Erling Haaland: Y peiriant goliau sydd eisiau 'byw fel ffermwr'

HaalandFfynhonnell y llun, Getty Images
GanRhys Ffrancon
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Bydd Norwy'n wynebu Lloegr yn Miami nos Sadwrn, 11 Gorffennaf, gyda lle yn rownd gynderfynol Cwpan y Byd yn y fantol.

Un ffactor sy'n gwneud y gêm yma'n ddiddorol yw'r ffaith bod gan y ddau dîm ymosodwr sydd yn eu hanterth - y ddau rif naw; Harry Kane o Loegr ac Erling Braut Haaland yng nghrys Norwy.

Yn siarad ar Dros Frecwast ar BBC Radio Cymru fore Gwener oedd Siri Wigdel, Norwyes sy'n gwbl rugl yn y Gymraeg, a'i mab Sebastian Wigdel-Bowcott, sy'n darlithio ym Mhrifysgol Amsterdam.

Medda Siri wrth siarad am ei emosiynau: "Mae excited yn un gair – dwi'n edrych ymlaen wrth gwrs."

Mae gan Norwy ambell i chwaraewr sy'n perthyn i dimau o'r safon uchaf; Martin Ødegaard yn Arsenal, Alexander Sørloth yn Atlético Madrid ac Oscar Bobb sydd gyda Fulham yn eu plith.

Ond y seren heb os yw Erling Haaland o glwb Manchester City, sydd wedi sgorio saith gôl mewn pum gêm yng Nghwpan y Byd eleni hyd yn hyn.

Håland yw'r sillafiad Norwyeg o'i enw gyda'r 'å' yn creu sŵn tebyg i 'ô', ond Haaland yw'r sillafiad sy'n cael ei ddefnyddio gan amlaf.

HaalandFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Erling y Llychlynnwr. Mae Haaland wedi sgorio 62 gôl mewn 54 gêm dros Norwy ers ei ymddangosiad cyntaf ym mis Medi, 2019

Cafodd Erling ei eni yn 2000 yn ninas Leeds yn Swydd Efrog, gan yr oedd ei dad, Alf-Inge Haaland, yn chwarae dros Leeds United o 1997 i 2000.

Ond fe setlodd y teulu nôl yn Norwy yn ardal Jæren, ger y ddinas Bryne, yn ne-orllewin y wlad.

Mae Siri yn dod o'r un ardal yn wreiddiol: "Dwi'n nabod y teulu, ac maen nhw'n ffocysu ar Alfie Haaland [ei yrfa bêl-droed] ond roedd mam Erling yn bencampwr heptathlon hefyd."

Mae Siri'n disgrifio ardal Jæren, ble daw y teulu Haaland, fel ardal amaethyddol.

"Dwi'n cofio Erling yn dweud mewn un cyfweliad ei fod eisiau prynu tractor a byw fel ffermwr ar ôl ymddeol o chwarae pêl-droed."

Roedd Gry Marita Braut, mam Erling, yn bencampwr cenedlaethol heptathlon yn y 1990au ac, yn ôl rhai, iddi hi mae'r diolch am rinweddau athletig Erling - mae o'n chwe throedfedd pum modfedd, yn hynod gryf ac yn eithriadol o gyflym.

Disgrifiad,

Siri Wigdel a'i mab, Sebastian, yn trafod tîm pêl droed Norwy

"Mae gan Haaland bersonoliaeth charming iawn," meddai Siri, "ac mae o reit down to earth.

"Dydi o heb newid y ffordd mae'n siarad - mae ganddo'r dialect cryf fel ffermwyr yr ardal dal i fod, felly mae pobl yn teimlo reit agos ato fo."

Mae Erling wedi cael dipyn o gydnabyddiaeth am ei natur garedig a'r ffordd barchus mae'n delio gyda phobl; staff y garfan bêl-droed, y wasg, y cefnogwyr a'r cyhoedd.

Siri Wigdel a'i mab, Sebastian Wigdel-BowcottFfynhonnell y llun, Siri Wigdel
Disgrifiad o’r llun,

Siri Wigdel a'i mab, Sebastian Wigdel-Bowcott

Mae Cwpan y Byd eleni wedi dal dychymyg dinasyddion Norwy, fel dywed Siri.

"Dwi ddim yn siarad efo fy mam am bêl-droed fel arfer ond mae hi am aros i fyny'n hwyr nos Sadwrn i wylio'r gêm, ac mae hi bron yn 80 oed.

"Mae'n teimlo fel ein diwrnod cenedlaethol ni, mae fel un parti mawr bob dydd."

Bydd Sebastian adref yng Nghymru dros y penwythnos, gan ei fod yma i ddathlu pen-blwydd ei chwaer.

"Bydda i'n gwylio'r gêm efo ffrindiau ym Mhorthmadog dwi'n meddwl," medd Sebastian, "ond dwi'm yn siŵr ym mhle yno eto.

"Am y gêm ei hun dwi bach yn nerfus - mae tîm Lloegr yn gryfach na Brasil. 'Nath Norwy'n grêt yn erbyn Brasil - maen nhw'n enw mawr wrth gwrs, ond dydyn nhw ddim y tîm yr oedden nhw.

"Felly, er bo' fi'n nerfus dwi'n edrych ymlaen, fel dywedodd Mam mae pob gêm fel parti."

Martin ØdegaardFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Gyda seren arall o'r garfan - Martin Ødegaard o Arsenal

Aeth Sebastian ymlaen: "Mae'r teimlad yn debyg i Gymru yn yr Euros 10 mlynedd yn ôl - ffans gwych, pawb yn hapus i fod yno ac yn mwynhau'r siwrne.

"'Dan ni 'di curo yn barod, i guro ble 'dan ni, a dydi o ddim rili ots sut 'dan ni'n gwneud - ond mae gennym ni siawns!"

Felly, faint o siawns sydd gan Norwy i ennill y gêm?

"Mae'n anodd dweud," medd Sebastian, "mae Lloegr yn gryfach na Brasil, ond mae'r pwysau i gyd arnyn nhw i wneud yn dda, ac mae gan Norwy'r ffactor emosiynol 'ma.

"Hanner cyfle mae Haaland ei angen i sgorio, ac felly os mae Norwy'n cadw Kane a Bellingham yn dawel mae 'na siawns."

Mae carfan Norwy, a'r cefnogwyr, wedi dod i'r arfer o 'rwyfo' i guriad y drwm yn ystod, ac yn dilyn, gemau, gyda'r arferiad yn ennyn cryn dipyn o sylw.

HaalandFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Yn taro'r drwm gyda'r garfan yn 'rhwyfo' wedi'r fuddugoliaeth yn erbyn Brasil

"Mae 'na elfen o hiwmor efo nhw [carfan Norwy], ac maen nhw'n cael lot o hwyl," medd Siri.

"Mae'r gêm yn serious wrth gwrs gyda lot o arian yn rhan o sport y dyddia' 'ma, ond mae 'na rywbeth am chwaraeon yn Norwy ble mae 'na lot o hwyl - dydi o ddim yn troi'n serious nes bo' chi'n hŷn.

"Os 'dan ni'n colli, 'dan ni isio colli'n dda, ychydig bach fel rhyw Eisteddfod. Mae'n bwysig bod yn rhan o'r peth, ond hefyd yn bwysig i drin pobl yn dda, fel mae Haaland yn trin pobl, ac mae'n esiampl dda i blant."

Felly, bydd llygaid y byd ar y ffermwr Llychlynnaidd nos Sadwrn, wrth iddo geisio ymestyn ei record syfrdanol o sgorio dros ei wlad.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Hefyd o ddiddordeb: