Y Wladfa, y Pumas a Chymru: Hanes taith unigryw

Cefnogwyr Cymru a'r Ariannin yn dathlu gyda'i gilydd ym Mhorth Madryn yn 2006Ffynhonnell y llun, Huw Evans Picture Agency
Disgrifiad o’r llun,

Cefnogwyr Cymru a'r Ariannin yn dathlu gyda'i gilydd ym Mhorth Madryn yn 2006 – dinas sydd wrth galon y cysylltiad rhwng Cymru â'r Wladfa

GanDafydd Jones
Chwaraeon BBC Cymru, Buenos Aires
  • Cyhoeddwyd

Mae Cymru wedi cyrraedd Buenos Aires, lle bydd y garfan yn treulio'r dyddiau nesaf cyn hedfan i San Juan yn y gogledd ddydd Iau ar gyfer gêm brawf dydd Sadwrn yn erbyn yr Ariannin.

Mae'n daith gyfarwydd i dimau rygbi Cymru dros y degawdau, ond nid taith dramor arferol mohoni. Ers i'r Mimosa gyrraedd glannau Patagonia yn 1865, mae cysylltiad unigryw wedi bod rhwng Cymru a'r Ariannin – cysylltiad sy'n ymestyn ymhell y tu hwnt i'r maes rygbi.

Mae hi'n wyth mlynedd ers i mi ymweld â'r Ariannin ddiwethaf i ddilyn tîm Cymru. Bryd hynny roedd tîm Warren Gatland yn dechrau cyfres a oedd yn rhan o un o gyfnodau mwyaf llwyddiannus rygbi Cymru yn y cyfnod proffesiynol.

Nawr, mae'r un daith wedi dod â mi'n ôl i'r Ariannin gyda charfan newydd, hyfforddwr newydd a her newydd. Ond mae'r hanes sy'n uno'r ddwy wlad yn parhau'r un mor gryf.

1968: Y daith gyntaf... ond dim capiau

Bron i 60 mlynedd yn ôl y mentrodd tîm Cymru i'r Ariannin am y tro cyntaf.

Arweiniwyd y garfan gan Clive Rowlands ar daith o chwe gêm, gyda'r Pumas yn cipio'r gyfres drwy ennill y gêm gyntaf a sicrhau gêm gyfartal yn yr ail.

Roedd y canlyniad yn sioc ar y pryd, ond sbardunodd y daith honno gyrfaoedd disglair dau o gewri rygbi Cymru – Phil Bennett a JPR Williams.

Er mai rygbi oedd prif reswm y daith, roedd llawer o'r chwaraewyr yn ymwybodol eu bod yn ymweld â gwlad oedd yn gartref i gymuned Gymreig a oedd bron yn ganrif oed. Erbyn hynny roedd y Gymraeg yn dal yn fyw ym Mhatagonia, ac roedd croeso cynnes yn disgwyl nifer o'r twristiaid o Gymru.

Ar y pryd ni chydnabuwyd y ddwy gêm yn erbyn yr Ariannin fel gemau prawf swyddogol gan Undeb Rygbi Cymru. Dim ond yn 2013 y cafodd y penderfyniad hwnnw ei gywiro.

1999: Hanes ar y cae... a helynt oddi arno

Mewnwr Cymru Rob Howley yn dathlu buddugoliaeth yn yr ail Brawf yn erbyn yr Ariannin yn Buenos Aires yn 1999.Ffynhonnell y llun, Huw Evans Picture Agency
Disgrifiad o’r llun,

Er gwaethaf y tensiynau ar y cae, daeth taith 1999 i ben gyda Chymru'n creu hanes yn yr Ariannin

Bu'n rhaid aros 31 mlynedd cyn i Gymru ddychwelyd.

Tîm Graham Henry oedd y cyntaf o hemisffer y gogledd i ennill cyfres brawf 2-0 yn yr Ariannin, gyda buddugoliaethau 36-26 a 23-16 yn Buenos Aires.

Roedd y ddwy fuddugoliaeth yn rhan o rediad o ddeg buddugoliaeth yn olynol o dan Henry, ond ffrae ar y cae yn yr ail brawf oedd yn hawlio'r penawdau.

Ar ôl i'r prop Mauricio Reggiardo daro asgellwr Cymru, Dafydd James, datblygodd y ffrwgwd fwyaf gyda chwaraewyr o'r ddwy ochr yn ymladd ar, ac ar ochrau'r cae.

Yn rhyfeddol, ni chafodd unrhyw un gerdyn coch.

2004: Shane Williams yn goleuo'r daith

Shane Williams a'r tlws enillodd Cymru ar ol ennill yr ail Brawf yn 2004.Ffynhonnell y llun, Huw Evans Picture Agency
Disgrifiad o’r llun,

Hattrick gwych gan Shane Williams helpodd Cymru i lefelu'r gyfres yn erbyn yr Ariannin yn 2004

Fel eleni, roedd Cymru'n wynebu'r Ariannin cyn teithio ymlaen i Dde Affrica.

Collodd tîm Mike Ruddock y gêm gyntaf 50-44 cyn i Gymru ymateb saith diwrnod yn ddiweddarach.

Sgoriodd Shane Williams hattrick yn yr hanner cyntaf, ychwanegodd Gavin Henson 15 pwynt gyda'i gicio, ac enillodd Cymru 35-20 i sicrhau cyfres gyfartal.

Wedi'r dathlu daeth realiti'r daith. Roedd hediad hir ac yna prawf yn Pretoria yn erbyn y Springboks yn ormod, gyda Chymru'n colli 53-18.

2006: O galon y Wladfa i ddechrau gyrfa Alun Wyn

Chwaraewyr Cymru yn gadael y cae ar ol colli'r Prawf cyntaf yn erbyn yr Ariannin ym Madryn.Ffynhonnell y llun, Huw Evans Picture Agency
Disgrifiad o’r llun,

Er bod y daith i Borth Madryn yn arbennig oherwydd ei chysylltiad â'r Wladfa, roedd siom ar y cae wrth i'r Pumas gipio buddugoliaeth o 27-25.

Efallai mai dyma'r daith sydd â'r cysylltiad cryfaf â hanes Cymru.

Cynhaliwyd y prawf cyntaf yn Puerto Madryn – y porth i'r Wladfa Gymreig. Yno y glaniodd y Mimosa yn 1865, gan ddechrau un o'r penodau pwysicaf yn hanes y Cymry dramor.

I lawer o gefnogwyr Cymru roedd y daith yn gyfle i ymweld â'r Gaiman, Trelew a'r cymunedau lle mae'r Gymraeg yn dal i'w chlywed heddiw. Roedd y daith yn ymwneud â llawer mwy na rygbi.

Ar y cae, dechreuodd un bennod newydd yn hanes y gamp gydag Alun Wyn Jones yn ymddangos i Gymru am y tro cyntaf cyn mynd ymlaen i dorri bron pob record ryngwladol posib.

Er i'r Pumas ennill y ddwy gêm, Puerto Madryn oedd y lleoliad a adawodd yr argraff fwyaf ar lawer o'r garfan a'r cefnogwyr oedd wedi teithio.

2018: Llwyddiant arall yn San Juan

Chwaraewyr Cymru yn dathlu yn yr ystafell newid ar ol ennill y gyfres yn 2018.Ffynhonnell y llun, Huw Evans Picture Agency
Disgrifiad o’r llun,

Roedd llwyddiant yn yr Ariannin yn 2018 yn gosod y sylfeini ar gyfer y Gamp Lawn yn 2019 a thaith i rownd gynderfynol Cwpan y Byd.

Y tro diwethaf i Gymru deithio i'r Ariannin daeth llwyddiant arall.

Enillodd tîm Warren Gatland y ddwy gêm brawf, gan ddechrau gyda buddugoliaeth 23-10 yn San Juan – yr union leoliad lle bydd Cymru'n chwarae'r penwythnos hwn.

Sgoriodd James Davies a George North geisiau, a Rhys Patchell yn cael gweddill y pwyntiau.

Wythnos yn ddiweddarach sicrhawyd buddugoliaeth 30-12 yn Santa Fe, gyda Patchell yn cael 20 pwynt gyda'i droed.

Roedd y gyfres yn dangos cryfder Cymru ar y pryd - rhif tri yn y byd cyn ennill y Gamp Lawn yn 2019 ac yna cyrraedd rownd gynderfynol Cwpan y Byd yn Japan.

Mwy na gêm rygbi

Mae'r daith o Buenos Aires i San Juan eleni'n edrych yn wahanol i'r un yn 2018. Mae'r wynebau yng ngharfan Cymru ar y cyfan wedi newid. Ond mae'r hanes sy'n cysylltu Cymru â'r Ariannin yn dal yr un mor gryf.

Yn wahanol i bron unrhyw daith arall, mae cysylltiad hanesyddol a diwylliannol yn cyd-fynd â'r rygbi. Mae enwau fel Puerto Madryn, Gaiman a Threlew yn gyfarwydd i Gymry oherwydd hanes y Wladfa, ac mae'r Gymraeg yn dal i gael ei chlywed yno dros 160 mlynedd ar ôl glaniad y Mimosa.

Mewn ychydig ddyddiau, bydd y ffocws ar y sgôr yn San Juan. Ond bydd hanes y Wladfa, y Gymraeg a'r cysylltiad rhwng y ddwy wlad yn parhau ymhell ar ôl y chwiban olaf.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.