Bryn Williams yn dod â chynnyrch gogledd Cymru i Wimbledon

- Cyhoeddwyd
Pan mae rhywun yn meddwl am yr hyn sy'n cael ei fwyta ym Mhencampwriaethau Wimbledon, mae bwydydd fel mefus a hufen, sgons, brechdanau ciwcymbr a diodydd fel Pimm's a lemonêd yn dod i'r meddwl.
Ond eleni ym mwyty Court Number 1 bydd blas cwbl Gymreig yno, diolch i'r chef o Ddyffryn Clwyd, Bryn Williams.
Yn siarad ag Alun Thomas ar raglen Post Prynhawn, dywedodd Bryn Williams bod "hi'n fraint i fod yn Llundain a bwydo pawb yn Wimbledon.
"Mae pawb dros y byd gyfan yn gwybod am Wimbledon. Mae bod yma'n coginio efo'r tîm yn dangos bach o ogledd Cymru yma yn Wimbledon - mae'n fraint bod yma i fod yn onest."

Bryn ym mwyty Court Number 1
Cafodd Bryn y gwahoddiad i weithio yn Wimbledon y llynedd, fel esboniodd:
"'Nath y sgyrsiau ddechrau rhyw flwyddyn yn ôl, 'nathon nhw ofyn a fyswn i'n gallu cymryd drosodd y tŷ bwyta 'ma ar Court Number 1, a ddoth nhw i fyny i'r gogledd i flasu'r fwydlen.
"'Nes i benderfynu bo' fi'n cynnig blas o'r tŷ bwyta ym Mhorth Eirias a Theatr Clwyd yn Yr Wyddgrug."
Hybu cynnyrch Cymreig
Dywed Bryn ei fod yn flaenoriaeth iddo gael arddangos cynnyrch o ogledd Cymru ar y fwydlen yn Wimbledon.
"Mae'n bwysig i fi ddod â bwyd o ogledd Cymru i lawr i Wimbledon a rhoi cynnyrch o Gymru ar blât.
"Ac mae'n bwysig i ni fel cwmni bob tro 'dan ni'n camu allan o'r tŷ bwyta 'dan ni'n mynd â'r bwyd efo ni, a defnyddio cynnyrch Cymreig.
"Does 'na ddim pwrpas i ni gamu allan a neud bwydlen hollol wahanol, achos mae'n bwysig i ni ddefnyddio Wimbledon fel ffenest - os mae'r bobl yma'n dod i'r gogledd ar eu gwyliau maen nhw'n gwybod be' maen nhw'n gael yn Theatr Clwyd neu ym Mhorth Eirias."

Y bwyd sydd yn dod i'r meddwl rhan amlaf wrth drafod Wimbledon
Felly, sut ymateb mae'r bwyd wedi ei dderbyn yn Wimbledon?
"Mae 'na lot o gwsmeriaid yn y tŷ bwyta sydd wedi bod yn Odettes (bwyty yr oedd gan Bryn am 20 mlynedd yn Primrose Hill, Llundain). Maen nhw'n gwybod am y cynnyrch, gwybod y safon i'w ddisgwyl, ac yn gwybod am y platiau.
"Mae cig oen wedi fflio allan o Gymru. 'Dan ni wedi gwerthu 100 o brydau cig oen y pnawn 'ma, am fod pobl yn gwybod bod y cynnyrch yn dda a'r ffaith mod i'n dod o Gymru.
"Ma' pawb yn gwybod bod cig oen o Gymru yn un o'r gorau yn y byd, ac mae'n haws gwerthu rhywbeth ma' pawb yn ei 'nabod yn barod.
"Pan 'dan ni'n camu allan o'r tŷ bwyta a gweithio rhywle arall dydi safon 'dan ni'n ei gynnig ddim yn mynd lawr o gwbl, dim ond y lleoliad ble 'dan ni'n gweithio - mae'r bwyd a'r safon yn aros yr un peth."
Bara Brith yn ogystal â sgon
Mae sgons a hufen ia a phaned o de yn ffefrynnau ym Mhencampwriaethau Wimbledon ers blynyddoedd lawer, ac yn dal yn bresennol ar fwydlen Bryn.
"Mae bara brith a chacennau cri yn bethau 'dan ni'n ei gynnig yn y bwytai yng Nghymru drwy'r flwyddyn, ac mae pawb yn hapus iawn efo nhw yma yn Wimbledon.
"Ond mae'r opsiwn yna hefyd i bobl gael sgon os maen nhw isio un - dydyn nhw heb ddiflannu.
"Mae'n bwysig i fi bo' ni'n arddangos bara brith a chacennau cri i bobl sydd 'di teithio o ledled y byd i weld y tennis. Maen nhw'n cael darn bach o Gymru, ac os ydy hynny'n helpu i gael nhw i ddod i Gymru a thrio mwy o'n bwyd ni, 'dan ni'n gyd ar ein hennill."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd5 Gorffennaf 2022

- Cyhoeddwyd20 Mai 2024

- Cyhoeddwyd12 Tachwedd 2023

- Cyhoeddwyd27 Gorffennaf 2020
