Will Hayward: 'Bod yn Sais yn helpu wrth ohebu am Gymru'

Will HaywardFfynhonnell y llun, Will Hayward
Disgrifiad o’r llun,

Will Hayward

GanAngharad Rhys
Yn gohebu oBBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Un o'r lleisiau a'r wynebau mwyaf amlwg yn y cyfryngau yn ystod etholiadau'r Senedd eleni oedd y newyddiadurwr, Will Hayward.

Roedd straeon a chlipiau fideo y gohebydd o Northampton am yr etholiad wedi cyrraedd cynulleidfa o filiynau yn yr wythnosau cyn Mai 7.

Bu'n siarad gyda Cymru Fyw am sut wnaeth e gwympo mewn cariad gyda Chymru a pham fod ei hunaniaeth fel Sais yn ei helpu i ddeall a gohebu am y wlad.

Wedi wyth mlynedd fel gohebydd gyda'r Western Mail, penderfynodd Will newid ei yrfa 18 mis cyn etholiadau'r Senedd er mwyn gohebu arnynt fel newyddiadurwr annibynnol.

Erbyn hyn mae ganddo dîm a swyddfa yng Nghasnewydd, fel mae'n sôn: "Un o'r rhesymau wnes i adael Wales Online oedd fod etholiadau'r Senedd yn mynd i fod yn gyfnod tyngedfennol yn hanes Cymru."

'Beth yw Cymru?'

"Nid yn unig oherwydd fod Llafur yn edrych yn debygol o golli ond oherwydd fod yr etholiad yn mynd i fod yn frwydr dros beth yw Cymru.

"Roedd yn teimlo fel adeg pwysig yn hanesyddol."

Cychwynodd Will, sy'n siarad yng Ngŵyl Arall yng Nghaernarfon ar ddydd Sadwrn 11 Gorffennaf, gylchlythyr gwleidyddol ac erbyn noson yr etholiad roedd ganddo dîm o 18 yn sôn am y digwyddiad ar y cyfryngau.

Ym mis Mai eleni mi wnaeth rhyw 500,000 o bobl ddarllen cylchlythyr Will Hayward, sydd wedi ennill gwobr yr wythnos yma am y cylchlythyr gorau yn y Publisher Newsletter Awards.

Meddai: "Fe wnaethon ni bopeth oedden ni'n gallu i hysbysu pobl am yr etholiad. Os oedd pobl yng Nghymru'n mynd i bleidleisio dros un blaid neu'r llall o'n i eisiau iddyn nhw wneud y penderfyniad mwya' gwybodus posib.

"Ac oherwydd fy nghefndir gyda Wales Online, dwi'n gwybod sut i wneud i algorithms cyfryngau cymdeithasol i weithio."

Will Hayward yn siarad yng Ngŵyl y Gelli Ffynhonnell y llun, Will Hayward
Disgrifiad o’r llun,

Will Hayward yn siarad yng Ngŵyl y Gelli

Dylanwad

Ydy Will felly yn credu ei fod wedi dylanwadu ar sut wnaeth bobl bleidleisio?

"Dwi'n credu fod ein gwaith wedi cael effaith ar sut oedd rhai pobl wedi pleidleisio.

"Y penderfyniad anoddaf i fi yn ystod yr etholiad oedd sut i sôn am bleidleisio tactegol. Achos roeddwn i'n derbyn gymaint o negeseuon gan bobl yn dweud bod nhw eisiau stopio'r blaid hyn neu'r llall.

"Felly wnaethon ni drio esbonio sut oedd pleidleisio tactegol yn gweithio a dwi'n meddwl fod hynny wedi cael effaith anferth."

Roedd cynnwys instagram Will wedi cael ei wylio rhyw bum miliwn o weithiau yn ystod y tair wythnos cyn yr etholiad.

Meddai: "Roedd TikTok, X a Facebook yr un peth gyda phob un yn cael traffig anferth. Felly dwi'n meddwl mod i wedi cael peth dylanwad ar ganlyniad yr etholiad yn enwedig mewn seddi lle roedd y canlyniad yn agos iawn ac i lawr i tua 10 pleidlais.

"Achos mae'n siŵr fod o leiaf 10 person wedi penderfynu ar sail beth oedden ni'n ei ddweud.

"Felly mi oedd dylanwad ond yn y pen draw beth oedd yn arbennig am etholiad eleni oedd fod gan bobl yng Nghymru mwy o ddiddordeb gwleidyddol nag erioed. Ac alla'i ddim cymryd y clod am hynny."

Cefndir

Er fod Will wedi teimlo fel rhywun o'r tu allan ar adegau wedi iddo symud yma o Loegr, mae'n teimlo fod ei gyfraniad at wleidyddiaeth yng Nghymru wedi helpu iddo deimlo'n rhan o'r wlad.

Erbyn hyn mae'n dysgu Cymraeg wedi iddo gwympo mewn cariad gyda Chymru fel myfyriwr ym mhrifysgol Caerdydd. Wedi graddio bu'n gweithio fel hyfforddwr personol ac mewn tafarndai a chanolfannau galw cyn cychwyn gwaith yn helpu pobl ifanc i gael prentisiaethau.

