Dod â dawns i gartrefi gofal yng Nghymru

- Cyhoeddwyd
Yn ddiweddar mae fideos wedi mynd yn feiral o Bernard Gilbert yn dawnsio yn ei gartref gofal ac yntau'n 100 oed. Fe ddechreuodd ddawnsio yn yr 1940au cyn dod yn athro dawns pan oedd o'n 74 oed.
Yn ôl coreograffydd sy'n mynd â dawns i gartrefi i'r henoed yng Nghymru ers blynyddoedd, mae pobl hŷn yn gallu elwa o ddawnsio - ac nid dim ond o'r ymarfer corff.
Mae mwy na 1.5m o bobl wedi gwylio Bernard, o Sir Gaerwrangon, yn dawnsio ar y cyfryngau cymdeithasol
Ers ei dyddiau cynnar gyda Dawns i Bawb 30 mlynedd yn ôl, mae Siri Wigdel wedi credu bod angen cynnig dawnsio i bawb yn y gymuned, o bob oed.
Yn ddiweddar bu'n dawnsio gyda phreswylwyr cartrefi gofal i'r henoed yng Ngwynedd ac Ynys Môn ac yn ardaloedd Casnewydd, Caerdydd ac Abertawe.
Mae hi hefyd wedi bod yn rhan o ran o brosiect 'celf bob dydd' yn ei gwlad enedigol, Norwy, gan gynnal sesiynau mewn meithrinfeydd a chartrefi gofal gyda'i chydweithiwr Gull Øzger.

Siri yn dawnsio gyda rhai o breslwyr cartrefi gofal i'r henoed yng Nghymru
"Dim jyst y dawnsio ydi o," meddai ar raglen Post Prynhawn ar BBC Radio Cymru. "Wrth gwrs, mae'r dawnsio yn grêt achos ti'n gallu symud dy gorff, ond drwy wneud y dawnsio a drwy wneud symudiadau, be' dwi'n gweld ydi os 'da ni'n symud efo'n gilydd, mae storïau yn dod allan ar ôl dawnsio.
"Dwi'n cael lot mwy gan y bobl ar ôl dawnsio, ar ôl symud gyda'n gilydd daw'r holl straeon.
"Os yda ni jyst yn eistedd a chael panad a gwneud sesiwn stori, ti ddim yn cael gymaint. So dwi'n meddwl mae yna rhywbeth sy'n agor channels gwahanol yn dy frên di falle pan ti'n symud dy gorff."

Dywedodd Siri, sy'n wreiddiol o Norwy ond rŵan yn byw yng Ngwynedd, bod un ddynes 104 oed wedi codi ar ei thraed a dechrau dawnsio pan glywodd hi gerddoriaeth roedd hi'n ei adnabod.
Meddai: "Roedd hi jyst ar ei thraed yn dechrau dawnsio, yn mor hapus, ac isio dysgu fi.
"Nes i ofyn iddi hi, 'be' ydi'r style favourite chi?' 'Oh, it's got to be the foxtrot', medda hi.' 'Ti isho dysgu fi a phawb y foxtrot yn fan yma?' Ac mae hi off - mae'n jest fantastic i'w weld.
"Wnaeth hi ddeud wrtha i fi 'dwi erioed wedi gneud rhywbeth fel yna o'r blaen yn fy mywyd, ond dwi'n rili, rili hoff iawn o ddawnsio'.
"So yn 104 oed roedd hi'n cael profiad newydd, a dwi'n ffeindio hynna'n positif iawn. Mae'n bosib agor drws newydd i rywun sydd yn rili hen."
Mae Siri, sy'n byw ym Mhendryndeudraeth, hefyd wedi bod yn perfformio ei gwaith 4 Tymor sydd wedi'i anelu at bobl hŷn a phobl sy'n byw mewn cartrefi gofal.
Meddai: "Yn fy nyddiau o gychwyn a rhedeg Dawns i Bawb, roedd yn rhan o gylch gwaith y cwmni, gyda'r athroniaeth o roi mynediad i bawb i brofi dawns.
"Mae'r syniad y dylem wneud dawns yn bosibl i bawb yn un o egwyddorion sylfaenol dawns gymunedol, a ddatblygodd yn gryf iawn yng Nghymru o'r 1980au hyd heddiw."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd24 Rhagfyr 2025

- Cyhoeddwyd30 Hydref 2025

- Cyhoeddwyd10 Mawrth
