Eisteddfod Aberteifi '76: Pwy sy'n cofio Concwest Cilgerran?

Concwest Cilgerran cyn i'r noson ddod i ben yn fuanFfynhonnell y llun, Alcwyn Deiniol
Disgrifiad o’r llun,

Concwest Cilgerran cyn i'r noson ddod i ben yn fuan

GanAnna George
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Pwy sy'n cofio gig fawr Concwest Cilgerran yng Nghastell Cilgerran yn ystod wythnos Eisteddfod Genedlaethol Aberteifi 1976?

Roedd gan yr Urdd, trefnwyr y gig weledigaeth fawr; cynnal gig awyr agored gyda phrif fandiau'r dydd o fewn muriau castell ganoloesol yn ystod haf cofiadwy o boeth.

Gyda phris tocyn yn £1, bargen fyddai cael gweld Mynediad am Ddim, O'r Anialwch, Josgin, Edward H. Dafis a Hergest.

Ond cyn i Edward H. a Hergest gamu i'r llwyfan i gloi'r arlwy cerddorol i gannoedd o bobl ifanc, fe chwythodd y generadur a diffoddodd y trydan.

Doedd dim i bweru'r system PA a'r goleuadau a daeth y noson i ben yn ddisymwth.

Hanner canrif yn ddiweddarch ac ar drothwy Eisteddfod arall yn yr ardal, sef Eisteddfod y Garreg Las, Rhys Dyrfal o'r band Josgin a Geraint Davies o'r band Hergest sy'n edrych yn ôl ar noson gofiadwy... (am sawl rheswm)!

Atgofion Rhys Dyrfal o Josgin

Ar y pryd roedd y cerddor Rhys Dyrfal o Langadog yn ddyn ifanc 21 oed ac yn fasydd i'r grŵp Josgin gyda Pete Jones, Huw Owen a Gareth Tomos. Maes o law daeth yn aelod o'r grwpiau Mynediad am Ddim, Hergest a Bando.

Mae Rhys yn disgrifio cerddoriaeth Josgin fel grŵp gyda sŵn offerynnol, gwerin a thrydanol, ac ymysg rhai o diwns mwyaf poblogaidd y grŵp roedd Ffrolics, Cân y Bombards ac Yfory a Ddaw.

I griw o fechgyn ifanc oedd ar gychwyn eu taith fel rhan o'r sîn roc Gymraeg, roedd cael gwahoddiad i chwarae yng Nghoncwest Cilgerran yn gyffrous, fel mae Rhys yn ei gofio:

"Steff Jenkins oedd trefnydd yr Urdd yn yr ardal ar y pryd a fe ddaeth â'r noson at ei gilydd.

"Roedd e'n ddigwyddiad eitha' mawr ar nos Iau y 'Steddfod. Oedd cannoedd ar gannoedd wedi cyrraedd a Josgin oedd yn cychwyn y noson gyda Pete Jones yn canu.

"Yna wnaethon ni newid aelod i chwarae fel Madog, felly daeth Dil 'Bach' ymlaen yn lle Pete Jones. Roedd Madog yn gwneud fwy o roc a blŵs."

Y llwyfan yn y castellFfynhonnell y llun, Alcwyn Deiniol

Ymysg y cannoedd a ddaeth i Goncwest Cilgerran oedd diweddar frawd Rhys, Alcwyn Deiniol a dynnodd luniau i ddogfennu'r noson cyn i bethau fynd o chwith.

Felly beth yn union yw atgofion Rhys o'r noson?

"Fe wnaeth Y Gasgen ganu ar ein holau ni, wedyn Mynediad am Ddim, wedyn 'nath y trydan fynd.

"Oedd e'n 'itha dramatig achos oedd y trydan nid yn unig yn rhedeg y PA ond yn rhedeg y goleuadau i gyd ac mae'r castell ei hunan ar glogwyn o 400 troedfedd wedyn oedd rhaid i bawb adael a dim gole' - buon nhw'n lwcus iawn bod neb wedi cael niwed.

"Doedd dim modd rhoi rhybudd ar lafar dros y PA achos doedd dim PA a dim gole, felly roedd gyda ti 500-600 o bobl ar ochr clogwyn."

Poster Concwest Cilgerran yn gaddo perfformiadau gan Hergest ac Edward H. DafisFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Poster Concwest Cilgerran yn gaddo perfformiadau gan Hergest ac Edward H. Dafis

Fel un a gafodd gyfle i berfformio ar y noson yn wahanol i aelodau Hergest ac Edward H. Dafis, beth oedd teimladau Rhys am ddiweddglo cynnar a dramatig Concwest Cilgerran?

"Chwerthin wnaethon ni ran fwya'! Dwi'n siŵr bod siom fod pobl heb gael chwarae ar y diwedd, ond le o'n i yn y cwestiwn, o'n i wedi 'neud fy bits i!

