio ar unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth am y digwyddiad i gysylltu â nhw.

Blodau wedi'u gadael ar y safle ddydd Gwener
O'r safle fore Gwener
Aimee Thomas - Gohebydd BBC Cymru
Fore Gwener mae llawer o'r rhwystrau a osodwyd gan yr heddlu bellach wedi'u symud ond mae arwyddion o hyd bod llawer o blismyn wedi bod yma ddoe - yr arwyddion, y conau a'r tâp ynysu bellach ar ochr y ffordd.
Mae rhai ffyrdd a lonydd yn parhau ar gau tra bod yr heddlu'n parhau â'u hymchwiliad ond mae'r traffig yn symud unwaith eto.
Mae nifer o'r ffyrdd oedd ar gau ddoe wedi'u glanhau ac mae yna arogl amlwg o ddiheintydd.

Yn ôl Ian Murphy, mae'r digwyddiad wedi cael effaith fawr ar gymuned Gorseinon
Dywedodd Ian Murphy, sy'n 69 oed ac yn gadeirydd Clwb Rygbi Gorseinon, bod y digwyddiad wedi syfrdanu pobl yr ardal.
"Mae Gorseinon yn le eitha' tawel a dyw pethau fel hyn ddim yn digwydd yn aml iawn o gwbl, felly mae pobl yn siarad amdano fe a phob un mewn sioc mawr," meddai.
Ychwanegodd ei bod yn "gymuned glos iawn", lle mae llawer yn adnabod ei gilydd drwy glybiau chwaraeon fel rygbi a chriced.
"Mae'n drasiedi clywed bod pobl wedi'u hanafu a rhywun wedi marw - bois ifanc hefyd.
"'Naeth e gymryd sbel i suddo mewn beth oedd yn mynd ymlaen yma."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.