Wedi iddo gael cymhwyster newyddiadurol mae wedi canolbwyntio ar wleidyddiaeth er nad yw e'n dod o gefndir gwleidyddol.

Meddai: "Mae fy nheulu i'n Seisnig a byth yn siarad am Gymru na gwleidyddiaeth Cymru.

"Felly pan gychwynais i ohebu am Gymru roedd dipyn o'n i ddim yn gwybod ac roedd hi'n anodd i gychwyn. Os chi'n tyfu fyny yng Nghymru mae 'na lot o bethau chi'n gwybod yn reddfol.

"Ond dydw i ddim wedi teimlo fel rhywun o'r tu allan ers bod yn newyddiadurwr a gwneud ymdrech i ddeall Cymru.

"A dwi wedi ymdrechu yn galed iawn i gynrychiolu Cymru fel newyddiadurwr. Mae pobl yng Nghymru wedi rhoi croeso mawr i fi ac wedi gwneud i fi deimlo mai dyma fy nghartref a 'mod i eisiau mynd allan a brwydro drosti nhw.

"Rhan o hynny yw tyfu fyny yng nghanolbarth Lloegr mewn llefydd oedd yn ardaloedd diwydiannol sy' wedi dioddef ac sy' hefyd â undebau llafur cryf.

"Dwi ddim yn cymharu rhanbarth gyda chenedl ond mae 'na natur gorthrymedig i'r hunaniaeth yno a dwi'n meddwl fod hynny'n wir yng Nghymru hefyd ac wedi canu cloch i fi."

Bygythiadau

Mi wnaeth gwaith Will yn ysgrifennu am yr etholiad arwain at fygythiadau personol eleni: "Aeth pethau'n gas iawn cyn yr etholiad, yn enwedig ymhlith pobl ar yr adain dde eithafol.

"Dwi wedi gwella'r diogelwch yn fy nghartref oherwydd hynny ac mae'r heddlu wedi cynghori fi i gael diogelwch mewn rhai digwyddiadau gan gynnwys fy lansiad llyfr ym mis Mawrth.

"Dwi ddim yn poeni'n ormodol fy hun ond ti yn poeni am dy deulu."

Will Hayward yn cyfweld Rhun ap IorwerthFfynhonnell y llun, Will Hayward
Disgrifiad o’r llun,

Will Hayward yn cyfweld Rhun ap Iorwerth

Angerdd

Yn ei lyfr diweddaraf Who Cares About Wales? mae Will yn ysgrifennu'n angerddol am wleidyddiaeth yng Nghymru a sut mae Cymru wedi cael ei thrin dros y blynyddoedd.

Mae'n esbonio ei angerdd dros y wlad: "Dyma fy nghartref i a phan chi'n newyddiadurwr chi eisiau ysgrifennu am bethau sy'n bwysig i bobl. Ac mae Cymru yn bwysig ac mae pobl wirioneddol yn angerddol am Gymru.

"A beth sy' wedi taro fi wrth ymchwilio i Gymru yw faint mae Cymru wedi cael ei chamdrin mewn gymaint o ffyrdd amlwg.

"Fel gohebydd mae'n gyffrous achos mae pethau yn amlwg yn anghywir yma. Ac mae'n gyffrous i gael achos i ymladd drosto."

Hunaniaeth

Mae Will yn credu bod y ffaith ei fod yn Sais yn fantais wrth siarad am sefyllfa Cymru:

"Mewn ffordd rhyfedd mae bod yn Sais yn helpu achos pan dwi'n dweud fod Cymru wedi cael ei thwyllo, dwi ddim yn dweud hynny achos mod i'n Gymro.

"Dyw e ddim yn dod oherwydd cenedlaetholdeb na emosiwn. Mae'n dod o'r ffaith fod e'n amlwg yn wir."

Er fod Will yn disgrifio ei hun fel Sais, mae'n dweud fod ganddo ddau hunaniaeth erbyn hyn ac mae'n teimlo fel Cymro pan mae'n gadael Cymru: "Mae'r person ydw i heddiw wedi cael ei siapio mwy gan Gymru na gan Lloegr.

"Dwi'n dysgu'r iaith a dwi'n falch iawn i fyw yng Nghymru ac i adrodd straeon am Gymru.

"Dwi'n caru faint o ddiddordeb sy' gan bobl yng Nghymru mewn pobl eraill. Mewn cyfnod o gyfryngau cymdeithasol ac algorithms mae Cymru'n teimlo yn real iawn.

"Ac heb hynny a'r styfnigrwydd sy' gan Cymru ni fyddai'n bodoli heddiw.

"Fy hoff beth i am Gymru yw fod ti'n byw mewn cenedl hynafol sy' dal yn gweithio allan beth mae eisiau bod. Ac mae hynny'n gyffrous iawn.

"Ond yn y pen draw mae llefydd jest am y bobl. Felly mae'n clichè ond mewn gwirionedd beth sy'n arbennig yw'r bobl sy'n byw yma."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.