"O'n i yn teimlo yn lwcus bo' ni wedi canu beth bynnag ac wedi cael gwrandawiad lew.

"Ar ôl gadael y castell 'nath pawb drial mynd i'r Cardiff Arms; y dafarn fach druan yn Cilgerran oedd ddim wedi cael busnes cystal erioed yn eu bywydau."

Atgofion Geraint Davies o Hergest

Yn 1976 roedd Geraint Davies yn aelod o Hergest gyda Delwyn Siôn, Derec Brown ac Elgan Philip Davies.

Ar y pryd roedd Hergest newydd orffen recordio eu pedwerydd albwm, Ffrindiau Bore Oes, oedd yn cynnwys clasuron fel Harbwr Aberteifi ac Ugain Mlynedd Yn Ôl.

Roedd Eisteddfod Aberteifi '76 yn wythnos gyffrous iddyn nhw ac roedd ffans Hergest yn edrych ymlaen at glywed eu caneuon newydd yn fyw am y tro cyntaf.

Ond fe drodd y dair gig oedd gan Hergest ar y gweill yn ystod yr wythnos yn ddwy.

Geraint sy'n egluro: "Oedden ni fod i ganu tair gwaith yn ystod wythnos Aberteifi - Concwest Cilgerran ar y nos Iau, yn Y Pafiliwn ar y nos Wener a wedyn mewn sinema yn Aberteifi o'r enw The Pavilion ar y nos Sadwrn!

"Felly wnaethon ni ganu mewn dau bafiliwn yn ystod yr wythnos ond ddim yng Nghoncwest Cilgerran yn yr awyr agored."

Arlwy'r gig yn Y Pafiliwn gan Gymdeithas yr Iaith yr wythnos honnoFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Arlwy'r gig yn Y Pafiliwn gan Gymdeithas yr Iaith yr wythnos honno

Beth yw atgofion chwerw-felys Geraint o'r noson?

"Cyn i'r trydan fynd i ffwrdd, dwi'n cofio Steff Jenkins, y trefnydd, yn dod aton ni pan oedden ni'n aros yn y cwtsh bach yn y castell (achos adfail o gastell yw hi) yn holi a fydden ni'n fodlon torri'r set lawr achos o'n nhw yn rhedeg mas o amser rhwng bob dim.

"Roedd y generadur yn methu bob hyn a hyn ac yn achosi oedi cyn i'r trydan ddiffodd yn gyfan gwbl, ac ar ben yr oedi wedyn fe wnaeth ambell i grŵp (a wna i ddim enwi nhw... Josgin a Madog) ymlân ac ymlân felly roedd yr amserlen yn llithro yn ara' deg wrth i'r noson fynd ymlaen.

"Yn y diwedd wnaeth y generadur fethu'n llwyr a dyna gibosh ar yr holl beth felly fethon ni â chware ac oedd Edward H. Dafis i fod ar ein hole' ni."

Llwyfan yn y castellFfynhonnell y llun, Alcwyn Deiniol

"Oedd e'n siom, ond hei, roedd gyda ni ddwy noson arall o'n blaene ni!"

Er na chafodd Hergest berfformio caneuon eu halbwm newydd yng Nghoncwest Cilgerran yn 1976, mi fydd Hergest yn perfformio yn y Tŷ Gwerin brynhawn Mawrth ar faes Eisteddfod y Garreg Las.

Eglurai Geraint: "Bydd yn gyfle i ddathlu hanner can mlynedd o record Ffrindiau Bore Oes ac i ddangos ein bod ni dal yn ffrindie bore oes!

Aelodau HergestFfynhonnell y llun, Hergest
Disgrifiad o’r llun,

Aelodau Hergest yn 1976

"Byddwn ni'n canu a hel atgofion am ganeuon oedden ni'n canu yn 'Steddfod Aberteifi yn 1976 achos dyw 'Steddfod Y Garreg Las ddim yn bell iawn o 'Steddfod '76, ac mae'r tywydd hefyd yn benthyg ei hunan... oedd hi'n dwym iawn yn '76 hefyd!

"Ac o leiaf yn y Tŷ Gwerin mae siawns y cawn ni ganu," chwarddai Geraint.

Un o'r bobl ifanc aeth i Goncwest Cilgerran gan edrych ymlaen at noswaith lawn dop o gerddoriaeth Gymraeg oedd Emyr Davies o Fôn-y-maen ger Abertawe.

Sut mae Emyr yn cofio Concwest Cilgerran?

"Roedd hi wrth gwrs yn braf gweld y bandie gwnaeth berfformio - rhai ohonyn nhw do'n i heb ei gweld yn fyw na hyd yn oed clywed sôn amdanyn nhw o'r blaen.

"Ond roedd peidio clywed yr un nodyn gan Hergest ac Edward H. - y ddau grŵp ro'n i'n benodol wedi mynd i'w clywed - yn siom aruthrol a dweud y lleia'!"

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Hefyd o ddiddordeb: